Fel rhan o raglen Fentora Cyswllt Ffermio, mae Delyth FĂ´n Owen ac Andrew Rees wedi ymunoân ddiweddar â chyfeiriadur Mentoriaid sydd eisoes yn llawn. Maeâr rhaglen yn darparu 15 awr o arweiniad a chyngor rhad ac am ddim am amrywiaeth eang o bynciau i ffermwyr a choedwigwyr gan eu cyfoedion. Darperir Cyswllt Ffermio gan Menter a Busnes ac feâi hariannir gan Lywodraeth Cymru a Chronfa Amaethyddol Ewrop ar gyfer Datblygu Gwledig.
Mae Delyth yn eiriolwraig angerddol dros gynllunio olyniaeth a chyfathrebu o fewn teuluoedd fferm, gan gyfunoâi sgiliau hi fel Cwnselydd Cymdeithas Cwnsela a Seicotherapi Prydain cymwysedig a chynllunydd olyniaeth.
âTeimlaf fod gennyf y rhinweddau sydd eu hangen i gefnogi ffermwyr aâu teuluoedd, a buaswn wrth fy modd yn cael y cyfle i gefnogi ac arwain teuluoedd fferm drwy gynllunio olyniaeth,â dywedodd.
Mae Andrew aâi deuluân ffermio 320 o wartheg Friesian Prydeinig syân lloia yn y gwanwyn, yn ogystal â gwartheg iâw dilyn a theirw magu, ar 400 erw, yn ogystal â 75 erw ar drefniant tymor byr ar gyfer gwneud silwair. Fel un syân ymddiddori yn iechyd pridd, mae Andrew wedi bod yn canolbwyntio ar ddulliau syân amddiffyn y pridd, yn cynyddu bioleg y pridd ac yn lleihauâr ddibyniaeth ar fewnbynnau allanol megis gwrtaith cemegol.
âGallaf weld cynifer o fanteision o ddeall a meithrin pridd ar eich fferm aâr sgil-effeithiau o safbwynt cynhyrchedd, iechyd anifeiliaid ac elw, a hoffwn helpu ac annog eraill i fod yn ddigon hyderus i gyflawniâr newidiadau yma ar eu ffermydd eu hunain.â
Ers cychwyn y rhaglen yn 2015, mae wedi sicrhau 4918 awr anhygoel o gyngor rhad ac am ddim i ffermwyr, gan helpu 527 o unigolion a busnesau.
Yn Ă´l Heledd Dancer, Rheolwr Datblygu a Mentora Cyswllt Ffermio, âRydym yn teimloân hynod gyffrous i allu croesawu Andrew a Delyth fel aelodau oâr TĂŽm Mentora. Bellach mae gennym 65 mentor o bob cwr o Gymru, yn cynnig cyngor ar amrywiaeth eang o bynciau.â
âBydd Andrewân cynnig cyngor am iechyd pridd a Delyth yn arbenigo mewn hwyluso olyniaeth. Weithiau, dawâr help gorau gan rywun sydd wedi bod drwyâr felin eu hunain, ac fellyân fwy na hapus i rannu eu profiadau.â
Er mwyn manteisio ar y rhaglen Fentora, cysylltwch â Cyswllt Ffermio ar 08456 000 813 neu ar ewch iân gwefan.
Help keep news FREE for our readers
Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle