Cemegau gwenwynig am byth’ wedi’u canfod mewn dyfrgwn ledled Cymru a Lloegr – ymchwil newydd

0
310

Mae’r astudiaeth, dan arweiniad Prosiect Dyfrgwn Prifysgol Caerdydd, yn awgrymu bod dyfroedd croyw Prydain yn cael eu ‘llygru’n helaeth’

Mae grŵp o sylweddau synthetig a elwir yn “gemegau am byth” oherwydd eu gwytnwch amgylcheddol wedi’u canfod mewn dyfrgwn ledled Cymru a Lloegr.

Fe wnaeth yr astudiaeth, dan arweiniad Prosiect Dyfrgwn Prifysgol Caerdydd, ddadansoddi data hanesyddol a chanfod sylweddau perfflworoalcyl a pholyfflworoalcyl (PFAS). Mae’r rhain wedi’u cysylltu â phroblemau iechyd mewn pobl a bywyd gwyllt fel ei gilydd, mewn dyfrgwn Ewrasiaidd.

Daeth i’r casgliad bod “llygredd eang” yn nyfroedd croyw Prydain ar hyn o bryd.

Canfu’r astudiaeth fod y rhan fwyaf o PFAS mewn dyfrgwn yn gysylltiedig â gwaith trin dŵr gwastraff neu’r defnydd o slwtsh carthion wrth ffermio, gan awgrymu bod hwn yn llwybr “sylweddol i’r afonydd sy’n peri pryder”.

Dywedodd ymchwilwyr Caerdydd fod astudio halogyddion mewn dyfrgwn yn hanfodol i ddeall y peryglon posibl i iechyd. Cafodd eu hastudiaeth ei chyhoeddi ychydig ddyddiau cyn i adroddiad seneddol roi gwybod nad oedd yr un afon yn Lloegr yn rhydd o lygredd.

Dyma’r hyn a ddywedodd Emily O’Rourke, myfyrwraig PhD ac awdur arweiniol yr astudiaeth: “Teulu mawr o gemegau synthetig yw’r PFAS a ddefnyddir yng nghynnyrch defnyddwyr yn sgîl eu nodweddion sy’n gwrthyrru olew a dŵr, mewn pecynnau bwyd, offer coginio nad yw’n glynu, dillad diddos, cynnyrch sy’n gwrthsefyll staen, paent ac atalyddion tân, ymhlith pethau eraill.

“Maen nhw’n cael eu hadnabod yn ‘gemegau am byth’ oherwydd bod eu strwythur carbon-fflworin cryf yn golygu nad ydyn nhw’n dadelfennu’n hawdd yn yr amgylchedd. Bu rhai ymdrechion i ddileu’r rhain yn raddol dros y blynyddoedd diwethaf, ond maent yn hollbresennol o hyd am eu bod yn aros yn yr amgylchedd.”

Mae dyfrgwn Ewrasiaidd yn ysglyfaethwyr amlwg yn nyfroedd croyw Prydain ac yn ddangosydd cryf o lefelau’r cemegau hyn yn yr amgylchedd. Yn yr astudiaeth hon, canfu dadansoddiad o afu dyfrgwn ledled Cymru a Lloegr fod PFAS ym mhob un o’r 50 a samplwyd. Mewn mwy nag 80% ohonynt, canfuwyd 12 math gwahanol o PFAS.

Fe wnaeth yr astudiaeth ddefnyddio sampl o ddyfrgwn a fu farw yn 2007-09 ac edrych ar ble daethpwyd o hyd iddynt a sut oedd y tir yn cael ei ddefnyddio bryd hynny. Dewisodd yr ymchwilwyr y cyfnod hwn am ei fod yn cyd-fynd â newidiadau mewn deddfwriaeth a’r defnydd o PFAS – roedd y ddau fath mwyaf cyffredin yn cael eu dileu, ond roedd rhai newydd yn dod yn eu lle.

Ategir canfyddiadau eu hastudiaeth ddiweddaraf gan ymchwil Prosiect Dyfrgwn ar wahân. Roedd y rhain yn edrych ar samplau mwy diweddar a gasglwyd yn 2015-18 a ddaeth o hyd i PFAS mewn dyfrgwn a mathau eraill o fywyd gwyllt.

“Mae angen gwneud rhagor o waith i ddeall ble mae’r crynodiadau mwyaf ar hyn o bryd ac unrhyw ffynonellau llygryddion. Mae’n destun pryder mawr bod PFAS yn arfer cael eu cyflwyno i’r amgylchedd drwy arferion diwydiannol a ffermio; mae cymryd camau drwy bolisïau a mesurau rheoli yn hanfodol i fynd i’r afael â hyn,” meddai Mrs O’Rourke.

Yn yr astudiaeth, cysylltwyd crynodiadau uwch o un math penodol o PFAS (asid perfflworooctanoig, PFOA) â ffatri gerllaw ar arfordir gogledd-orllewin Lloegr a oedd wedi defnyddio’r cemegyn hwn yn ei phrosesau gweithgynhyrchu cyn hynny.

Canfu crynodiadau uwch o PFAS mewn dyfrgwn ger gweithfeydd trin dŵr gwastraff, sy’n awgrymu bod dŵr gwastraff domestig a diwydiannol yn ffynhonnell bwysig ar y pryd. Roedd y crynodiadau hefyd yn uwch mewn dyfrgwn o dir âr, a hwyrach bod hyn yn adlewyrchu’r defnydd o slwtsh carthion ar dir amaethyddol.

“Mae ein hastudiaeth yn rhoi rhagor o dystiolaeth sy’n cefnogi casgliad adroddiad diweddar Pwyllgor Archwilio’r Amgylcheddol a amlygodd fod ‘coctel cemegol’ yn llawn halogyddion yn ein dyfrffyrdd,” meddai Mrs O’Rourke.

“Argymhellodd yr adroddiad werthusiad annibynnol o’r risgiau i iechyd dynol a’r amgylchedd oherwydd slwtsh carthion sydd ar led – mae ein hastudiaeth yn rhoi tystiolaeth bwysig y dylid cynnwys PFAS yn y gwerthusiad hwnnw.”

Dyma a ddywedodd Dr Elizabeth Chadwick, Prif Ymchwilydd y Prosiect Dyfrgwn: “Roedd ein hymchwil yn bosibl yn sgîl y casgliad parhaus o ddyfrgwn a ganfuwyd yn farw ledled Prydain. Mae ein harchif yn cynnwys samplau o fwy na 4,000 o anifeiliaid a gasglwyd ers 1992; dyma adnodd unigryw a phwysig i ddeall y rhywogaeth warchodedig hon ac i ddeall halogi amgylcheddol ac iechyd.

“Drwy astudio halogyddion cemegol mewn dyfrgwn gallwn ni ddeall y lefelau cymharol yn yr amgylchedd a’r risgiau posibl i iechyd bywyd gwyllt a phobl. Rydyn ni’n annog y cyhoedd i barhau i roi gwybod am ddyfrgwn a ganfuwyd yn farw fel y gall ein hymchwil barhau.”

Mae gwybodaeth am Brosiect Dyfrgwn Prifysgol Caerdydd, a sut i roi gwybod am ddyfrgwn marw, ar gael ar wefan y prosiect.

Cynhaliodd y Prosiect Dyfrgwn yr astudiaeth ddiweddaraf ar y cyd â Chanolfan yr Amgylchedd, Pysgodfeydd a Gwyddor Dyframaethu a Chanolfan Ecoleg a Hydroleg y DU.


Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle