Cynnydd mawr yn yr adnoddau i amddiffyn dioddefwyr cam-drin domestig a thrais rhywiol wrth iddyn nhw roi tystiolaeth

0
252
Welsh Government

Mae proses newydd i alluogi dioddefwyr cam-drin domestig a thrais rhywiol i roi tystiolaeth yn ddiogel drwy gyfleuster cyswllt fideo wedi lansio ledled Cymru.

Mae Llywodraeth Cymru wedi buddsoddi dros £400,000 mewn 13 o gyfleusterau newydd ledled Cymru i sicrhau bod dioddefwyr yn teimlo’n ddiogel ac yn cael eu cefnogi i roi tystiolaeth mewn achosion sy’n ymwneud â cham-drin domestig a thrais rhywiol. 

Dywedodd Jane Hutt, y Gweinidog dros Gyfiawnder Cymdeithasol:

“Mae trais rhywiol a cham-drin yn effeithio ar bob cymuned yng Nghymru. Ni allwn ond dechrau mynd i’r afael â’r broblem hon os ydym yn sicrhau bod dioddefwyr y troseddau hyn yn teimlo’n ddigon diogel i ddod ymlaen a rhoi’r dystiolaeth a fydd yn sicrhau cyfiawnder ac yn dwyn y rhai sy’n gyfrifol i gyfrif.

“Y cyfleusterau newydd hyn yw’r cyntaf o’u math yn y DU. Rwy’n falch ein bod yn arwain y ffordd yma yng Nghymru, gan barhau â’n hymrwymiad i gefnogi dioddefwyr a goroeswyr pryd bynnag, ble bynnag a sut bynnag y mae ei angen arnynt.

Bydd y cyfleusterau newydd yn rhoi’r gallu i dystion bregus ac ofnus i leisio eu barn mewn ffordd sy’n lleihau’r ofn, y straen a’r pryder sy’n aml yn gysylltiedig â rhoi tystiolaeth mewn llys agored.”

Dywedodd Prif Erlynydd y Goron Cymru, Jenny Hopkins:

“Gwyddom fod gorfod rhoi manylion personol a gofidus yn bersonol i ystafell lys brysur, yn aml o flaen y cyflawnwr, yn rhwystr enfawr i ddioddefwyr sy’n adrodd am drosedd. Mae’r prosiect hwn wedi’i lywio gan brofiad uniongyrchol dioddefwyr a’r materion y maent wedi dweud wrthym eu bod wedi’u hwynebu wrth roi tystiolaeth am eu camdriniaeth.

“Bydd y cyfleusterau hyn gobeithio’n dileu rhywfaint o’r ofn a’r pryder sy’n gysylltiedig â rhoi tystiolaeth, gan sicrhau y gall dioddefwyr camdriniaeth yng Nghymru roi eu tystiolaeth mewn amgylchedd diogel a chefnogol.”

Un o’r bobl gyntaf i ddefnyddio’r gwasanaeth newydd oedd person a ddioddefodd gamdriniaeth gorfforol am fwy nag 20 mlynedd gan ei phartner. 

Dywedodd hi:


“Roeddwn i’n arswydo wrth feddwl am wynebu fy nghamdriniwr yn y llys ac er fy mod i eisiau cyfiawnder, dydw i ddim yn meddwl y gallwn i fod wedi gwneud hynny’n bersonol.

“Roedd gallu rhoi fy nhystiolaeth mewn lleoliad diogel, ymhell o ystafell y llys a chyda cefnogaeth cynghorydd cam-drin domestig annibynnol, wedi rhoi’r hyder yr oedd ei angen arnaf i roi fy nhystiolaeth a chael cyfiawnder am y blynyddoedd lawer o niwed yr wyf wedi’i ddioddef.”

Mae’r safleoedd newydd hyn yn rhan o ymdrechion mwy cyffredinol i sicrhau cydweithio ar draws asiantaethau drwy Fwrdd Cyfiawnder Troseddol Cymru er mwyn cyflawni’r uchelgais gyffredinol o leihau troseddu a gwella’r gefnogaeth i ddioddefwyr

Dywedodd Comisiynydd Dioddefwyr Cymru a Lloegr, y Fonesig Vera Baird QC:

“I lawer o ddioddefwyr, gall y syniad o fynd i’r llys a dod wyneb yn wyneb â’u camdrinwyr fod yn ofidus iawn a’u hatal rhag dod ymlaen i roi gwybod am eu profiadau, a’u gadael i ddioddef yn dawel.

Mae sicrhau bod gan bob dioddefwr yng Nghymru bellach fynediad at gyfleusterau cyswllt fideo yn gam arloesol gwych a fydd yn helpu i wella profiad y dioddefwr o’r system cyfiawnder troseddol ac yn annog mwy o ddioddefwyr i ddod ymlaen. Er bod cyfleusterau tebyg yn bodoli yn Lloegr, maent yn tueddu i gael eu tanddefnyddio, ac felly rwy’n gobeithio y bydd y buddsoddiad hwn gan Lywodraeth Cymru yn hybu hyn yn gyffredino


Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle