Gwarchod eich adar rhag ffliw adar

0
247
Welsh Government News

Mae Prif Swyddog Milfeddygol Cymru, Christianne Glossop, wedi pwysleisio pwysigrwydd pobl yn parhau i gymryd camau i warchod eu hadar rhag ffliw adar.

Mae tri achos o’r clefyd wedi’u canfod yng Nghymru – yn y Waun, Crucywel a Gaerwen, Ynys Môn. Ond mae mwy na 70 yn y DU gyfan, sef y nifer uchaf ar gofnod, a dros 470 o achosion wedi cael eu canfod mewn adar gwyllt.

Ers mis Tachwedd, mae’n ofynnol i letya adar, ledled y DU, i atal ffliw adar rhag lledaenu i adar a gedwir drwy gysylltiad ag adar gwyllt.

Rhaid i geidwaid adar hefyd ddilyn mesurau bioddiogelwch llym fel glanhau esgidiau cyn ac ar ôl ymweld ag ardaloedd caeedig lle cedwir adar, cadw ardaloedd yn lân a diheintio arwynebau caled yn rheolaidd, a gosod bwyd a dŵr adar mewn mannau cwbl gaeedig i ffwrdd o adar gwyllt, yn enwedig adar y dŵr.

Dywedodd y Prif Swyddog Milfeddygol, Christianne Glossop: “Mae’r DU wedi cael achosion digynsail o ffliw adar y gaeaf hwn. Mae’r clefyd yn farwol ar gyfer dofednod ac mae’r haint yn dal gyda ni. Rwyf yn annog pobl, yn enwedig y rhai sy’n berchen ar adar, i fod yn fwy gwyliadwrus nag erioed am arwyddion o’r clefyd a chymryd camau i warchod eu hadar.

“Rydyn ni wedi rhoi systemau cadarn ar waith i helpu i reoli ffliw adar rhag lledaenu. Mae gan bobl sy’n berchen ar adar rôl hanfodol i’w chwarae, drwy gadw golwg am arwyddion o glefyd ac os ydyn nhw’n gweld unrhyw beth maen nhw’n poeni amdano yna dylid rhoi gwybod amdano.

“Cael mesurau bioddiogelwch rhagorol ar waith yw’r peth gorau y gellid ei wneud i warchod adar, neu fel arall maen nhw mewn perygl.”

Gall adar gwyllt, yn enwedig adar y dŵr, ledaenu’r clefyd felly mae’n hanfodol peidio â chaniatáu iddynt gymysgu ag adar eraill gan gynnwys ieir, hwyaid neu wyddau.

Mae pobl yn cael eu hannog yn gryf i beidio â chyffwrdd na chodi unrhyw adar marw neu sâl y maent yn dod o hyd iddynt. Dylid rhoi gwybod am unrhyw adar gwyllt marw y deuir o hyd iddynt drwy ffonio 03459 33 55 77. Mae’n bosibl y bydd adar yn cael eu casglu i’w harchwilio ymhellach.

Mae ceidwaid yn cael eu hannog i gofrestru eu hadar ar y Gofrestr Dofednod. Mae hyn eisoes yn ofyniad cyfreithiol i’r rhai sydd â 50 o adar neu fwy. Mae cofrestru yn golygu y gellir cysylltu â cheidwaid gyda gwybodaeth neu gamau gweithredu perthnasol sydd eu hangen os bydd achos yn digwydd yn agos atynt.

Mae’r risg i iechyd pobl o’r math hwn o’r feirws ffliw adar yn isel iawn.

Ychwanegodd y Prif Swyddog Milfeddygol: “Mae ffliw adar yn brofiad gofidus i bawb dan sylw ac mae rheoli ei ledaeniad yn hanfodol i sicrhau nad oes mwy o adar yn cael eu heffeithio.

“Dyma pam rydym wedi rhoi mesurau ar waith i warchod adar domestig rhag adar gwyllt sy’n mudo gyda’r haint. Gall cymryd camau fel cael dillad, cyfarpar ac esgidiau glân wrth drin adar a sicrhau bod adeiladau’n ddiogel rhag adar wneud gwahaniaeth enfawr.

“Mae gan bob un ohonom rôl bwysig i’w chwarae i sicrhau ein bod yn cadw ein hadar yn ddiogel rhag y clefyd marwol hwn.”


Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle