Ysgol Dyffryn Cledlyn yn ennill cystadleuaeth ffilm Diwrnod Defnyddio’r Rhyngrwyd yn fwy Diogel 2022

0
259
Llun: Disgyblion blwyddyn 6, Ysgol Dyffryn Cledlyn

Ar Ddiwrnod Defnyddio’r Rhyngrwyd yn Fwy Diogel 2022, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru enillwyr y gystadleuaeth ffilm a drefnwyd ganddynt fel rhan o’r dathliadau.

Ar ôl cystadlu yn y gystadleuaeth ers sawl blwyddyn, mae Ysgol Gynradd Wirfoddol a Reolir Dyffryn Cledlyn yn falch o fod wedi ennill y lle cyntaf yn y categori oedran cynradd gydag Ysgol Bro Pedr yn ail yn y categori oedran cynradd ac Ysgol Bro Teifi yn cael ei chanmol yn fawr. 

Bwriad y gystadleuaeth ffilm oedd annog plant a phobl ifanc i ddangos pa mor greadigol ydynt a rhannu eu syniadau ynghylch dangos parch ar-lein.

Ar gyfer y gystadleuaeth fe fu disgyblion blwyddyn 6 o dan arweiniad Mr Hywel Roderick a Miss Deloni Davies yn gweithio ar y sgript gan sicrhau fod y neges o barchu ar-lein yn cael ei hyrwyddo drwy’r ysgol ar bob achlysur.

Mari o Ysgol Dyffryn Cledlyn yw un o’r disgyblion a fuodd yn rhan o’r gystadleuaeth. Dywedodd: “Fe wnaethon ni ddysgu llawer o sgiliau newydd a llawer o negeseuon pwysig am barchu eraill ar y we. Mae dangos parch ar lein yr un mor bwysig â pharchu pobl mewn bywyd bob dydd!”

Dyma un neges cafodd ei bwysleisio yn y sgript:

Neges neis sy’n hapus a llon,

Neu neges greulon i dorri’r galon?

Ydi chi’n berson cas a blin?

Gofynnwch cyn clicio – i chi eich hun?

Dywedodd Carol Davies, Pennaeth Ysgol Dyffryn Cledlyn: “Hoffwn ddiolch o waelod calon i’r holl staff am eu hymroddiad wrth sicrhau bod disgyblion yr Ysgol yn derbyn cyfleodd di-ri mewn cymaint o feysydd. Mae’r daith yn ein Hysgol – o’r gwaelod i’r brig yn sicrhau bod y disgyblion yn bobl ifanc cydwybodol ac am fentro. Pa neges well i bobl ifanc Cymru na neges gan ddisgyblion eraill!”

Y Cynghorydd Catrin Miles yw’r Aelod Cabinet â chyfrifoldeb am Ysgolion, Dysgu Gydol Oes a Sgiliau, Cymorth ac Ymyrraeth. Dywedodd: “Llongyfarchiadau mawr i Ysgol Dyffryn Cledlyn am gyrraedd y brig yn y gystadleuaeth ffilm. Llongyfarchiadau hefyd i Ysgol Bro Pedr am ddod yn ail ac Ysgol Bro Teifi am ennill clod mawr. Mae’r we a’r cyfryngau cymdeithasol mor hygyrch y dyddiau hyn felly mae’n hanfodol bod disgyblion yn cael y cyfle i ddysgu pwysigrwydd bod yn ddiogel ar-lein.”


Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle