Gofalwr maeth yn rhannu ei 30 mlynedd o brofiad i ysbrydoli rhagor o bobl i faethu yng Nghymru

0
300
Annie at Margam Park

Mae gofalwr maeth o Gastell-nedd Port Talbot wedi rhannu ei 30 mlynedd o brofiad i helpu i apelio at eraill ynghylch sut gallent hwy hefyd wneud gwahaniaeth i fywyd person ifanc.

Yn ôl ym 1991, roedd Annie Lewis yn briod, roedd ganddi ei phlant ei hun, dau fachgen saith ac wyth oed, ac roedd yn gweithio fel pen-cogydd, pan gysylltodd â’i hawdurdod lleol i ddod yn ofalwr maeth.

Ond mae stori Annie yn dechrau llawer yn gynharach na hynny, pan oedd hi’n arddegwr anniddig mewn gofal ei hun.

Meddai Annie, “Pan oeddwn yn 14 oed, roeddwn yn arddegwr heriol iawn. Roedd gen i anawsterau yn fy nheulu fy hyn ac roeddwn yn rhedeg i ffwrdd drwy’r amser. Roeddwn i’n byw mewn cartref preswyl i blant pan wnes i gwrdd â merch ifanc oedd dim ond yn wyth oed ar y pryd. Rwy’n cofio meddwl ‘dyw hyn ddim yn iawn’. Roeddwn i’n gwybod na ddylai hi fod wedi bod yno, gydag arddegwyr fel fi, ond doedd dim gofalwyr maeth ar gael i ofalu amdani. Daeth yn hoff ohono’i fel petawn i’n chwaer fawr iddi.”

Yn ddiweddarach, symudodd Annie nôl gartref gyda’i rhieni, ond ar y pwynt hwnnw roedd hi’n gwybod y byddai un diwrnod, pan fyddai’n oedolyn, yn mynd i wneud rhywbeth am hyn.

Wrth faethu gyda’i hawdurdod lleol yng Nghastell-nedd Port Talbot cyfarfu Annie â sawl gofalwr maeth a’i hysbrydolodd. “Doedd dim llawer o ofalwyr maeth bryd hynny. Ond dwi’n cofio cwrdd â phobl leol eraill oedd yn maethu, a oedd ar gael ar ben arall y ffôn pan fyddai pethau’n mynd yn gymhleth. Fe wnes i rai ffrindiau oes a ffurfion ni gymuned glos.”

Mae Annie yn disgrifio maethu fel bywyd anarferol. “Pan fydd pobl yn dweud “‘dych chi’n cael eich talu amdano”, mae’n ddrwg gen i ddweud fy mod i’n colli fy nhymer. Nid galwedigaeth yw maethu, galwad ydyw. Mae’n ffordd o fyw, nid swydd.”

Mae Annie wedi gofalu am lawer o blant gwahanol ar hyd ei 30 mlynedd, yr oedd y rhan fwyaf ohonynt yn fechgyn a chanddynt broblemau ymddygiad neu iechyd. Esboniodd Annie mai llawer o’r heriau oedd deall yr hyn roedden nhw’n mynd drwyddo.

“Mae’n anodd deall pam y byddai rhywun yn gwneud hynny i blentyn neu’n caniatáu i rywun arall ei wneud i’r plentyn hwnnw. Dyw rhai o’r pethau y mae rhieni’n eu dweud

wrth eu plant ddim yn wir. Mae’n nhw’n eich ystyried yn gystadleuaeth.” Mae Annie, a ddathlodd ei phen-blwydd yn 60 oed yn ddiweddar, yn esbonio bod ei hoedran yn helpu nawr, gan fod y rhieni’n ei gweld yn ffigur tebyg i fam-gu.

Cyngor Annie i unrhyw un sydd newydd ddechrau maethu yw aros yn ddi-gyffro a pheidio â chymryd pethau’n rhy bersonol.

“Mae angen i chi fwrw’ch dicter eich hun am y sefyllfa. Dwi’n cymryd 10 munud gyda phaned o goffi ac yn edrych ar y môr. Mae angen i chi ddod o hyd i rywbeth sy’n rhoi llonyddwch i chi fel nad ydych yn chwythu’ch plwc. Rwy’n siarad â’r gweithiwr cymdeithasol a gofalwyr maeth lleol eraill.”

“Mae bron pob plentyn a pherson ifanc, waeth pam neu beth sydd wedi digwydd iddo, neu pam y mae mewn gofal, bob amser yn mo’yn mynd adref. Mae angen i chi ddod o hyd i ffordd i’w helpu i ddeall pam nad yw’n gallu mynd i weld mam neu dad. Gyda holl gymhlethdodau pob sefyllfa, mae angen helpu’r plentyn i ddeall beth sy’n digwydd.”

“Roeddwn i’n eitha’ tawel ar y dechrau, ond dwi wedi dysgu dros y blynyddoedd nad yw bod yn dawel yn mynd i helpu plentyn. Mae’n rhaid i chi achub ei gam. Dwi’n gwybod nawr beth dwi’n cael dweud a gwneud, os mai dyna sydd ei angen ar y plentyn.”

“Gallwch chi ddim datrys popeth i bob plentyn, ond gallwch ddatrys pethau i un, a dyw e’ ddim bob amser yn gweithio.”

“Fe ges i un plentyn, a dyna’r tro cyntaf yn fy 30 mlynedd o faethu y daeth pethau i ddiwedd drwg. A gofynnais i fi fy hun a oeddwn i wir am wneud hyn o hyd. Es i ar lwybr gwahanol a gwneud math gwahanol o faethu am sbel. Yna fe gwrddais â dyn ifanc, a gallwn i ddim llai na chwympo mewn cariad ag e’ rywfaint. Arddegwr yw e’, sy’n anobeithiol gydag arian felly dwi’n ei helpu i ddysgu; mae e’n gwneud tasgau o gwmpas y tŷ a bydd e’n gwneud gŵr da i rywun rhyw ddiwrnod.”

“Un o’m hoff atgofion oedd plentyn aeth ymlaen i deulu mabwysiadol newydd. ‘Dyn ni’n dal i gadw mewn cysylltiad, ac mae e’n oedolyn nawr, gyda phartner. Dwi wedi gwneud pob math o faethu ar hyd y blynyddoedd, ond mabwysiadu yw fy hoff beth???.”

“Mae gen i deulu anhygoel. Mae fy nau fab yn eu 30au nawr ac mae gen i chwech o wyrion. Maen nhw’n hen gyfarwydd â mam-gu’n cael gwahanol blant yn y tŷ. Mae fy meibion yn ddynion mor oddefgar a didaro am eu bod wedi cael eu magu ar aelwyd oedd yn maethu a dwi wedi cael cefnogaeth wych ganddyn nhw.

“Rwy’n cofio’r pethau es i drwyddyn nhw fel arddegwr. Dwi nawr yn gweld fy hun fel pont dros ddyfroedd cythryblus, yn helpu plant ar adeg yn eu bywyd lle mae tristwch, dagrau ac amserau anodd. Fi yw’r person sy’n eu tywys dros y bont i fan lle mae gwell dyfodol iddyn nhw.”

Meddai’r Cynghorydd Alan Locker, Aelod Cabinet Cyngor Castell-nedd Port Talbot dros Wasanaethau Cymdeithasol i Blant, “Hoffwn longyfarch Annie ar ei 30 mlynedd o

wasanaeth fel gofalwr maeth, a diolch iddi hefyd am rannu rhai o’i phrofiadau personol â ni.

“Rwy’n siŵr y bydd o fudd mawr i’r rheini sy’n ystyried dod yn ofalwr maeth ar hyn o bryd a’r rheini sy’n mynd drwy’r un profiadau yn awr fel gofalwr.

“Rydym bob amser yn chwilio am ofalwyr maeth newydd a all ddarparu cartref teuluol diogel a chariadus i blant a phobl ifanc leol. Byddwn yn annog unrhyw un sy’n ystyried dod yn ofalwr maeth i gysylltu â thîm maethu Castell-nedd Port Talbot.”

Am ragor o wybodaeth am ddod yn ofalwr maeth yng Nghastell-nedd Port Talbot, ewch i https://cnpt.maethucymru.llyw.cymru/ neu ffoniwch (01639) 685866 i siarad ag aelod o’r tîm.


Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle