Dydd Sul, 5 Rhagfyr, cynhaliodd Llys y Frân ei ffair grefftau gyntaf ar ôl agor ym mis Gorffennaf. Hwn oedd yr achlysur cyntaf i gael ei drefnu gan staff y Ganolfan. Denodd yr awyrgylch dymhorol hyfryd, ag ugain o stondinau yn y ganolfan ymwelwyr, bobl yn llu i chwilio am roddion Nadolig unigryw. Daeth dros 1200 o bobl i’r ffair ac roedd y stondinwyr ar ben eu digon gyda’r niferoedd. Roedd digonedd o ddewis i’r ymwelwyr gyda thlysau, canhwyllau, dillad, rhoddion i anifeiliaid, cardiau, addurniadau Nadolig, addurniadau i’r cartref a chrefftau cain.
Dywedodd Emma Bourton o Rhosfach, sy’n creu ac yn gwerthu tlysau “Cefais i ddiwrnod bendigedig, daeth nifer hynod o bobl ac roedd yr ymwelwyr yn hawddgar ac yn gwisgo mygydau bob amser. Hoffwn i ddiolch i staff y ganolfan am eu croeso cynnes a’u gwaith caled – nid dim ond ar y diwrnod ei hun, ond am eu gwaith trefnu rhagorol hefyd. Mae’r cyfleusterau newydd yn Llys y Frân yn hollol wych.”
Busnes newydd sy’n gwerthu rhoddion asio gwydr yn Aberteifi yw Dogem Glass. Dywedodd y perchennog, Emma “Mae niferoedd yr ymwelwyr wedi bod yn gyson er gwaetha’r tywydd, sy’n dangos bod y diwrnod wedi cael ei hysbysebu’n dda. Fel rhywun sy’n newydd i’r byd crefftau, mae rhai digwyddiadau wedi bod yn anodd i mi, ond rydych chi wedi meddwl am bopeth ac wedi gosod popeth allan i’r dim.”
Roedd Hilary Evans o Clarby Soaps wrth ei bodd ar y niferoedd a ddenwyd ac meddai “Diolch Llys y Frân am gynnal Ffair Nadolig fendigedig, fe welsom ni lawer o ymwelwyr ac roeddem ni’n brysur drwy’r dydd. Cadwodd y trefnwyr bawb yn ddiogel a chafodd pawb ddiwrnod i’w gofio.”
Diolchodd y rheolwr, Mark Hillary, y stondinwyr am eu cefnogaeth ac am wneud y ffair yn gymaint o lwyddiant. Cadarnhaodd y byddai Llys y Frân yn cynnal rhagor o ffeiriau crefftau tymhorol yn 2022, a’u bod yn bwriadu cynnal Ffair Nadolig estynedig dros ychydig ddyddiau yn Rhagfyr 2022.
Roedd Caffi Glan y Llyn yn Llys y Frân yn ferw o ymwelwyr yn mwynhau’r fwydlen dymhorol. Gwerthwyd y ffefryn cynnes Cymreig, ‘Cawl gyda bara a chaws’ i gyd, ac roedd y rholion selsig tymhorol cartref yn boblogaidd dros ben gyda’r ymwelwyr. Roedd y plant wrth eu boddau ar siocled gwyn poeth y dyn eira, ac roedd digonedd o ddewis i’r plant mwy gyda lattes bara sinsir, cappuccinos sinamon a’r Biscoffi bendigedig.
Mae ein bwydlen aeafol flasus a’n diodydd cynnes ar gael pob dydd rhwng 11am a 3pm. Mwynhewch un o’r llu o lwybrau cerdded o amgylch llyn Llys y Frân, wedyn ewch nôl i mewn i’r caffi cynnes am ddiod gynnes a byrbryd. Galwch draw i’r siop anrhegion sy’n cynnig syniadau anarferol am anrhegion Nadolig o safon. Ewch i’n gwefan am fanylion: <https://llys-y-fran.co.uk/>
Dilynwch ni ar Facebook, Instagram a Twitter @llysyfranlake.
Help keep news FREE for our readers
Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle