Diogelwch y Gwanwyn 2022 

0
295

Y mis hwn caiff ymgyrch Diogelwch y Gwanwyn Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru ei lansio.

Mae misoedd y Gwanwyn yn draddodiadol yn dod â thywydd cynhesach, ac wrth i’r nosweithiau fynd yn fwyfwy golau, gallwn ddechrau mwynhau’r awyr agored yn fwy.  Mae’r adeg hon o’r flwyddyn hefyd yn cynnig llawer o gyfleoedd i ddal i fyny â’r pethau na allem eu gwneud yn ystod misoedd y gaeaf.  P’un a ydych yn clirio’r ardd ac yn cael coelcerth, yn mwynhau barbeciw cyntaf y tymor, neu hyd yn oed yn mynd i nofio yn y môr am y tro cyntaf, rydym am i chi gadw eich diogelwch ar frig y rhestr. 

Dywedodd Richie Felton, Pennaeth Diogelwch Cymunedol 

“Y mis hwn gwelir lansiad ein Hymgyrch Diogelwch y Gwanwyn, ac yn sgil y tywydd cynhesach a’r cynnydd yn nifer yr ymwelwyr â chanolbarth a gorllewin Cymru, rydym am sicrhau ein bod yn eich cadw chi a’ch teuluoedd yn ddiogel. 

Dros y ddwy flynedd ddiwethaf, mae ein diffoddwyr tân wedi ymateb i tua 1440 o danau bwriadol, 1170 o danau glaswellt a 440 o danau sbwriel. Rydym am sicrhau bod y cyhoedd, yn 2022, yn mwynhau tywydd y Gwanwyn ac yn cydnabod yr effaith y gallai tanau o’r fath ei chael ar eu bywydau, yr amgylchedd a chymunedau.

Mae ein hymgyrch #DawnsGlaw, sydd hefyd yn cael ei lansio y mis hwn, yn canolbwyntio ar y modd y gallwn weithio gyda’n cymunedau i sicrhau hynny.” 

Bydd Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru hefyd yn cefnogi ymgyrch Cyngor Cenedlaethol y Penaethiaid Tân (NFCC), Deall Peryglon Dŵr. Cynhelir yr ymgyrch wythnos o hyd rhwng 25 Ebrill a 1 Mai 2022, ac mae’n ymgyrch genedlaethol sydd â’r nod o amlygu’r perygl o foddi damweiniol.

I weld rhagor o negeseuon diogelwch, gwybodaeth, cyngor neu ganllawiau yn ystod wythnos Diogelwch y Gwanwyn, edrychwch ar ein sianeli Cyfryngau Cymdeithasol neu ewch i’n tudalen Gofalu yn y Gwanwyn.


Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle