Cynnydd mewn gwasanaethau trĂȘn o Ragfyr 2021

0
280
Transport For Wales News

Mae cwsmeriaid Trafnidiaeth Cymru (TrC) yn cael eu hannog i wirio manylion eu taith wrth i gynnydd mewn gwasanaethau trĂȘn ddod i rym ym mis Rhagfyr 2021.

O ddydd Sul 12 Rhagfyr, bydd amserlen reilffordd newydd ar waith ar draws rhwydwaith TrC Cymru a’r Gororau. Bydd hefyd yn gweld gwasanaethau uniongyrchol yn cael eu hailgyflwyno rhwng Crosskeys a Chasnewydd am y tro cyntaf ers bron i 60 mlynedd.

Er na effeithir ar lawer o amseroedd gwasanaethau, dylai cwsmeriaid barhau i sicrhau eu bod yn gwirio yn drylwyr eu hamseroedd gadael, cyrraedd a chysylltu.

Dywedodd Colin Lea, Cyfarwyddwr Cynllunio a Pherfformiad Trafnidiaeth Cymru:

“Rydym yn cyflwyno mwy o wasanaethau ar draws ein rhwydwaith ac yn gwneud addasiadau mewn mannau eraill o’r 12fed Rhagfyr. Mae’n bwysig iawn bod cwsmeriaid yn gwirio manylion eu taith cyn teithio. 

“Wrth i ni groesawu mwy o gwsmeriaid yn ĂŽl i’n gwasanaethau, bydd rhai trenau’n brysurach nag y maent wedi bod, yn enwedig yn y cyfnod prysur yn arwain at y Nadolig.  Ar hyn o bryd, nid oes rhaid cadw pellter cymdeithasol, ond mae gorchuddion wyneb yn orfodol, oni bai bod y teithiwr wedi’i eithrio. I’r cwsmeriaid hynny sy’n dymuno teithio ar wasanaethau tawelach, dylent ddefnyddio ein teclyn Gwirio Capasiti.

Atgoffir cwsmeriaid bod gwisgo gorchudd wyneb tra ar drafnidiaeth gyhoeddus yn parhau i fod y gyfraith yng Nghymru a Lloegr, oni bai eu bod wedi’u  heithrio.  Rhaid gwisgo gorchudd wyneb hefyd mewn gorsafoedd caeedig. 

Rhaid i gwsmeriaid brynu tocyn dilys cyn defnyddio un o wasanaethau TrC.  Gellir gwirio manylion taith a phrynu tocynnau yma.

Cynehlir gwaith ar drawsnewid y Metro dros gyfnod y Nadolig a’r Flwyddyn Newydd, pan fydd y rhwydwaith yn dawelach, felly dylai cwsmeriaid wirio i ddarganfod a effeithir ar eu gwasanaeth.

Mae gwaith peirianneg mawr yn parhau ar Draphont Y Bermo tan ddydd Sadwrn 11 Rhagfyr.  O ganlyniad, bydd gwasanaeth bws yn lle trĂȘn yn rhedeg rhwng Machynlleth a Phwllheli.


Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle