Canolbwyntio ar Uned Ddydd Cemotherapi

0
364
chemo staff picture

Mae staff yn edrych ymlaen at helpu i siapio’r Uned Cemotherapi Dydd newydd yn Ysbyty Bronglais.

Yn dilyn lansiad ApĂȘl Cemo Bronglais i godi’r ÂŁ500,000 terfynol ar gyfer uned ddydd bwrpasol ac wrth i’r apĂȘl fagu momentwm, mae staff yr uned yn gyffrous am y cynlluniau a’r hyn y byddant yn ei olygu i gleifion.

Bydd dyluniad terfynol yr uned newydd yn cael ei arwain gan staff sy’n gwybod orau beth ddylai’r uned ei ddarparu a sut y dylai’r amgylchedd fod. Bydd cleifion a rhanddeiliaid allweddol eraill hefyd yn cymryd rhan yn y broses hon.

Dr Elin Jones

Dywed arweinydd clinigol yr uned newydd Dr Elin Jones y bu siarad a gobaith ac uchelgais ynglĆ·n Ăą chael uned cemotherapi dynodedig yn Ysbyty Bronglais ers dros 20 mlynedd.

“Mae gan Ysbyty Bronglais yr uchelgais a’r ysfa ers amser maith i ddarparu’r gwasanaeth gorau i gleifion canser. Yn ystod fy nghyfnod ym Mronglais mae wedi bod yn amlwg, er bod y gwasanaeth gan y tĂźm cyfan wedi bod yn rhagorol, nad yw’n cael ei ddarparu mewn uned sy’n addas at y diben,” meddai Elin.

“Bydd uned newydd yn amddiffyn y gwasanaeth yn y dyfodol oherwydd wrth i driniaethau canser ehangu a datblygu, rydym yn gweld mwy o gleifion yn byw gyda’u diagnosis canser ac yn derbyn triniaeth barhaus.

“Bydd yr uned yn darparu triniaeth a gofal sy’n amddiffyn urddas a phreifatrwydd a bydd yn lle dymunol lle nad oes ots gan gleifion dreulio amser.

“Ac i staff bydd yn rhoi hwb mawr i forĂąl, oherwydd nid yn unig y byddan nhw’n falch o’r gwaith maen nhw’n ei wneud ond hefyd sut maen nhw’n ei drosglwyddo i gleifion.”

Rhian

Dywedodd Rhian Jones, Nyrs Arbenigol Glinigol: “Fy ngobeithion yw y gallwn gael ardal driniaeth sy’n gyffyrddus, lle gellir cynnal preifatrwydd ac urddas, a lle mae’r cynllun wedi’i ddylunio fel bod cleifion allanol yn cael eu gweld mewn ardal ar wahĂąn i’r rhai sy’n cael triniaeth.

“Mae cleifion a staff yn edrych ymlaen at uned bwrpasol, a fydd yn ategu’r gofal rhagorol sy’n cael ei ddarparu,” ychwanegodd Rhian, a oedd yn Uwch Brif Nyrs ar yr Uned am 16 mlynedd cyn cymryd secondiad tair blynedd yn ddiweddar i rîl Nyrs Glinigol Oncoleg Macmillan.

Eirian

Dywedodd Eirian Gravell, Nyrs Haematoleg Arbenigol, sydd wedi bod yn rhan o’r tüm ers 22 mlynedd: “Mae angen uned bwrpasol arnom a all ddarparu ar gyfer pob claf, gan gofio ein bod yn darparu gwasanaeth i drigolion Ceredigion, de Gwynedd a gogledd Powys.

“Rhaid iddi fod yn uned lle gall cleifion weld pob aelod o staff, gan gynnwys therapyddion galwedigaethol, deietegwyr, nyrsys arbenigol, yn ogystal Ăą’r tĂźm cemotherapi. Rydym yn cynnig gofal o safon uchel, heb ei ail. Bydd yn braf cael cyfleuster sy’n adlewyrchu hynny. ”

Dywedodd rheolwr dros dro yr uned, Nyrs Arbenigol Glinigol Cemotherapi Bettina Vance: “Rydyn ni eisiau gwell cyfleusterau ac amgylchedd gwell i gleifion a staff.”

Dywedodd y Nyrs Cemotherapi Patricia Mozafari: “Bydd yn dda cael gorsaf ganolog ar gyfer nyrsys, rhywbeth nad oes gennym ar hyn o bryd, ynghyd ag ystafelloedd ar wahñn ar gyfer brechiadau a llenni ar gyfer preifatrwydd, ynghyd ag ardal wybodaeth i gleifion gael mynediad iddi. Bydd uned bwrpasol newydd yn rhoi balchder yn y gwasanaeth i gleifion a staff. ”

Ychwanegodd y Nyrs Cemotherapi Sacha Williams: “Fy ngobeithion ar gyfer yr uned newydd yw y bydd mwy o breifatrwydd i gleifion, gan ddarparu amgylchedd mwy cyfforddus a chroesawgar iddynt, a fydd yn helpu cleifion a staff.”

Dywedodd Stacey Mleczek, Gweithiwr Cymorth Gofal Iechyd: “Rydyn ni eisiau gweld uned ddydd cemotherapi sy’n cynnig mwy o breifatrwydd i gleifion mewn amgylchedd mwy cartrefol. Mae angen man aros cleifion arnom hefyd a byddai’n hyfryd cael ystafell staff. “

Dywedodd Rebecca Fletcher, Gweithiwr Cymorth Gofal Iechyd: “Bydd amgylchedd mwy disglair gymaint yn fwy croesawgar i gleifion. Bydd y preifatrwydd ychwanegol, gydag ardaloedd pwrpasol i gleifion aros a chael eu gweld, gymaint yn well.


Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle