Mae Menter Moch Cymru yn helpu mentrau moch i ffynnu gyda chyrsiau cigyddiaeth a phrosesu ymarferol

0
301

Mae cynhyrchydd o Ynys Môn wedi annog ffermwyr moch yng Nghymru i fanteisio ar gyfres o gyrsiau cigyddiaeth bwrpasol a drefnwyd gan Menter Moch Cymru.

Manteisiodd David Harries o Tyn y Lon, Penysarn, Ynys Môn ar y cyrsiau sydd wedi’u teilwra i anghenion cynhyrchwyr moch yng Nghymru nôl yn 2020 a dywedodd fod y cyrsiau ymarferol wedi eu galluogi fel teulu i ychwanegu gwerth at eu cynnyrch a dysgu sgiliau newydd sydd wedi bod yn fanteisiol i’w anghenion personol.

“Mae’r cwrs wedi rhoi cymaint o hyder a phrofiad i mi wella ein busnes o werthu ein porc ein hunain. Heddiw rwy’n gallu cael carcas llawn o’r lladd-dy a’i gigydda yma fy hun ar y fferm ar gyfer ein hanghenion ein hunain.”

“Fe wnaeth y cyrsiau hefyd agor cyfle arall i mi – i allu prosesu ein porc ein hunain ymhellach yn y dyfodol,” ychwanegodd.

O ‘Gigyddiaeth Moch Ymarferol’, I halltu cig a gwneud selsig’ i ‘Charcuterie ar gyfer dechreuwyr’ mae’r prosiect wedi cynnal nifer o sesiynau ledled Cymru fel rhan o’i ymrwymiad i ddarparu hyfforddiant arbenigol i gynhyrchwyr moch.

Ariennir Menter Moch Cymru gan Gymunedau Gwledig Llywodraeth Cymru – Rhaglen Datblygu Gwledig 2014-2020 a ariennir gan Gronfa Amaethyddol Ewrop ar gyfer Datblygu Gwledig a Llywodraeth Cymru.

Ychwanegodd David: “Byddwn yn annog cynhyrchwyr moch i fanteisio ar y cyrsiau sy’n cael eu cynnig. Mae’n gyfle i gael gwybodaeth am yr holl ddarnau gwahanol o borc a hefyd mae’n gyfle i ennill eich arbenigedd eich hun ym myd cigyddiaeth. Mwynheais y cwrs yn fawr.”

Mae gan Fenter Moch Cymru gyfres o gyrsiau cigyddiaeth yn y Ganolfan Technoleg Bwyd, Coleg Menai, Llangefni mis nesaf, cynhelir Cigyddiaeth Moch Ymarferol ar ddydd Mawrth y 15fed o Fawrth 2022 a chynhelir y Gweithdy Prosesu Ymarferol: Y broses o halltu cig a gwneud selsig ar Ddydd Mercher yr 16eg o Fawrth 2022.

Mae’r cyrsiau hyn yn cael eu hariannu’n helaeth gan Menter Moch Cymru ac ar gael am bris gostyngol o £50 yr un. Cysylltwch â Menter Moch Cymru ( www.menterochcymru.co.uk ) heddiw gan fod lleoedd yn gyfyngedig. Dyddiadau ar gyfer yr un cyrsiau yn Ne Cymru i’w cadarnhau yn fuan.


Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle