Plant a phobl ifanc – rhannwch eich barn ar brofiadau iechyd

0
233

Gofynnir i blant, pobl ifanc a theuluoedd rannu eu profiadau o ofal iechyd Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn Sir Gaerfyrddin, Ceredigion a Sir Benfro.

Anogir teuluoedd i lenwi holiaduron sy’n briodol i’w hoedran tra bo plentyn neu berson ifanc yn aros yn yr ysbyty neu wrth ddefnyddio gwasanaeth fel Adran Achosion Brys, Uned Gofal Ambiwladol (asesiad dydd / gofal i blant), apwyntiadau cleifion allanol neu wasanaethau eraill.

Efallai y gofynnir ichi lenwi holiadur tra bydd eich plentyn yn yr ysbyty, neu gallwch wneud hyn wedi hynny o gartref, trwy ymweld â https://hduhb.nhs.wales/ a chwilio ‘adborth’.

Mae’r bwrdd iechyd hefyd yn defnyddio gwasanaeth neges testun yn dilyn rhyddhau plentyn neu berson ifanc, sy’n eich galluogi i raddio’ch profiad a rhannu unrhyw farn.

Yna gellir defnyddio’r wybodaeth hon i lunio darpariaeth gofal plant yn y dyfodol.

Dywedodd Janet Millward, Uwch Nyrs Paediatreg: “Ein nod yw darparu gwasanaeth o’r ansawdd gorau i blant a phobl ifanc a’u teuluoedd. Ystyriaeth hynod bwysig yn hyn yw defnyddio ac ymateb i farn, meddyliau a phrofiadau pobl sydd â phrofiad uniongyrchol. ”

Mae’r bwrdd iechyd yn arbennig o awyddus ar hyn o bryd i gasglu barn pobl sy’n byw yn Sir Benfro, de Ceredigion a Sir Gaerfyrddin.

Bydd estyniad y newid gwasanaeth dros dro sydd wedi gweld gwasanaethau ysbyty plant yn ystod y dydd (Uned y Pâl) yn symud o Ysbyty Llwynhelyg yn Hwlffordd, i Ysbyty Glangwili, yng Nghaerfyrddin, yn effeithio ar blant, pobl ifanc a theuluoedd yn yr ardaloedd hyn. Mae hyn wedi digwydd o ganlyniad i’r pandemig COVID-19 parhaus.

Esboniodd y Rheolwr Cyffredinol dros Wasanaethau Menywod a Phlant, Lisa Humphrey: “Rydym yn bwriadu cychwyn adolygiad o’n gwasanaethau plant ym mis Mawrth 2022, gan adrodd yn ôl i’r Bwrdd Iechyd yn hydref 2022.

“Fel rhan o hyn, rydyn ni am ddal profiadau byw ein gofal gan blant, pobl ifanc, rhieni neu ofalwyr, yn ogystal â chanlyniadau, ansawdd a diogelwch ac ystyriaethau’r gweithlu. Gall adborth parhaus hefyd ein helpu gyda gwelliant parhaus, felly byddwn yn annog unrhyw un sydd wedi defnyddio ein gwasanaethau i roi gwybod i ni am eu profiad. “

Fel arall, os hoffech rannu eich barn â chorff annibynnol, gallwch ymweld â gwefan Cyngor Iechyd Cymuned Hywel Dda https://hywelddachc.nhs.wales/ a gweld eu hadran ‘Arolygon Byw’, sy’n cynnwys arolwg pwrpasol ar wasanaethau ysbyty plant.


Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle