Newyddion Ariannu Amser i Newid Cymru

0
260

Annwyl Sefydliad Ymrwymedig,  

Mae’n bleser gennyn ni roi gwybod i chi fod Dirprwy Weinidog Iechyd Meddwl a Llesiant Llywodraeth Cymru, Lynne Neagle, a Gweinidog yr Economi, Vaughan Gething, wedi cytuno i ariannu Cam 4 Amser i Newid Cymru am y 3 blynedd nesaf, gan ddechrau ym mis Ebrill 2022. 

Mae Llywodraeth Cymru wedi rhoi arian i Amser i Newid Cymru er mwyn parhau i ddarparu gweithgareddau craidd o dan Gam 4 yr ymgyrch, drwy gryfhau’r cynnig llesiant yn y gweithle mewn lleoliadau iechyd a chymunedau o amddifadedd economaidd-gymdeithasol a nodi anghenion cymunedau Du, Asiaidd ac Ethnig Leiafrifol yng Nghymru. Mae’r arian newydd hefyd yn cynnig cyfle cyffrous i ddatblygu’r rhaglen drwy weithio’n agos gyda phobl sydd â phrofiad uniongyrchol o broblemau iechyd meddwl a sefydliadau llawr gwlad i herio stigma a gwahaniaethu sy’n ymwneud ag iechyd meddwl yng Nghymru.  

Amser i Newid Cymru yw’r ymgyrch genedlaethol gyntaf i fynd i’r afael â stigma a gwahaniaethu sy’n ymwneud ag iechyd meddwl a gwella agweddau at iechyd meddwl yng Nghymru. Caiff yr ymgyrch ei chyflwyno gan ddwy elusen flaenllaw yng Nghymru, sef Adferiad Recovery a Mind Cymru, a’i hariannu gan Lywodraeth Cymru. Caiff Amser i Newid Cymru ei hysgogi gan bobl sydd â phrofiad uniongyrchol o broblemau iechyd meddwl a Sefydliadau Ymrwymedig sy’n ymroddedig i greu amgylchedd iechyd meddwl cadarnhaol i’w staff.  

Sefydliadau Ymrwymedig Amser i Newid Cymru fydd prif ffocws gwaith yr ymgyrch o hyd a byddwn ni’n nodi cyfleoedd newydd a chyffrous i gyflogwyr gymryd rhan amlwg wrth ledaenu’r neges i sicrhau gwell dealltwriaeth o iechyd meddwl yn y gweithle. 
  

Dywedodd June Jones, Rheolwr Interim Rhaglen Amser i Newid Cymru: “Mae’n amser cyffrous a phwysig i ymgyrch Amser i Newid Cymru wrth iddi baratoi i fynd i’r afael â stigma a gwahaniaethu sy’n ymwneud ag iechyd meddwl mewn cymunedau o amddifadedd cymdeithasol a chymunedau ethnig leiafrifol. Gyda chefnogaeth ein Hyrwyddwyr, Sefydliadau Ymrwymedig a phartneriaid, byddwn ni’n gwneud yn siŵr ein bod ni’n cynnig llwyfan ar gyfer y lleisiau cudd ac yn gwella dealltwriaeth o iechyd meddwl ar hyd a lled Cymru. Mae mynd i’r afael â stigma yn allweddol i sicrhau bod gan bobl ledled Cymru iechyd meddwl gwell a mwy o gefnogaeth. Drwy hyn, byddwn ni’n creu rhaglen sy’n sicrhau y gall pawb elwa yn yr un ffordd ar waith Amser i Newid Cymru yn erbyn stigma sy’n ymwneud ag iechyd meddwl.” 


Hoffen ni ddiolch am eich cefnogaeth a’ch ymroddiad parhaus i waith Amser i Newid Cymru ac rydyn ni’n edrych ymlaen at weithio gyda chi yng Ngham 4 ac wedi hynny gobeithio. 

Bydd Cam 4 o Amser i Newid Cymru yn lansio ym mis Ebrill 2022 ac yn parhau tan ddiwedd mis Mawrth 2025.   

Dymuniadau gorau,  

Tîm Amser i Newid Cymru  


Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle