Bob blwyddyn mae gwasanaeth Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda ‘Mae eu Fflam yn dal yn Ddisglair’ a gynhelir yng Ngardd Fotaneg Genedlaethol Cymru yn rhoi cyfle i gofio anwyliaid sydd wedi mynd huno ac i ddathlu eu bywydau yn ystod y gwyliau.
Yn anffodus, oherwydd y pandemig parhaus nid oeddem yn gallu cynnal ein gwasanaeth i’r gymuned fel y byddem fel arfer.
Dywed Euryl Howells, Uwch Gaplan Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda “Amser teuluol yw’r Nadolig ac am nifer o flynyddoedd mae pobl sy’n mynychu’r gwasanaeth hwn yn dweud wrthym eu bod wedi derbyn llawer o gysur gan eu bod yn cofio teulu, ffrindiau a chydweithwyr sydd heb fod gyda ni mwyach.
“Fel arfer mae hwn yn dymor o hapusrwydd ac i ddathlu ond i’r rhai sydd wedi colli rhywun maen nhw’n ei garu; gall hefyd fod yn gyfnod o dristwch mawr. Mae dod at ein gilydd a rhannu’r profiad yn gwneud i bobl i deimlo’n llai ar bennau eu hunain yn eu galar.
“Mae galaru’r rhai sydd wedi marw wedi bod yn arbennig o anodd eleni a’r flwyddyn ddiwethaf, yn aml heb agosrwydd teulu a ffrindiau sy’n darparu gwir gysur a chefnogaeth. Mae’n bwysig parhau â’n coffa.”
Yn anffodus, nad ydym wedi gallu cynnig gwasanaeth Coffa a Diolchgarwch ar-lein cyn y Nadolig, rydym yn deall pwysigrwydd dathlu bywydau ein hanwyliaid.
Gwahoddir y gymuned i anfon neges ar-lein i gofio a myfyrio ar yr amseroedd hapusach gyda rhywun rydych chi wedi’i golli naill ai yn ystod pandemig COVID-19 neu flynyddoedd blaenorol. Rhoddir eich neges ar y goeden Nadolig a bydd golau yn cael ei gynnau bod dydd rhwng 10 Rhagfyr a Dydd Nadolig.
Am ragor o wybodaeth neu i anfon eich neges, gallwch anfon e-bost at loved.forever.hdd@wales.nhs.uk neu efallai yr hoffech gysylltu ag Euryl Howells, Uwch Gaplan ar 01267 227563
Mae gwasanaeth yn yr arfaeth ar gyfer gwanwyn 2022 a bydd manylion ar gael pan fyddant wedi’u cwblhau.
Help keep news FREE for our readers
Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle