Trawsnewid mwy o unedau diwydiannol yng Nglanaman 

0
278
Llun: Cynghorydd David Jenkins, yr Aelod Cabinet dros Adnoddau, Cyngor Sir Caerfyrddin, yn yn gweithdai Glanamman.

MAE chwe uned ddiwydiannol newydd wedi’u cwblhau fel rhan o fuddsoddiad o £2.5 miliwn gan Gyngor Sir Caerfyrddin yng Nglanaman.

Mae’r hen weithdai gwag yn Heol y Tabernacl wedi cael eu trawsnewid ac yn cael eu defnyddio unwaith eto fel rhan o ail gam ar ôl i’r cyngor neilltuo’r arian o’i Raglen Gwaith Cyfalaf Pum Mlynedd yn 2017.

Cafodd cam un ei gwblhau yn 2018 gydag 13 o unedau yn cael eu trawsnewid a’u llenwi gyda busnesau sy’n amrywio o fusnesau ffensio a phren a gweithgynhyrchu offer pysgota, i fusnesau adfer ac atgyweirio dodrefn, cyflenwi stofiau llosgi coed ac offer arlwyo a hufen iâ.

Mae’r gweithdai newydd sydd wedi’u hadeiladu o ddur ar gyfer busnesau, defnydd diwydiannol cyffredinol, storio neu ddosbarthu, ac ar ôl eu cwblhau, disgwylir y byddant yn gallu cynnig lleoliad i chwech o fusnesau bach gyda 15-20 o swyddi ychwanegol.

Mae ganddynt gyfleusterau toiled a chegin, drysau rholio, a phaneli solar ffotofoltäig wedi’u gosod ar y to, ac maent yn amrywio o 48 metr sgwâr (tua 500 troedfedd sgwâr) i 94 metr sgwâr (tua 1000 troedfedd sgwâr).

Maent yn cael eu cynnig ar delerau prydles misol hyblyg, wedi’u hanelu at ddefnyddiau B1, B2 a B8 a’u bwriad yw helpu i ateb y galw mawr sydd yn y sir ar hyn o bryd am fannau diwydiannol.

Dywedodd y Cynghorydd David Jenkins, yr Aelod Cabinet dros Adnoddau, Cyngor Sir Caerfyrddin: “Bydd y gweithdai diweddaraf i gael eu hadnewyddu nid yn unig yn annog creu mwy o swyddi ond byddant hefyd yn cynyddu’r cyflenwad o unedau diwydiannol i fodloni’r galw yn yr ardal. Mae 13 o unedau eisoes yn gweithredu’n llwyddiannus fel busnesau yn dilyn ein gwaith yng Ngham Un a chawsant eu gosod yn gyflym iawn, felly rydym wrth ein boddau ein bod yn gallu cynnig chwe uned ychwanegol arall. Heb amheuaeth, byddant yn darparu swyddi a chyfleoedd gwych i bobl sydd am sefydlu eu busnesau yn Sir Gaerfyrddin a thu hwnt.”

Mae gan y Cyngor bortffolio mawr o eiddo diwydiannol a swyddfeydd ac mae’r galw amdano ar hyn o bryd yn uwch nag y bu ers nifer o flynyddoedd.

Dylai unrhyw fusnesau sydd â diddordeb gysylltu â’r swyddfa eiddo drwy ffonio 01267 246246 i gael rhagor o fanylion.


Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle