#FelMerch – Cynhadledd Arloesol i Ysbrydoli Merched ym Maes Chwaraeon

0
313
Francesca Antoniazzi

r drothwy Diwrnod Rhyngwladol y Merched, mae Urdd Gobaith Cymru i gynnal y gynhadledd chwaraeon ieuenctid benywaidd gyntaf erioed yng Nghymru. Prif bwrpas cynhadledd #FelMerch, a gynhelir dros benwythnos 5-6 Mawrth yng Ngwersyll yr Urdd ym Mae Caerdydd, yw ysbrydoli, cefnogi ac ymbweru mwy o ferched 16 – 25 oed i ymwneud â chwaraeon.

Mi fydd 150 o ferched o bob cwr o Gymru yn mynychu’r gynhadledd dros y penwythnos ac yn mwynhau sgyrsiau a gweithdai amrywiol dan arweiniad 20 o unigolion ysbrydoledig ac adnabyddus, yn ogystal â chael cyfle i rannu syniadau, trafod cyfleoedd gwirfoddoli, hyfforddiant a chymwysterau yn y maes chwaraeon.

Bydd y gynhadledd ddwyieithog yn cael ei harwain gan y gyflwynwraig a’r athletwraig Lowri Morgan, a’r siaradwyr yn cynnwys enwau fel Gemma Grainger, Hollie Arnold MBE, Laura McAllister, Natasha Harding, Elinor Snowsill, Gwennan Harries a Dyddgu Hywel.

Mae’r Gynhadledd yn benllanw blwyddyn gyntaf prosiect llwyddiannus #FelMerch, a lansiwyd gan yr Urdd ym Mehefin 2021 mewn partneriaeth â Chwaraeon Cymru, er mwyn mynd i’r afael â’r ffaith bod merched ifanc yn fwy tebygol o roi’r gorau i chwaraeon yn eu harddegau, yn enwedig ers i’r pandemig daro.

Meddai Gemma Grainger, Rheolwr Tîm Pêl-droed Merched Cymru: “Dw i’n edrych ymlaen yn fawr at fod yn rhan o gynhadledd #FelMerch yr Urdd. Fel y prosiect #FelMerch, bydd y penwythnos yn hollbwysig o ran cynyddu hyder merched i gymryd rhan mewn chwaraeon a chynyddu’r cyfleoedd a’r ddarpariaeth mewn chwaraeon i ferched ar draws Cymru.

“Gwelais yn uniongyrchol lwyddiant #FelMerch ar ymweliad i Wersyll Llangrannog, a sut mae’r Urdd yn cefnogi merched i fynychu gemau pêl-droed y tîm merched cenedlaethol drwy drefnu cludiant i’r gemau. Dwi’n edrych ymlaen at weld #FelMerch yn mynd o nerth i nerth yn y dyfodol.” 

Ychwanegodd Hollie Arnold MBE, taflwr gwaywffon sydd wedi cipio medalau Paralympaidd a thorri sawl record byd: “Ers erioed, mae menywod ifanc wedi clywed gan eraill na allant gyflawni rhywbeth, neu nad ydyn nhw’n ddigon da oherwydd eu rhyw. Rwyf wedi wynebu heriau yn fy mywyd yn tyfu i fyny ag anabledd, ond rwyf bob amser wedi ei ddefnyddio fel mantais. I fi, mae meddylfryd ac agwedd yn allweddol i gyflawni beth bynnag fo’r her.

“Mae pob merch ifanc yn haeddu’r un cyfleoedd a dyna pam rydw i mor falch o gymryd rhan yng nghynhadledd chwaraeon ieuenctid benywaidd gyntaf Cymru, #FelMerch, gan helpu i ysbrydoli, grymuso a darparu cyfleoedd i gefnogi merched ifanc i gyflawni eu llawn botensial a chyrraedd eu huchelgais.”

Mae rhoi llais i bobl ifanc yn rhan bwysig o waith Urdd Gobaith Cymru, ac un o siaradwyr ifanc y Gynhadledd fydd Francesca Antoniazzi o Ynys Môn, chwaraewraig pêl-rwyd a dorrodd ei chefn mewn damwain 5 mlynedd yn ôl. Yn hytrach na rhoi’r gorau i chwaraeon, dechreuodd chwarae pêl-fasged cadair olwyn a chodi pwysau, a chipiodd ddwy fedal aur ym Mhencampwriaeth Cymru a dwy fedal arian ym Mhencampwriaeth Prydain.

Meddai Francesca: “Mae pethau’n ymddangos yn amhosib, nes eich bod yn eu cyflawni. Mae wastad ffordd o gyflawni, hyd yn oed os oes rhaid gofyn am help, nid yw gofyn am help yn wendid.”

Yn ogystal â chyfle i glywed gan ferched sydd wedi llwyddo ym maes chwaraeon proffesiynol, bydd y gynhadledd yn gyfle i ystyried chwaraeon mewn cyd-destun ehangach. Bydd yr hyfforddwraig Catrin Ahmun yn trafod ffitrwydd ac iechyd meddwl, bydd sesiwn am y berthynas rhwng bwyd a chwaraeon gyda’r gogyddes Beca Lyne-Pirkis, sesiwn am chwaraeon a delwedd y corff gyda’r model a chyn-gystadleuydd Love Island Connagh Howard a llawer mwy.

Cynhelir y gynhadledd gyda chefnogaeth Llywodraeth Cymru, ac mae Dirprwy Weinidog y Celfyddydau a Chwaraeon, Dawn Bowden yn edrych ymlaen at gael cymryd rhan: “Rwy’n falch iawn o gael y cyfle i siarad yn y gynhadledd chwaraeon ieuenctid gyntaf erioed hon ac i gefnogi rhaglen weithgareddau #FelMerch. Mae #FelMerch yn chwarae rhan allweddol bwysig wrth annog merched i gymryd rhan mewn gweithgareddau chwaraeon, waeth beth fo’u gallu, ac yn cynnig amgylchedd diogel i wneud hynny. Mae’n addo bod yn ddigwyddiad ysbrydoledig iawn.”

Meddai Siân Lewis, Prif Weithredwr Urdd Gobaith Cymru: “Mae sicrhau bod merched ifanc yn cael y gefnogaeth a’r cyfleodd i gymryd rhan mewn chwaraeon yn hollbwysig i ni fel Mudiad – mae 56% o’r bobl ifanc sy’n cymryd rhan yn ein darpariaeth chwaraeon wythnosol yn ferched. Mae’r prosiect #FelMerch wedi arwain at gyfleodd pellach i ferched ym maes chwaraeon; gweithgareddau wythnosol cynhwysol, fforymau trafod, hybiau cymunedol yn ystod y gwyliau a llawer mwy. Mae’r ymateb wedi bod yn wych a’r gobaith yw y bydd y gynhadledd hon yn helpu ysbrydoli cenhedlaeth o ferched Cymru i brofi’r budd o ymwneud â phob agwedd o chwaraeon.


Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle