£500,000 i roi mynediad am ddim i Eisteddfod yr Urdd ym mlwyddyn ei chanmlwyddiant

0
261
Welsh Government News

I nodi dathliadau canmlwyddiant yr Urdd, bydd Llywodraeth Cymru yn darparu cyllid felly bod mynediad i Eisteddfod yr Urdd y flwyddyn nesaf am ddim, gyda’r nod o wneud yr eisteddfod yn hygyrch i bawb.

Mae Jeremy Miles, Gweinidog y Gymraeg ac Addysg, wedi cyhoeddi y bydd Urdd Gobaith Cymru yn derbyn £527,000 o gyllid gan y llywodraeth i barhau gyda’r cynlluniau ar gyfer yr ŵyl y flwyddyn nesaf, sy’n dathlu ei chanmlwyddiant yn 2022.  Mae’r cyhoeddiad yn cefnogi’r ymrwymiad yn Rhaglen Lywodraethu Llywodraeth Cymru i ddarparu mynediad am ddim i Eisteddfod yr Urdd yn 2022.

Bydd Eisteddfod yr Urdd yn cael ei chynnal yn Ninbych rhwng 30 Mai a 4 Mehefin 2022 a dyma fydd y tro cyntaf i’r ŵyl lawn ddychwelyd ers 2019.  Fe wnaeth gwyliau rhithiol – a adnabyddir fel Eisteddfod T – gymryd lle’r prif ddigwyddiad yn 2020 a 2021 oherwydd y pandemig. 

Bydd mynediad am ddim i’r ‘Maes’ yn golygu y bydd mwy o bobl yn gallu ymweld â’r ŵyl a’i phrofi, rhai am y tro cyntaf, ac yn enwedig y rhai o gefndiroedd difreintiedig a allai fod wedi cael trafferthion fel arall gyda chost mynediad i’r digwyddiad.

Dywedodd Jeremy Miles, Gweinidog y Gymraeg ac Addysg:

“Rwy’n falch iawn o gyhoeddi cyllid i gefnogi’r ŵyl wych hon, ac rwy’n gobeithio y bydd cymaint o bobl â phosibl yn manteisio ar y cyfle i fynychu Eisteddfod yr Urdd yn 2022 a dathlu ei chanfed blwyddyn.

“Mae’n dyst i waith yr Urdd bod cymaint o oedolion ag atgofion melys o’u profiad o fynychu’r Eisteddfod a chystadlu pan oedden nhw’n iau. Mae Eisteddfod yr Urdd nid yn unig yn un o uchafbwyntiau diwylliannol ein calendr Cymreig, ond hefyd yn ffordd wych i’n plant a’n pobl ifanc weld a chlywed ein hiaith, ei siarad eu hunain, a chymryd rhan yn y digwyddiadau cystadleuol a chymdeithasol niferus sydd ar gael.”

Dywedodd Prif Weithredwr yr Urdd, Sian Lewis:

 “Rwy’n falch fod modd i Lywodraeth Cymru gefnogi’r Urdd yn ariannol er mwyn sicrhau mynediad am ddim i’r wyl mewn blwyddyn mor nodedig a’r canmlwyddiant yn 2022.

“Gwn fod yr Urdd yn gwneud gwaith campus yn sicrhau cyfleoedd i blant a phobl ifanc ar draws Cymru ond mae cynnig digwyddiad ‘am ddim’ yn eu hagor i gynulleidfa ehangach fyth.

“Fe fydd yr Eisteddfod yn wyl i bobl ifanc arddangos eu talentau, dathlu ein diwylliant a canrif o waith yr Urdd ac edrychaf ymlaen at fwynhau’r arlwy yn Sir Ddinbych yn 2022.”


Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle