Cais llwyddiannus y cyngor am gyllid gwerth £499,000 ar gyfer prosiect peilot i gefnogi pobl ifanc

0
461

Mae Cyngor Castell-nedd Port Talbot wedi gwneud cais llwyddiannus am gyllid ar gyfer prosiect peilot i gefnogi pobl ifanc gyda’u lles ac wrth symud ymlaen i gyflogaeth, addysg a hyfforddiant.

Arweinir y cynllun peilot gwerth £499,000 gan Dîm Gwasanaeth Ieuenctid y cyngor a bydd ar gael i bobl 11-25 oed sy’n byw yng Nghastell-nedd Port Talbot.

Mae’r prosiect chwe mis cychwynnol wedi cychwyn gyda chynlluniau i ymestyn hyd y prosiect wrth aros am gyllid pellach.

Bydd y prosiect yn darparu cymorth mewn pedair ffordd gan gynnwys:

Cefnogaeth Lles – Ffyrdd o gryfhau a gwella lles emosiynol a meddyliol pobl ifanc a gefnogir gan Dîm Lles y Cyngor.

Cwricwlwm Amgen a Rhaglenni Ailymgysylltu – Bydd gwasanaeth Sgiliau a Hyfforddiant y cyngor yn nodi ac yn cefnogi disgyblion sy’n dychwelyd at addysg ffurfiol yn dilyn y tarfu o ganlyniad i bandemig COVID-19.

Nodi gyrfa a phrofiad gwaith – Gweithio ar y cyd â Gyrfa Cymru i helpu pobl ifanc i ddewis llwybr gyrfa a nodi cyfleoedd profiad gwaith addas.

Dileu rhwystrau – Bydd y Gwasanaeth Ieuenctid yn helpu pobl ifanc trwy ddileu unrhyw rwystrau a mynd i’r afael ag unrhyw sgiliau y mae eu hangen arnynt i symud ymlaen yn eu gyrfaoedd. Yn ogystal â hyn, byddant yn darparu cefnogaeth ac arweiniad trwy weithwyr ieuenctid sydd wedi cael hyfforddiant i helpu pobl ifanc i symud ymlaen ar eu taith i gyflogaeth, addysg neu hyfforddiant.

Meddai’r Cynghorydd Peter Rees, Aelod Cabinet Cyngor Castell-nedd Port Talbot dros Addysg, Sgiliau a Diwylliant, “Mae sicrhau bod pobl ifanc yn ymroi’n llawn i’w haddysg yn hanfodol wrth osgoi’r perygl ohonynt yn peidio â symud ymlaen i addysg, cyflogaeth neu hyfforddiant – yn enwedig yn ystod pandemig COVID-19.

“Bydd y prosiect peilot hwn yn sicrhau eu bod yn derbyn y gefnogaeth a’r arweiniad y mae eu hangen arnynt, nid yn unig ar gyfer eu haddysg ond hefyd ar gyfer eu lles.

“Fel cyngor, rydym yn ymrwymedig i roi’r dechrau gorau mewn bywyd i bob

person ifanc fel y gallant fod y gorau y gallant fod.”

Ariennir y prosiect hwn gan Lywodraeth y DU trwy Gronfa Adfer Cymunedol y DU.


Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle