Gweithio gyda’n gilydd i fynd i’r afael â bridio cŵn yn anghyfreithlon yng Ngorllewin Cymru

0
177

Ar 17 Chwefror 2022, gweithredodd Tîm Ymchwilio Rhanbarthol Safonau Masnach Cenedlaethol a swyddogion Diogelu’r Cyhoedd Cyngor Sir Ceredigion nifer o warantau chwilio fel rhan o ymgyrch i fynd i’r afael â bridio cŵn yn anghyfreithlon yng Ngorllewin Cymru gan weithio mewn partneriaeth gyda Heddlu Dyfed-Powys, yr RSPCA a’r Gyfarwyddiaeth Meddyginiaethau Milfeddygol.

Mae tîm ymchwilio rhanbarthol Safonau Masnach yn gweithio ledled Cymru fel rhan o ymgyrch genedlaethol i helpu gwasanaethau Safonau Masnach awdurdodau lleol i fynd i’r afael â’r gweithgarwch troseddol sy’n ymwneud â bridio cŵn yn anghyfreithlon.

Ni fydd natur ehangach yr ymchwiliad yma yn cael ei ddatgelu ar hyn o bryd ond bydd cyfathrebiadau cyfryngau pellach yn cael eu rhyddhau yn y dyfodol agos.

Cefnogir gwaith y tîm rhanbarthol gan gyllid Llywodraeth Cymru a ddyrennir i Safonau Masnach Cymru i gyflawni prosiect cenedlaethol i fynd i’r afael â phroblem bridio cŵn yn anghyfreithlon yng Nghymru.

Os oes gennych wybodaeth am y materion canlynol mae croeso i chi roi gwybod i ni, yn ddienw os mai dyna yw eich dymuniad:

·       Unrhyw faterion hanesyddol yn ymwneud â bridwyr cŵn a phroblemau sŵn

·       Unrhyw gudd-wybodaeth am arferion amheus yn ymwneud â bridio cŵn

·       Unrhyw bersonau y credwch a allai fod yn gysylltiedig

Anfonwch unrhyw wybodaeth mewn e-bost at wtsintel@newport.gov.uk a bydd eich gwybodaeth yn cael ei hystyried yn gyfrinachol.


Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle