Llongyfarchiadau i Nigel Miller, Arweinydd Therapi Iaith a Lleferydd Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda, ar gael ei benodi’n Aelod o Urdd yr Ymerodraeth Brydeinig (MBE).
Derbyniodd Nigel ei MBE yn ystod ei arwisgiad yng Nghastell Windsor ar 16 Tachwedd i gydnabod ei wasanaeth i bobl ag anableddau dysgu.
âRydw i wedi fy synnu braidd o gael fy enwebu am yr anrhydedd hon,â meddai Nigel. âNid oes amheuaeth na fyddwn wedi ei chael pe na bawn wedi cael cyfle i weithio gyda rhai pobl anhygoel sy’n digwydd bod wedi cael eu labelu â’r term ‘anabledd dysgu’, yn ogystal â chydweithwyr rhagorol a thalentog, sefydliad blaengar a theulu gwirioneddol gefnogol.â
Dechreuodd Nigel weithio yn Sir Gaerfyrddin ym 1986 fel yr unig Therapydd Iaith a Lleferydd yn y gyfarwyddiaeth iechyd meddwl / anableddau dysgu ledled Sir Gaerfyrddin, Ceredigion a Sir Benfro. Yn ddiweddarach, adeiladodd dĂŽm o 14 o Therapyddion a Chynorthwywyr arbenigol yn y maes.
Ymunodd Nigel â’r gwasanaeth anableddau dysgu ym 1992 ac mae’n aelod o’r GrĹľp Cynghori Gweinidogol ar Anableddau Dysgu.
Cafodd ei gydnabod yn ffurfiol gan y Cyngor Proffesiynau Atodol i Feddygaeth pan gynorthwyodd wrth iddo drosglwyddo i fod y Cyngor Proffesiynau Iechyd a Gofal.
Yn 2003 mynychodd Nigel dderbyniad yn 10 Downing Street i gydnabod ei waith yn hyrwyddo gweithwyr proffesiynol perthynol i iechyd.
Bu’n gadeirydd ar reolwyr Therapi Iaith a Lleferydd ar hyd a lled Cymru, ac fel cynrychiolydd Pwyllgor Cynghori TherapĂŻau Cymru yn 2007/08, roedd hefyd yn allweddol wrth ddatblygu achos dros sefydlu a phenodi cyfarwyddwyr therapi gweithredol ar y Byrddau Iechyd a oedd newydd eu ffurfio yng Nghymru.
Yn ddiweddarach, cyflwynwyd Gwobr Cymrodoriaeth Therapi Iaith a Lleferydd y Coleg Brenhinol i Nigel mewn seremoni wobrwyo a gynhaliwyd yn San Steffan ym mis Hydref 2011.
Ymhellach, chwaraeodd ran hanfodol yn natblygiad yr arwyddion cyfeirbwyntiau yn Ysbyty Llwynhelyg i ddechrau ac yna mewn nifer o ysbytai ledled y DU. Dyluniwyd y rhain i helpu pobl ag anableddau dysgu i ddod o hyd i’w ffordd o gwmpas ysbytai yn haws.
Cafodd y canlyniad ymateb cadarnhaol ymhlith pobl ag anableddau dysgu a’r cyhoedd. Enillodd y prosiect hwn sylw rhyngwladol ac anrhydeddau gan ei gyfoedion a llywodraeth Cymru, gan ennill y wobr âDinasyddion wrth wraidd Ail-ddylunio a Chyflenwi Gwasanaethâ yng Ngwobrauâr GIG 2013.
âMae gen i hemoffilia difrifol, syân golygu nad yw fy ngwaed yn ceulo heb driniaeth, felly treuliais lawer o fy mywyd cynnar ar ward plant yn Nyfnaint. Gwelais lawer o feddygon, nyrsys a therapyddion yn blentyn, fe wnaeth hyn fy ysbrydoli i weithio yn y GIG,â ychwanegodd Nigel.
Yn 2019 derbyniodd Nigel Wobr GIG Cymru, am ârymuso pobl i gyd-gynhyrchu gofalâ.
Mae angerdd Nigel dros gynnwys pobl ag anableddau dysgu yn natblygiad gwasanaethau yn ei arwain i arloesi cynllun gwirfoddoli i gynnwys defnyddwyr gwasanaeth mewn archwiliadau a datblygu strategaeth.
Mae Nigel yn gefnogwr brwd oâr âDream Teamâ; syân cynnwys pobl ag anableddau dysgu sy’n cynrychioli’r boblogaeth anabledd dysgu ehangach yng nghyfarfodydd y Bartneriaeth Ranbarthol. Datblygodd y âDream Teamâ y Siarter Anableddau Dysgu, sy’n nodi’r hyn y mae pobl ei eisiau gan wasanaethau.
Esboniodd âMae’n anrhydedd cael bod yn rhan o’r âDream Teamâ ac rwy’n falch o fod yn rhan o sefydliad (Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda) sydd wedi ymuno â’r Siarter ac yn awyddus i wneud gwahaniaethâ.Â
Help keep news FREE for our readers
Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle