- 1,000 a mwy o gyrsiau a 15,000 o oriau o erthyglau a fideos
- Hanner miliwn o ymweliadau o Gymru yn ystod y 2 flynedd diwethaf
- Partneriaethau â Llywodraeth Cymru, y Ganolfan Byd Gwaith a’r Adran Gwaith a Phensiynau
Mae safle dysgu am ddim Y Brifysgol Agored, OpenLearn, yn dathlu carreg filltir ar ôl cyrraedd 100 miliwn o ymwelwyr yn ystod y 15 mlynedd ers iddo gael ei lansio. Yn ystod y ddwy flynedd diwethaf, daeth dros 500,000 o ymweliadau o Gymru, a chafwyd ton o draffig yn ystod cyfyngiadau symud cyntaf COVID-19.
Cafodd OpenLearn ei sefydlu fel adnodd addysgol agored arloesol ac mae wedi llwyddo i chwalu’r rhwystrau i addysg, gyda mwy na mil o gyrsiau a 15,000 o oriau o sesiynau addysgol rhyngweithiol, fideos ac erthyglau.
Yn ystod y cyfyngiadau symud cyntaf ym mis Mawrth 2020, cododd yr ymweliadau dyddiol i’r safle o 40,000 i 160,000 rheolaidd y dydd ar gyfartaledd. Trwy gydweithio â Llywodraeth Cymru a Gyrfa Cymru ar ddechrau’r pandemig, aeth y brifysgol ati’n sydyn i greu cynnwys perthnasol ac amserol i helpu pobl o weithwyr ar ffyrlo a oedd am uwchsgilio a myfyrwyr a oedd am gefnogi eu dysgu personol, i blant a oedd yn addasu i ddysgu o adref a gweithwyr gofal iechyd proffesiynol oedd yn chwilio am gyngor.
Mae OpenLearn hefyd wedi cydweithio â’r Adran Gwaith a Phensiynau a’r Ganolfan Byd Gwaith i helpu ceiswyr gwaith i ddatblygu’r sgiliau gwerthfawr sydd eu hangen i sicrhau cyflogaeth.
Gyda chyrsiau byr ar bob pwnc, o reoli cyllid personol i ynni adnewyddadwy, bu’r Brifysgol Agored yng Nghymru yn gweithio’n ddiweddar gyda Llywodraeth Cymru i ddefnyddio OpenLearn fel y sianel i gefnogi mentrau fel ‘Barod ar Gyfer y Brifysgol’, pecyn o adnoddau rhad ac am ddim i baratoi myfyrwyr am eu camau cyntaf i addysg uwch.
Mae gan OpenLearn dau hwb penodol i Gymru gydag adnoddau ar hanes, cymdeithas a diwylliant y genedl – mae gan OpenLearn Cymru gynnwys yn Gymraeg ac OpenLearn Wales gynnwys yn Saesneg.
Yn 2021, y cynnwys mwyaf poblogaidd ar OpenLearn o Gymru oedd:
- Everyday English 1 (cwrs)
- Croeso: Beginners’ Welsh (cwrs)
- Caring for adults (cwrs)
- Supporting children’s development (cwrs)
- Everyday English 2 (cwrs)
- University Ready (hwb cynnwys)
- Academi Arian MSE (cwrs)
- Aberdulais Falls: A case study in Welsh heritage (cwrs)
- Planning a better future (cwrs)
- OpenLearn Wales (hwb cynnwys)
- Using voluntary work to get ahead in the job market (cwrs)
- Teaching assistants: Support in action (Wales) (cwrs)
- Discovering Wales and Welsh: first steps (cwrs)
- Welsh history and its sources (cwrs)
- Understanding devolution in Wales (cwrs)
Dywedodd Is-ganghellor Y Brifysgol Agored, yr Athro Tim Blackman:
“Mae OpenLearn wedi newid cryn dipyn ers iddo gychwyn yn 2006 gyda thwf eithriadol yn nifer yr ymwelwyr a dysgwyr yn ystod y pandemig. Mae’n achubiaeth ar ffurf dysgu i filiynau o bobl ar draws y DU ac ar draws y byd. Mae dros 1000 o gyrsiau gwahanol am ddim ar ystod eang o bynciau yn ogystal â dros 15,000 erthygl, gweithgareddau rhyngweithiol, podlediadau a fideos.”
“Y mis hwn rydyn ni’n dathlu cyrraedd 100 miliwn o ymwelwyr, yn cyhoeddi ein dwy filiwnfed tystysgrif am ddim ac yn dyfarnu’r dau gan milfed bathodyn digidol.”
Ychwanegodd Louise Casella, Cyfarwyddwr Y Brifysgol Agored yng Nghymru:
“Mae gan OpenLearn rywbeth i bawb – p’un a ydych am ddatblygu eich sgiliau mathemateg, darganfod gwaith athronwyr clasurol neu ddeall mwy am faeth a llesiant. Rydw i’n falch iawn bod cynifer o ddysgwyr o Gymru wedi darganfod a buddio o OpenLearn ers 2006. Mae heriau’r pandemig wedi golygu bod mwy o ddysgwyr wedi darganfod OpenLearn dros y dwy flynedd ddiwethaf, ac yr ydym yn cynhyrchu hyd yn oed mwy o gynnwys o ddiddordeb Cymreig a ac ar gael yn y Gymraeg – mae’r cyfan yn rhan o’n hymrwymiad i gyflwyno dysgu i bobl ledled Cymru, ni waeth ble maent yn byw na beth yw eu cefndir.”
I gael rhagor o wybodaeth am OpenLearn, ewch i: http://www.openlearn.com/cymru
Help keep news FREE for our readers
Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle