Adran Merched Clwb Golff Machynys yn codi £4,000 ar gyfer Ysbyty Tywysog Philip

0
446
Llun: Adran Merched Clwb Golff Machynys yn cyflwyno Wrolegydd Ymgynghorol Mr Ng gyda siec o £ 2,000

Mae Adran Merched Clwb Golff Machynys wedi codi dros £4,000 i’r Adran Wroleg a Uned Gofal y Fron yn Ysbyty Tywysog Philip yn Llanelli.

Digwyddodd y codi arian yn ystod wythnos agored y Clwb ym mis Awst 2021 a oedd yn cynnwys raffl ddyddiol ac ocsiwn. Cyflwynwyd sieciau am £2,000 i’r Wrolegydd Ymgynghorol Mr Ng o’r Adran Wroleg ac i Mr Holt, Ymddiriedolwr Cronfa Uned Gofal y Fron Ysbyty Tywysog Philip.

Dywedodd Rhiannon Roberts, Capten y Merched yng Nghlwb Golff Machynys: “Roedd yn hyfryd cwrdd â Mr Ng a Mr Holt a chyflwyno’r sieciau ar ran aelodau Clwb Golff Machynys.

“Yn ystod ein hwythnos agored ym mis Awst (fel yn 2020) roeddem yn gallu manteisio ar haelioni ein hymwelwyr a rhedeg raffl ddyddiol ynghyd ag ocsiwn o bedair pêl i rai o gyrsiau golff gorau’r wlad.

“Fe godon ni ychydig dros £4,000 y llynedd a £4,500 arall eleni ac roedden ni wrth ein boddau o allu cyflwyno rhoddion o £2,000 yr un i’r Adran Wroleg a Uned Gofal y Fron yn 2020 ac eto yn 2021.

“Roeddem yn teimlo ei bod yn bwysig cefnogi achosion sy’n gweithio yn ein cymuned, ac mae’r ddwy adran yn gwneud gwaith anhygoel.”

Dywedodd yr Wrolegydd Ymgynghorol Mr Ng: “Rydym yn hynod ddiolchgar i Adran Merched Machynys am eu cefnogaeth barhaus a’u rhoddion rhyfeddol. Mae rhoddion elusennol yn caniatáu inni brynu eitemau y tu hwnt i’r hyn y gall y GIG ei ddarparu er budd cleifion Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda. “


Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle