Mae’r Gweinidog Newid Hinsawdd Julie James wedi datgelu rhaglen lifogydd fwyaf erioed Llywodraeth Cymru, gwerth rhagor na £214m dros dair blynedd
Mae’r Rhaglen Lywodraethu yn ei gwneud yn glir ein bod yn canolbwyntio ar ddeall effeithiau newid yn yr hinsawdd, casglu tystiolaeth i nodi datrysiadau a chyflawni canlyniadau sy’n helpu i wella gwydnwch ein cymunedau, ein heconomi a’n hamgylchedd i gefnogi cenedlaethau’r dyfodol.
Mae hyn yn cynnwys cynnydd yn y buddsoddiad ar gyfer rheoli a lliniaru perygl llifogydd ac erydu arfordirol fel rhan o’r Cytundeb Cydweithredu â Phlaid Cymru.
Datgelodd y Gweinidog y manylion mewn cynhadledd i’r wasg heddiw ar ôl ymweliad â phrosiect £3m yn Aberafan ar gyfer cryfhau’r promenâd a diogelu cartrefi a busnesau rhag stormydd a llifogydd y dyfodol.
Dim ond un llwyddiant hyd yma yw prosiect Aberafan. Mae gwaith newydd Llywodraeth Cymru llynedd wedi cefnogi ystod eang o waith i leihau’r perygl o lifogydd ac erydu arfordirol i dros 950 o gartrefi a busnesau ledled Cymru – gyda 3,600 arall yn elwa ar waith i gryfhau amddiffynfeydd sydd yno eisoes.
Dywedodd y Gweinidog Newid Hinsawdd Julie James: “Fel y dywed adroddiad diweddaraf yr IPCC, mae’r hinsawdd yn newid nawr ac yn effeithio eisoes ar fywyd a bywoliaeth miliynau o bobl ym mhob cwr o’r byd.
“Yn ogystal â lleihau’n hallyriadau, rhaid i ni oll weithio gyda’n gilydd i addasu i hinsawdd sy’n newid.
“Cwta fis yn ôl, cawsom dair storm anferth, un ar ôl y llall, yng Nghymru gyda llawer o gymunedau’n dioddef – fuodd hi erioed bwysicach i fuddsoddi i’w hamddiffyn.
“Mae’n dda gen i gyhoeddi felly ein rhaglen lifogydd fwyaf erioed, fydd yn neilltuo £71 miliwn flwyddyn nesaf a £214m dros y tair blynedd nesaf.
“Caiff ei defnyddio i gynnal cynlluniau mawr i leihau llifogydd, nodi anghenion lleol a datblygu prosiectau am y dyfodol. Bydd ein cyllid hefyd yn helpu i gynllunio’n well at y dyfodol – rydyn ni’n disgwyl ymlaen at gydweithio ag Awdurdodau Rheoli Risg i’w rhoi ar waith ar fyrder ac i gefnogi pobl Cymru.”
Cadarnhaodd y Gweinidog y bydd £24 miliwn yn fwy o refeniw dros y tair blynedd nesaf. Flwyddyn nesaf bydd hynny’n golygu:
- cynnydd o £1.5m yng nghyllideb Cyfoeth Naturiol Cymru
- cynyddu’r refeniw y caiff awdurdodau lleol wneud cais amdano hyd i £225,000 yr un
- estyn y Rhaglen Rheoli Risg Arfordirol presennol i un flwyddyn derfynol
Hefyd, cyhoeddodd y Gweinidog fap yn dangos sut y byddai cyllid rhaglenni cyfalaf yn cael ei wario ledled Cymru a’r ardaloedd a fyddai’n elwa. Bydd cyllid y flwyddyn nesaf o fudd i fwy na 14,500 o eiddo.
Ychwanegodd y Gweinidog: “Mae ein Strategaeth Genedlaethol ar gyfer Rheoli Perygl Llifogydd ac Erydu Arfordirol yng Nghymru a gyhoeddwyd yn 2020, ac ymrwymiadau cysylltiedig y Rhaglen Lywodraethu, yn cadarnhau sut rydym yn camu i fyny i ymateb i her y newid yn yr hinsawdd a diogelu ein cymunedau rhag ei effeithiau.
“Yn ogystal â’r strategaeth, rydyn ni wedi cyhoeddi Map Llifogydd Cymru, Cronfa Ddata o Asedau Cenedlaethol a Map Llifogydd ar gyfer Cynllunio. Mae pob un wedi’i gynllunio i fynd i’r afael ag effeithiau’r hinsawdd.
“Mae’r lefelau buddsoddi uchaf erioed rwy’n eu haddo heddiw yn adlewyrchu’r pwys y mae’r Llywodraeth hon yn ei roi ar reoli perygl llifogydd wrth i ni wella ein dealltwriaeth o’r heriau’r newid yn yr hinsawdd a gweithio gyda’n gilydd i addasu a pharatoi.”
Help keep news FREE for our readers
Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle