Plaid Cymru yn ymateb i gynllun peilot incwm sylfaenol y rhai sy’n gadael gofal

0
239
Luke Fletcher MS

Wrth ymateb i gynlluniau Llywodraeth Cymru ar gyfer cynllun peilot incwm sylfaenol i bobl ifanc sy’n gadael gofal, dywedodd llefarydd Plaid Cymru dros yr economi, Luke Fletcher AS,

Mae’r peilot hwn yn gam i’r cyfeiriad cywir i Lywodraeth Cymru, ond mae’n bwysig iawn bod ganddo’r strwythur o’i gwmpas i’w alluogi i gyflawni’r uchelgais o fynd i’r afael â thlodi a diweithdra, yn ogystal â gwella iechyd a lles ariannol.

“Mae tlodi mor amrywiol ag yw’n gyffredin, ac nid oes rheswm na ellir ehangu’r peilot hwn i boblogaeth ehangach o’r cychwyn cyntaf.

“Er mwyn cefnogi’r camau hyn yn llawn, rhaid i Lywodraeth Cymru alw am fwy o bwerau dros les a threth, a pheidio â gadael i’w hamharodrwydd blaenorol leihau’r uchelgais newydd hon. Mae angen y pwerau ychwanegol hyn ar frys, nid yn unig i redeg cynllun peilot cynhwysfawr, ond i fynd i’r afael â thlodi cynyddol yn ein cymunedau ac i ddechrau cynllunio system Treth a Budd-daliadau Cymru yn y dyfodol, gydag UBI (Incwm Sylfaenol Cyffredinol) wrth ei wraidd.”


Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle