ELUSENINAU IECHYD HYWEL DDA AR BEIRIANT ECG A BRYNU AR GYFER WARD RHIANNON YB YSBYTY BRONGLAIS

0
511
Above: Yn y llun gyda'r peiriant ECG newydd mae'r Nyrs Gyffredinol Gofrestredig Evie Williams a'r Gweithiwr Cymorth Gofal Iechyd Tracey Leighton

Diolch i roddion lleol mae Elusennau Iechyd Hywel Dda wedi prynu peiriant Electrocardiogram (ECG) newydd gwerth dros £5,000 ar gyfer ward lawfeddygol Rhiannon yn Ysbyty Bronglais.

Mae uned newydd ar gyfer cleifion sy’n gwella ar ôl llawdriniaeth wedi’i datblygu fel rhan o ward Rhiannon, ar hyn o bryd ar gyfer cleifion sy’n cael eu trin am ganser y colon a’r rhefr ond hefyd yn y dyfodol i’w hymestyn i gleifion orthopedig a gynaecoleg.

Bydd y peiriant ECG yn cael ei ddefnyddio i wirio rhythmau cardiaidd a gweithgaredd trydanol cleifion, gan helpu i fonitro cyflyrau calon cleifion sy’n gwella ar ôl llawdriniaethau.

Dywedodd Louise Evans, Prif Nyrs: “Mae nyrsys ar ward Rhiannon wedi cael hyfforddiant ychwanegol gan ein Llawfeddyg Ymgynghorol newydd y Colon a’r Rhefr Simone Sebastiani fel

y gallwn ofalu am gleifion sydd angen gofal ychwanegol ond nad oes angen eu derbyn i Uned Gofal Dwys (ICU), ar ôl llawdriniaeth.

“Ar hyn o bryd mae gennym ni dri gwely yn yr Uned Gofal Ôl-Anesthetig (PACU) newydd. Mae hyn yn golygu llai o debygolrwydd o ganslo llawdriniaeth oherwydd bod gwelyau yn yr unedau gofal dwys ac unedau dibyniaeth uwch yn llawn.

“Mae cael ein peiriant ECG pwrpasol ein hunain yn golygu y bydd gofal yn cael ei ddarparu yn y modd mwyaf amserol.”

Dywedodd Nicola Llewelyn, Pennaeth Elusennau Iechyd Hywel Dda, elusen swyddogol Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda: “Mae cefnogaeth ein cymunedau lleol yn ein galluogi i ddarparu gwasanaethau y tu hwnt i’r hyn y gall y GIG ei ddarparu yn nhair sir Hywel Dda a rydym yn hynod ddiolchgar am bob rhodd a gawn i wneud gwahaniaeth cadarnhaol i iechyd, lles a phrofiad cleifion, defnyddwyr gwasanaeth a staff y GIG.”

I gael rhagor o fanylion am yr elusen a sut y gallwch helpu i gefnogi cleifion a staff lleol y GIG, ewch i www.elusennauiechydbihyweldda.org.uk

Yn y llun gyda’r peiriant ECG newydd mae’r Nyrs Gyffredinol Gofrestredig Evie Williams a’r Gweithiwr Cymorth Gofal Iechyd Tracey Leighton.


Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle