Byddai naw o bob deg o oroeswyr strôc yng Nghymru yn rhybuddio’u hunan iau i newid eu ffordd o fyw, yn ôl arolwg gan y Gymdeithas Strôc

0
466
Tyge Byrne

Byddai naw o bob deg o oroeswyr strôc yn mynd yn ôl mewn amser ac yn annog eu hunan iau i wneud newidiadau yn eu ffordd o fyw a allasai fod wedi atal eu strôc, y mae arolwg newydd drwy’r Deyrnas Unedig gan y Gymdeithas Strôc wedi’i ddatgelu.

Dywed bron i naw o bob deg o bobl (87%) a holwyd yng Nghymru nad oeddynt wedi sylweddoli eu bod mewn perygl o strôc.

Ond roedd dros naw o bob deg ers hynny wedi gwneud newidiadau i’w ffordd o fyw. Mae hyn yn bwysig i’r ddau o bob pump o bobl a all gael ail strôc wedyn1.

Cyhoeddodd yr elusen y canfyddiadau i nodi Diwrnod Atal Strôc ddydd Gwener, y 14eg o Ionawr, ac mae’n annog pawb i wneud un newid bach i leihau’u risg eu hunain o strôc. Strôc yw un o brif achosion anabledd ymysg oedolion a’r achos mwyaf ond tri o farwolaethau yn y Deyrnas Unedig. Tra nad oes modd osgoi rhai strociau, mae hyd at naw o bob deg yn gysylltiedig â ffordd o fyw ac y gellir eu hatal petai pobl yn ymwybodol o’r risgiau ac yn gallu gwneud newidiadau2.

Roedd Tyge Byrne, 57, o Gaerdydd ond yn 53 oed pan gafodd ei strôc. Effeithiodd y strôc ar ei symudedd a’i leferydd. Dywedwyd wrtho gan y meddygon fod ei ffordd o fyw afiach yn debygol o fod wedi bod yn ffactor yn y ffaith iddo gael strôc.

Mae’n dweud:

“Nid oes yna air i ddisgrifio fy strôc heblaw ‘dinistriol’. Ni allwn gerdded, ni allwn ddefnyddio fy mraich, ac roedd fy lleferydd yn hollol ddryslyd. I waethygu’r cyfan, gwnaeth y ddynes a fu’n wraig imi am 36 mlynedd fy ngadael tra oeddwn yn yr ysbyty. Pe na bawn i wedi cael y strôc. Roeddwn yn difaru’n syth oherwydd fy ffordd o fyw a oedd yn beryglus o afiach.

“Yfwn bob noson ac roeddwn yn ysmygwr. Roedd fy niet yn wael – bwytawn fwydydd siopau prydau parod yn rheolaidd ac roedd fy nognau’n rhy fawr. Ni wnes hyd yn oed feddwl am yr ergyd i’r corff a oedd ar fin fy nharo o ganlyniad i fy ffordd o fyw.

“Pe bawn ond wedi gwybod beth oedd am fy wynebu am weddill fy oes, byddwn wedi byw bywyd iachach. Mae meddwl am gael strôc arall yn frawychus, ac felly gwnes y penderfyniad i newid pethau.

“Nid wyf yn yfed nac yn ysmygu mwyach. Rwyf wedi mynd o brydau parod o siopau a phrydau bwyd o’r ficrodon i ddiet cytbwys, ac rwyf yn ymarfer mwy. Rwyf yn gwneud ymarferion corff cymedrol dan do ac rwyf am ddechrau ymarfer yn yr awyr agored, nid yn unig er lles fy iechyd cyffredinol, ond hefyd i wella diffygion fy strôc. Rwyf yn teimlo’n llawer iawn iachach ac mae bywyd wedi gwella cymaint imi. Rwyf wedi mynd o deimlo fel nad oedd bywyd yn werth i’w fyw, i gael ymdeimlad go iawn o bwrpas.”

Y prif newid y byddai goroeswyr yn annog eu hunan iau i’w wneud yw lleihau lefelau straen, gyda 47% yn dweud y byddent wedi gwneud hyn. Mae newidiadau eraill y byddai goroeswyr strôc wedi’u gwneud yn cynnwys:

Monitro pwysedd gwaed – 40%

Bwyta’n iachach – 30%

Colli swm penodol o bwysau (er enghraifft, un stôn neu ddeg cilogram) – 30%

Ymarfer mwy – 28%

Yfed llai o alcohol – 24%

Monitro colesterol uchel – 23%

Rhoi’r gorau i ysmygu – 20%

Cymryd llai o halen – 14%

Fel cam cyntaf, mae ar y Gymdeithas Strôc eisiau i bobl wneud un newid bychan i leihau’u risg o strôc, gan ddechrau ar Ddiwrnod Atal Strôc.

Mae enghreifftiau’n cynnwys:

Cael gwirio’ch pwysedd gwaed, colesterol a’ch pwls yn rheolaidd;

Rhoi’r gorau i ysmygu;

Cael amryw o ddiwrnodau di-alcohol bob wythnos;

Newid eich diet i gynnwys llai o halen neu newid i bethau eraill sydd â llai o sodiwm, megis LoSalt®;

Bwyta mwy o ffrwythau a llysiau;

Codi a symud yn rheolaidd yn ystod y dydd, yn enwedig os ydych yn gweithio o’ch cartref;

Ymuno ag ymarfer ar-lein neu grŵp gweithgareddau, neu’n well byth, cymryd her Brasgamu dros Strôc yr elusen – un cam dros bob un o’r 1.3 miliwn o oroeswyr strôc yn y Deyrnas Unedig.

Dywedodd Katie Chappelle, Cyfarwyddwr Cyswllt Cymru yn y Gymdeithas Strôc: “Mae strôc yn digwydd yn yr ymennydd, y ganolfan reoli ar gyfer pwy ydym a beth y gallwn ei wneud. Gall ddigwydd unrhyw adeg ac i bobl o unrhyw oed, a gall fod yn ddinistriol.

“Gwyddom nad oes modd osgoi pob strôc, ond gallai cynifer â naw o bob deg o strociau gael eu hatal, gan eu bod yn gysylltiedig â phethau y gallwch eu newid neu’u rheoli. Mae llawer o bobl nad ydynt yn sylweddoli eu bod mewn perygl, ac mae hynny’n rhywbeth y mae arnom ni fel elusen yn wir eisiau’i unioni.

“Gall effeithiau strôc newid bywyd i chi a’ch teulu, felly pam na wnewch bopeth y gallwch i osgoi strôc eich hun?

“Fodd bynnag, gwyddom nad yw bob amser yn hawdd, ac felly dewiswch rywbeth sy’n hydrin i chi. Amcanwch at gadw ato am dri mis yn gychwynnol, ac os gallwch wneud hynny, rydych yn fwy tebygol o fagu arferiad rheolaidd.

“Y newyddion da o’r ymchwil hwn yw bod dros naw o bob deg o oroeswyr strôc eisoes wedi cymryd camau i leihau’u risg o gael strôc arall.”

Lansiwyd ymgyrch yr elusen mewn partneriaeth â LoSalt®.

Dywedodd bron i draean o oroeswyr strôc y byddent yn ymarfer mwy, ac un ffordd ddelfrydol o gymell eich hun yw drwy gofrestru ar gyfer yr her Brasgamu dros Strôc. Canfyddwch fwy o wybodaeth am hyn ac am y pethau eraill y gallwch eu gwneud yn www.stroke.org.uk/stroke-prevention-day. Bydd arian a godir yn helpu gwaith yr elusen i gynorthwyo goroeswyr strôc a gofalwyr ledled y Deyrnas Unedig.


Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle