Dŵr Cymru’n defnyddio camerâu arloesol i arolygu pibellau danddaear

0
318
The new camera compared to the traditional, much larger camera)
Dwr Cymru Welsh Water News
  • Bydd defnyddio camerâu arloesol i wella ein rhwydwaith dŵr yn golygu llai o risgiau o ran iechyd a diogelwch, llai o drafferthion i gwsmeriaid, llai o effeithiau amgylcheddol ac arbedion o ran cost.
  • Mae Dŵr Cymru’n gweithio ar y cyd â thimau ar draws y busnes a chwmnïau allanol gan gynnwys API, AVK a Morrison Utility Services i gyflwyno’r dechnoleg newydd arloesol a’i rhoi ar waith.

Rydym yn buddsoddi £120 miliwn i wella dibynadwyedd a derbynioldeb ein cyflenwad dwr yfed ar draws rhai o’r parthau lle mae perfformiad ansawdd dŵr yn is, fel bod ein cwsmeriaid yn gallu parhau i gael cyflenwad ddŵr yfed ffres am ddegawdau i ddod.

Mae’n bleser gan Ddŵr Cymru ac API (Advanced Pipe Inspection) gyhoeddi ein system gamerâu dŵr dan bwysau newydd a fydd yn ymchwilio i gyflwr pibellau sydd eisoes wedi dod â nifer o fanteision i’n cwsmeriaid, yr amgylchedd ac i’r cwmni.

Yn draddodiadol, byddai’r timau wedi gorfod torri tyllau arbrofi er mwyn asesu ac arolygu’r pibellau, sy’n cymryd llawer o amser, gwaith cynllunio ac adnoddau. Mae’r system gamerâu newydd yn mynd i’r brif bibell trwy’r hydrantau dŵr sydd yno eisoes, ac yn creu recordiad fideo byw o faint a chyflwr y bibell. Mae hyn yn osgoi gorfod torri tyllau yn y ffordd, ac felly’n amharu’n llai ar ein cwsmeriaid.

Dywedodd Trystan Davies, Rheolwr Rhaglen Dŵr Cymru, a greodd ac a arweiniodd y fenter gwella: “Mae torri tir newydd yn hanfodol bwysig i’n galluogi i oresgyn sialensiau cyfredol a rhai’r dyfodol, ac mae gweithio ar y cyd â’r gadwyn gyflenwi’n caniatáu i ni ganolbwyntio ar ddatrys problem gyffredin y tu hwnt i’r berthynas arferol rhwng y cleient a’r contractwr.  Mae defnyddio gwybodaeth a phrofiad cyfunol y grŵp wedi ein helpu ni i ddysgu a datblygu sgiliau newydd mewn ffordd iteraidd er mwyn cyflawni gwelliannau.”

Mae’r dull newydd yma o weithio’n tarfu’n llai o lawer ar ein cwsmeriaid am fod y broses tua thair gwaith yn gynt ac yn fwy didrafferth o lawer i’n timau. Yn ogystal, bydd ein gweithlu’n treulio llai o amser yn gweithio ar briffyrdd a ffyrdd prysur, gan ei gwneud hi’n amgylchedd gweithio mwy diogel. At hynny, mae’r timau wedi gweld arbedion o hyd at 74% yn y gost fesul arolwg, a lleihad o hyd at 92% yn y costau carbon fesul arolwg.

Ond nid y camera oedd yr unig beth arloesol i ddeillio o’r fenter. Bu Dŵr Cymru’n gweithio gyda Kenton Pearce o AVK i greu model 3D wedi ei argraffu o’n hydrantau tân er mwyn caniatáu i ni ddeall sut y bydd yr offer yn gweithio. Yn sgil hyn, bu modd asesu a gwella’r camera i greu’r teclyn diweddaraf y gwelwn ni heddiw.

Daeth rhanddeiliaid allweddol o Ddŵr Cymru, API, AVK a Morrison Utility Services at ei gilydd ym mis Tachwedd 2021 i ddangos y dechnoleg ddatblygedig yma wrth ei gwaith.

The new camera compared to the traditional, much larger camera)

Dywedodd Clive Webster o API, “Gall y camerâu bach fynd i’r brif bibell ddŵr trwy’r hydrantau tân sydd yno eisoes i gyrchu 10 metr o bibellau yn lle 2 fodfedd o bibellau, a chreu fideo i ddangos maint a chyflwr y bibell, a faint o sediment sydd ynddi.”

Dywedodd Jon Prout, Rheolwr Peirianneg Sifil Strwythurol Dŵr Cymru “Nawr gall tîm o ddau, sy’n llai o lawer, gyflawni rhwng 6 a 10 arolwg y dydd yn hytrach na 2 neu 3 gan ddefnyddio’r dulliau traddodiadol, a hyd yn oed weithio heb fod unrhyw fesurau rheoli traffig ar waith, sy’n arbennig o fuddiol mewn ardaloedd prysur fel Aberystwyth neu Gasnewydd.”

Mae’r grŵp wrthi’n gweithio ar y camau gwella nesaf er mwyn cwtogi eto fyth ar y risgiau iechyd a diogelwch, y drafferth i gwsmeriaid, yr effeithiau amgylcheddol a’r gost. 

Bu’r prosiect hwn yn rhan o fuddsoddiad yr Astudiaethau Parth ar gost o filiynau o bunnoedd y gwnaeth y cwmni nid-er-elw er mwyn gwella gwasanaethau ar gyfer cwsmeriaid a helpu i amddiffyn yr amgylchedd.  Rhwng 2020 a 2025, bydd y cwmni’n buddsoddi £1.8 biliwn pellach ar draws y wlad.


Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle