Gwirfoddolwyr yn helpu i fynd i’r afael â sbwriel a thipio anghyfreithlon yn Sir Gaerfyrddin 

0
326
Ysgol Pen Rhos Litterpick

MAE Cyngor Sir Caerfyrddin a gwirfoddolwyr o gymunedau ledled Sir Gaerfyrddin wedi gweithio’n galed yn ystod y flwyddyn ddiwethaf i fynd i’r afael â materion Ansawdd yr Amgylchedd Lleol (AALl).

Yn ystod y deuddeg mis diwethaf, mae’r cyngor, grwpiau cymunedol, ysgolion a phartneriaid wedi casglu dros 2,000 o fagiau o sbwriel a gwastraff wedi’i dipio’n anghyfreithlon o bob rhan o’r sir.

Cyflawnwyd y canlyniad gwych hwn gyda chymorth bron i 1,400 o wirfoddolwyr sy’n gweithio’n galed i helpu i gadw Sir Gaerfyrddin yn lân.

Dywedodd y Cynghorydd Hazel Evans, sef yr Aelod Cabinet dros yr Amgylchedd: “Diolch i gymunedau ledled Sir Gaerfyrddin sydd wedi ein helpu i gyflawni’r canlyniadau gwych hyn dros y flwyddyn ddiwethaf, gyda bron i 350 o ddigwyddiadau codi sbwriel yn cael eu trefnu mewn partneriaeth â’r Cyngor.

Bigyn Litter Pick

“Mae ymdrechion tîm amgylchedd y Cyngor, gwirfoddolwyr o gymunedau lleol a gweithio mewn partneriaeth yn golygu bod ardaloedd yn Sir Gaerfyrddin sy’n cael eu difetha gan sbwriel a thipio anghyfreithlon wedi gwella’n sylweddol.”

I drefnu digwyddiad casglu sbwriel cymunedol, cysylltwch â creugarddhardd@sirgar.gov.uk


Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle