Hwb i’r diwydiant bwyd a diod wrth i gytundeb allweddol gael ei ymestyn

0
270
Food and Drink Wales event which was held at the Pierhead building in Cardiff Bay. © WALES NEWS SERVICE

Mae cyllid rhaglen hyfforddi a gynlluniwyd i gefnogi diwydiant prosesu a gweithgynhyrchu bwyd a diod Cymru wedi cael ei ymestyn tan ddiwedd mis Tachwedd 2022, a fydd yn caniatáu i’r rhaglen weithio gyda busnesau ar draws pob sector o’r diwydiant. Bydd hyn hefyd yn helpu’r sector hollbwysig hwn i addasu i heriau economaidd ac amgylcheddol yn y dyfodol a manteisio ar gyfleoedd ar gyfer datblygu a thwf busnes.

Cyfl rhaglen Sgiliau Bwyd Cymru gan Lantra ac mae’n cefnogi busnesau o bob maint yn sector bwyd a diod Cymru, gan sicrhau bod y sgiliau a’r hyfforddiant cywir gan weithwyr ar gyfer eu busnes a’r diwydiant ehangach yn ei gyfanrwydd. Cyrhaeddodd y prosiect garreg filltir fawr arall yn ddiweddar hefyd, ar ôl cefnogi dros 6000 o ddiwrnodau hyfforddi i dros 2000 o bobl ers mis Ebrill 2019.

Wrth sôn am y garreg filltir bwysig hon, dywedodd Sarah Lewis, Rheolwr Prosiect Sgiliau Bwyd Cymru,

Rydw i wrth fy modd gyda chynnydd y rhaglen ers i ni ddechrau ym mis Ebrill 2019. Rydym ni bellach wedi cefnogi busnesau bwyd a diod Cymru gyda dros 6000 o ddiwrnodau hyfforddi i dros 2000 o bobl , ar ôl gosod targed o 1000 o ddiwrnodau hyfforddi i’n hunain i ddechrau.

“Dangosodd ein hymchwil blaenorol fod cryn dipyn o fylchau sgiliau a phrinder technegol nid yn unig o fewn technoleg bwyd a deddfwriaeth diogelwch bwyd, ond hefyd mewn meysydd eraill fel arweinyddiaeth a rheolaeth, ymwybyddiaeth o wastraff a gwerthu a marchnata. Fodd bynnag, gyda’r cyllid sydd ar gael ar gyfer y busnesau hyn gallwn helpu i sicrhau bod gan eu gweithwyr y sgiliau cywir i ffynnu mewn diwydiant sy’n newid yn barhaus ac sy’n hanfodol i economi Cymru.”

Un o’r busnesau sydd wedi derbyn cymorth ariannol gan Sgiliau Bwyd Cymru yn ddiweddar yw Tomos Watkin, bragdy bach ond uchelgeisiol sy’n cael ei redeg gan deulu yn ne Cymru. O ganlyniad i’r cymorth ariannol, maen nhw wedi’u cymeradwyo i un o’u bragwyr fynd ar gwrs hyfforddi i ennill tystysgrif Bragu Ymarferol gyda Brewlab.

Wrth siarad cyn yr hyfforddiant, dywedodd Paul Malcolm, Bragwr yn Tomos Watkin,

Does dim llawer o amser ers i mi raddio o’r brifysgol ble astudiais Wyddoniaeth Bragu. Roeddwn i wastad eisiau gweithio yn y diwydiant bragu, ac roeddwn i wrth fy modd pan ddaeth y cyfle gyda Tomos Watkin. Rydw i wedi bod gyda’r cwmni ers tua blwyddyn bellach ac mae’n mynd yn dda iawn.

“Yn ystod pandemig Covid-19 profodd y cwmni brinder sgiliau a nododd nifer o gyrsiau hyfforddi i’w gweithwyr wneud cais amdanyn nhw. Gyda chymorth cyllid gan Sgiliau Bwyd Cymru rydw i bellach yn gallu dilyn hyfforddiant ar gyfer y dystysgrif Bragu Ymarferol, gan na allwn fforddio gwneud hynny fy hun.

“Mae’n gwrs hyfforddi tair wythnos ar y safle gyda Brewlab yn Sunderland. Rwy’n edrych ymlaen at ddysgu ac yn gobeithio cael y cymhwyster a fydd yn fy helpu i symud ymlaen yn fy swydd gyda Tomos Watkin.”

Mae The Parsnipship, cynhyrchydd bwyd annibynnol a chrefftus, sy’n creu bwyd llysieuol a fegan unigryw a gwreiddiol yng Nghwm Ogwr, Pen-y-bont ar Ogwr yn fusnes arall sydd wedi elwa o’r cymorth hyfforddi, ar ôl cael cymeradwyaeth i’w weithwyr ymgymryd â gwahanol agweddau ar hyfforddiant i wella eu setiau sgiliau.

Meddai Flo Ticehurst, Cyfarwyddwr The Parsnipship,

“Fel busnes sy’n tyfu, rydym ni’n awyddus i wneud yn siŵr bod gan ein staff y sgiliau cywir sydd eu hangen i gyflawni eu swyddi. Mae ein rheolwr cynhyrchu wedi dilyn cwrs hyfforddi Arwain Tîm Cynhyrchu yn ddiweddar diolch i gefnogaeth gan Sgiliau Bwyd Cymru.

“Mae’r hyfforddiant wedi helpu ein rheolwr cynhyrchu i fyfyrio ar ei dull o reoli tîm y gegin a rhoi’r hyn y mae wedi’i ddysgu ar waith. Mae ei thîm wedi dyblu mewn maint ar ôl cyflogi gweithwyr newydd yn y gegin felly mae’r cwrs wedi bod yn hollbwysig i’w helpu i baratoi ar gyfer hyn er mwyn cael cegin rhwydd ac effeithlon.

“Mae’r cymorth rydym ni wedi’i dderbyn drwy’r prosiect wedi helpu i gefnogi ein hymrwymiad i hyfforddi a datblygu ein staff lle nad yw’r arbenigedd mewnol gennym ni.”

Bellach mae gan fusnesau bwyd a diod fwy o gyfle i wneud cais am gymorth ariannol i helpu gyda’u hanghenion hyfforddi fel yr eglura Sarah Lewis,

“Rydym ni wrth ein bodd bod Llywodraeth Cymru wedi ymestyn ein cytundeb, a fydd yn mynd â’r prosiect hyd at ddiwedd mis Tachwedd 2022.

“Mae ein cymorth hyfforddi yn cwmpasu ystod o feysydd hollbwysig sydd eu hangen ar draws y diwydiant heddiw. Byddwn yn ystyried ariannu unrhyw anghenion hyfforddi sydd gan fusnes unigol. Felly, hoffem ni annog pob busnes prosesu a gweithgynhyrchu bwyd a diod i gysylltu â’r tîm heddiw i drafod anghenion hyfforddi eich staff.”

Bydd busnesau cymwys sydd am gael mynediad at y cyllid sydd ar gael i gefnogi gyda chost cwblhau cyrsiau hyfforddi, yn gyntaf yn gweithio gyda thîm Lantra i gwblhau Offeryn Diagnostig Sgiliau sy’n helpu busnesau i nodi a blaenoriaethu anghenion hyfforddi. Bydd Lantra wedyn yn dewis y darparwr hyfforddiant mwyaf priodol o’u rhestr gymeradwy ar eu fframwaith i gyflwyno’r hyfforddiant perthnasol ar amser ac mewn lleoliad sy’n gweddu orau i anghenion y busnes.

Mae swm y cyllid sydd ar gael yn amrywio o 50% i 80%, yn dibynnu ar faint y busnes. I fod yn gymwys am gymorth, rhaid i’r busnes fod â safle cynhyrchu neu weithgynhyrchu yng Nghymru a gallu dangos elw clir ar y buddsoddiad yn dilyn yr hyfforddiant.

Mae rhagor o wybodaeth ar gael drwy gysylltu â Sgiliau Bwyd Cymru ar wales@lantra.co.uk neu ffonio 01982 552646.

Ariennir Sgiliau Bwyd Cymru gan Gymunedau Gwledig Llywodraeth Cymru – Rhaglen Datblygu Gwledig 2014-2020, a ariennir gan Gronfa Amaethyddol Ewrop ar gyfer Datblygu Gwledig.


Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle