MAE Cyngor Sir Caerfyrddin wedi cytuno ar gynllun uchelgeisiol i ddarparu dros 2,000 o dai newydd a fforddiadwy ychwanegol ledled y sir dros y pum mlynedd nesaf.
Bydd y Cynllun Cyflawni ar gyfer Adfywio a Datblygu Tai, a gymeradwywyd gan y Cyngor Llawn yr wythnos hon, nid yn unig yn creu cartrefi fforddiadwy a chynaliadwy i bobl leol, ond hefyd yn cefnogi twf economaidd ledled Sir Gaerfyrddin gan gefnogi busnesau, pobl a llefydd yn ystod y broses adeiladu a thu hwnt.
Mae’r 2,000 o gartrefi newydd yn ychwanegol at gynlluniau darparu tai a gytunwyd arnynt yn flaenorol, sydd eisoes wedi darparu dros 1,000 o dai newydd flwyddyn cyn y targed, gyda’r allweddi i fwy na 100 o gartrefi yn cael eu trosglwyddo i denantiaid.
Dywedodd y Cynghorydd Linda Evans, Yr Aelod Cabinet dros Dai, fod y buddsoddiad o £300miliwn nid yn unig yn ymwneud â thai, ond â chefnogi datblygiad cymunedau cynaliadwy cryf, llefydd lle mae pobl eisiau byw a gweithio ynddynt, a rhoi cartrefi o ansawdd da sy’n effeithlon o ran ynni ac yn fforddiadwy i’w rhedeg i bobl.
“Mae hwn yn gynllun cyffrous ac uchelgeisiol a fydd yn gweld buddsoddiad sylweddol yn ein cymunedau,” dywedodd.
“Bydd yn gwneud cyfraniad mawr i’r angen am dai newydd a fforddiadwy ar draws y sir, ac wrth gwrs yn cefnogi economi’r sir.
“Ychydig flynyddoedd yn ôl, yn 2019, gwnaethom gyhoeddi ein cynlluniau i adeiladu 900 o dai cyngor newydd dros y 10 mlynedd nesaf – mae’r cynllun hwn yn ymestyn yr uchelgais ymhellach, wrth i ni adolygu a manteisio ar gyfleoedd newydd.
“Mae’r cynllun hwn yn cynnwys tai i’w rhentu a’u prynu mewn ardaloedd ar draws y sir – cartrefi a fydd yn diwallu anghenion a galw’r ardal benodol.
“Nid yw’n ymwneud ag adeiladu cartrefi yn unig, bydd y cartrefi hyn o safon uchel ac yn gynaliadwy, cartrefi y bydd pobl o bob oed yn falch iawn o’u galw’n ‘gartref’.”
Datblygwyd y cynllun ar ôl ymgynghori’n helaeth â thenantiaid, pobl ar y gofrestr tai, busnesau a rhanddeiliaid yn y sector tai.
Ychwanegodd y Cynghorydd Evans: “Hoffwn ddiolch i’n tenantiaid a’n partneriaid am eu cyfraniad a’u hadborth i’n hymgynghoriad diweddar. Ymatebodd 2,500 o bobl ac mae eu sylwadau wedi ein helpu i greu cynllun uchelgeisiol. Rydym nawr yn gwireddu’r weledigaeth hon.”
Bydd y 2,000 o gartrefi o ddeiliadaeth gymysg, i’w rhentu neu eu prynu, ac yn cael eu datblygu yn seiliedig ar anghenion pobl ym mhob ardal yn Sir Gaerfyrddin, yng nghanol trefi, trefi a phentrefi gwledig a safleoedd adfywio allweddol megis Pentref Gwyddor Bywyd Pentre Awel a Thyisha yn Llanelli.
Bydd yn golygu bod y cyngor yn adeiladu cartrefi newydd, gan weithio gyda chymdeithasau tai lleol a datblygwyr preifat; yn prynu cartrefi o’r farchnad agored; ac yn prydlesu cartrefi gan landlordiaid drwy asiantaeth gosodiadau mewnol y cyngor sef Gosod Syml.
Bydd y cynllun yn chwarae rhan allweddol yn y gwaith o gynyddu’r cyflenwad o gartrefi rhent cymdeithasol yn Sir Gaerfyrddin, gan gynnwys llety â chymorth arbenigol i bobl ag anghenion cymhleth a llety hyblyg wedi’i addasu’n hawdd i bobl wrth iddynt fynd yn hŷn.
Bydd y buddsoddiad yn rhoi hwb i’r economi leol, gan ddarparu swyddi a chyfleoedd hyfforddi yn ystod y broses adeiladu ac yn helpu Sir Gaerfyrddin i wella o effeithiau economaidd dinistriol pandemig Covid-19.
Bydd hefyd yn cefnogi egwyddorion Carbon Sero Net y Cyngor, gan greu cartrefi arloesol sy’n defnyddio ynni’n effeithlon, lleihau allyriadau carbon a hyrwyddo cynhesrwydd fforddiadwy i breswylwyr.
Dywedodd y Cynghorydd Ann Davies, Yr Aelod Cabinet dros y Newid yn yr Hinsawdd: “Bydd bron pob un o’r cartrefi hyn yn garbon sero-net, cartrefi cynaliadwy ac effeithlon i’n preswylwyr, sydd mawr eu hangen wrth i ni barhau i frwydro yn erbyn newid yn yr hinsawdd a chyda chostau ynni cynyddol.”
I gael rhagor o wybodaeth am fuddsoddiad y cyngor mewn tai, os ydych yn chwilio am gartref neu os ydych yn landlord sydd â chartref i’w brydlesu i’r cyngor, ewch i www.sirgar.llyw.cymru/ta
Help keep news FREE for our readers
Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle