Elusennau Iechyd Hywel Dda ar rodd o £5,000 gan Warchodlu Cymru I Ysbyty’r Philip

0
303
Mae Clwb Aduniad Rygbi Gwarchodlu Cymreig wedi rhoi rhodd wych o £5,000 I Ysbyty Tywysog Philip ar gyfer gwella ardaloedd gardd, a fydd o fudd i les cleifion a staff.

Bydd y rhodd yn helpu gyda dau brosiect gardd sy’n cael eu datblygu ar hyn o bryd – yr Ardd Adsefydlu Strôc ar gyfer Ward 9 a Gardd Fyfyrio ar gyfer Ward 1.

Dywedodd Sally Lloyd, Therapydd Galwedigaethol Arweiniol: “Bydd y rhodd garedig hon ar gyfer ein gerddi yn cael effaith fawr ar iechyd a lles cleifion, staff ac ymwelwyr.

“Diolch i'r gwelliannau i'r Ardd Adsefydlu Strôc ar gyfer Ward 9, bydd cleifion yn gallu cymryd rhan mewn gweithgareddau garddio neu dim ond bod mewn man awyr agored tawel a all fod yn seibiant o amgylchedd a threfn yr ysbyty. Gall gofalu am blanhigyn fod yn agos at gael mwy o reolaeth ar eu bywyd ac iachâd. Mae canolbwyntio ar natur yn caniatáu rhagolwg mwy cadarnhaol.

Bydd yr Ardd Fyfyrio ar gyfer Ward 1 yn galluogi cleifion i gael man awyr agored heddychlon, therapiwtig a bydd hefyd yn fonws i staff, sydd wedi profi 18 mis anodd iawn, gael peth amser i ffwrdd a chofio am bawb yr ydym wedi pasio trwy ein drysau.”

Dywedodd yr Is-gyrnol Alun Bowen, Cadeirydd Clwb Aduniad Rygbi Gwarchodlu Cymreig: “Mae gan y Gwarchodlu Cymreig gysylltiad hanesyddol a Llanelli, gyda llawer o ddynion lleol yn gwasanaethu yn y gatrawd ers ein ffurfio yn 1915. Ers 2003, mae Clwb Aduniad Rygbi Gwarchodlu Cymreig wedi cynnal ei ginio bob dwy flynedd yng ngwesty Stradey Park.

“Rydym yn falch iawn o gefnogi’r GIG yn ystod yr amseroedd digynsail hyn a chynnig ein diolch dwys i holl staff GIG Llanelli, sydd wedi gofalu am rai o’n haelodau’n ddiweddar.”

I gael mwy o fanylion ar sut y gallwch chi helpu i gefnogi cleifion a staff lleol y GIG yn Sir Gaerfyrddin, Ceredigion a Sir Benfro, ewch i www.elusennauiechydhyweldda.org.uk 




Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle