Mae cynorthwyydd dysgu yn cynllunio taith gerdded 40 milltir ar gyfer Apêl Cemo Bronglais

0
207
Above: Carys Jones is pictured, far left, with Heulwen Evans, mum Glenys Jones, brother Aled Jones, sister Gwenan Hodgson and sister Caryl Jones.

Gyda’i mam yn cael cemotherapi ar hyn p bryd, mae Carys Jones sy’n gynorthwyydd dysgu, yn trefnu taith gerdded 40 milltir gyda theulu a ffrindiau i godi arian at Apêl Cemo Bronglais.

Bydd tîm o o leiaf 20, sy’n bwriadu cwblhau’r 40 milltir o fewn 24 awr ar y 1af a’r 2il o Ebrill.

Byddant yn cychwyn yn y clwb rygbi yn Nhregaron, lle mae Glenys, mam Carys yn landlord, yn cerdded i ysbyty Bronglais ac yna’n gwneud y daith yn ôl i’r clwb. Bydd 10 milltir yn cael eu cwblhau ar y nos Wener, Ebrill 1af, ac yna byddant yn ail-gychwyn am 5.30 y bore canlynol, gan anelu at

gyrraedd yn ôl yn Nhregaron erbyn 7pm.

Yn ogystal â Carys, yn cymryd ‘Sialens Tîm Jones’ bydd ei hefaill 32 oed Caryl, ei chwaer hŷn Gwenan,33, a’u brawd iau Aled, 28, ynghyd â phartner Aled, Heulwen a llu o ffrindiau.

Dywedodd Carys, sy’n gweithio yn Ysgol Carreg Hirfaen yng Nghwman ac yn byw yn Llwynygroes: “Roedden ni eisiau cefnogi Uned Ddydd Cemotherapi Bronglais. Mae mam yn cael cemotherapi yno ar hyn o bryd ac mae’n dweud bod y staff yno yn wych.

“Rydym mor ffodus i gael uned cemotherapi agos a byddai cael un newydd, bwrpasol gyda mwy o breifatrwydd yn well byth. Mae’r Apêl yn syniad gwych.”

“Roedd Mam mor falch pan soniais wrthi am y daith gerdded i godi arian yr oeddwn yn ei threfnu, dechreuodd grio!” ychwanegodd Carys.

Os hoffech gyfrannu at ddigwyddiad codi arian Caryl, gallwch wneud hynny yma: https://hyweldda.enthuse.com/pf/carys-jones

Separate panel or pull-out piece

Hoffech chi gefnogi Apêl Chemo Bronglais? Dyma sut:

I gyfrannu neu sefydlu tudalen codi arian ar-lein ewch i: https://hyweldda.enthuse.com/cf/bronglais-chemo-appeal neu sganiwch y côd QR. I gael rhagor o wybodaeth am yr apêl ewch i: www.hywelddahealthcharities.org.uk


Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle