Mae Menter Cwm Gwendraeth wedi dod i’r brig mewn cystadleuaedd graddfa eang i ennill cytundeb cenedlaethol gyda Canolfan Cyngor ar Bopeth.
Mae’r cwmni wedi ei gyflogi gan CAB er mwyn darparu gwasanaeth cyfieithu dros y ddwy flynedd nesaf.
Dyma’r contract cyfieithu fwyaf mae’r cwmni wedi ei ennill a golyga fod pob dogfen a gaiff ei gynhyrchu gan CAB i’w gyfieithu i’r Gymraeg gan dîm o swyddogion sydd wedi eu lleoli ym Mhontyberem a Llanelli.
Ar ben hynny, cyfrifoldeb y tîm fydd diweddaru gwefan CAB yn unionsyth gyda chyfieithiadau Cymraeg.
Dywedodd Meinir Griffiths, cydlynnydd gwasanaethau Menter Cwm Gwendraeth: “Rydym eisioes yn darparu gwasanaethau cyfieithu, ond hwn yw ein cytundeb fwyaf o bell ffordd.
“Rydym yn falch fod CAB wedi rhoi ei ffydd mewn cwmni bychan a fu’n cystadlu am y gwaith ochr yn ochr â nifer o gwmnioedd mwy.
“Rydym hefyd yn falch fod CAB yn adnabod pwysigrwydd y Gymraeg yng nghyfathrebiad cyngor a gwybodaeth. Dilyna brif ethos Menter Cwm Gwendraeth sef dapraru gwasanaethau cymunedol tra’n datblygu’r defnydd o’r iaith Gymraeg.
“Gall ddarparu gwybodaeth trwy’r Gymraeg fod yn fuddiol iawn i fusnesau gan ei fod yn hyrwyddo cyfathrebiaeth mewn iaith sydd, yn aml, yn ddewis cyntaf i nifer o boblâ€.
Caiff cytundeb CAB ei wasanaethu gan dîm fechan o staff, gan gynnwys gweithiwr newydd sydd wedi ei chyflogi drwy gronfa swyddi’r dyfodol.
Dechreuodd Hannah Jones, 22 oed o Tymbl, gyfnod o waith chwe mis gyda Menter Cwm Gwendraeth er mwyn cynorthwyo gyda gwaith gweinyddol, yn dilyn cyngor gan ei Chanolfan Byd Gwaith leol. Â
Gofynnwyd iddi barhau gyda’r cwmni er mwyn cynorthwyo gyda chytundeb CAB o ganlyniad i’w heffeithiolrwydd.
“Roeddwn wedi cwblhau cwrs gweinyddu yn y coleg, ond yn cael trafferth ffeindio gwaith†meddai Hannah.
“Soniodd y Ganolfan Byd Gwaith am Gronfa Swyddi’r Dyfodol a daethant o hyd i swydd wag gyda Menter Cwm Gwendraeth. Roeddwn yn falch iawn gan ei fod yn rhywbeth sydd wastad wedi fy ymddiddori.
“ Nawr, mi rwyf yn cynorthwyo â gweinyddiaeth ac wedi derbyn hyfforddiant gan CAB er mwyn gallu diweddaru’r wefan yn unionsydd â chyfieithiadau Cymraegâ€.
Mae Menter Cwm Gwendraeth hefyd yn darparu gwasanaethau iaith i amryw o gwmnioedd lleol.
Mae gwasanaethau yn cynnwys cyfieithu ar y pryd, prawfddarllen a golygu yn ogystal â dapraru cyngor a hyfforddiant ar impio ddwyieithog a llunio polisiau ddwyieithog.
Am fwy o wybodaeth ar wasanaethau iaith, cysylltwch â Meinir ar 01269871600 neu e-bostiwch meinir@mentercwmgwendraeth.org.uk.
Llun: Tîm cyfieithu Menter Cwm Gwendraeth Natalie Saunders, Hannah Jones a Hefin Jones.
Nodyn i’r wasg: Am fwy o wybodaeth cysylltwch â Swyddog y Wasg Laura Grime ar 01267 224176.
Nodyn i Olygyddion
Mae Menter Cwm Gwendraeth, a sefydlwyd yn 1991 yn gweithio’n strategol ar sail Fframwaith Cynllunio Cymunedol y Cynulliad a Chyngor Sir Gaerfyrddin gan ddatblygu prosiectau ym maes Iechyd a Lles, Adfywio Cymunedol, yr Amgylchedd, Addysg Gydol Oes, Diogelwch Cymunedol a Phlant a Phobl Ifanc gan sicrhau bod y Gymraeg yn llorweddol yn natblygiad pob prosiect.
Mae’r cwmni wedi rhoi nifer o gytundebau lefel gwasanaeth ar waith ar draws Sir Gaerfyrddin ac yn gweithio gyda phartneriaid allweddol gan gynnwys Cynulliad Cenedlaethol Cymru, Cyngor Sir Gaerfyrddin, Bwrdd Iechyd Hywel Dda, prifysgolion a sectorau preifat a gwirfoddol.
Â
Help keep news FREE for our readers
Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle