Dewch allan i fwynhau rhai cyrsiau garddio gwych am ddim

0
315

Learning and Wellbeing Outdoors Dysgu a Lles yn yr Awyr Agore

Gyda’r gwanwyn bron wedi a chyrraedd, mae’n bryd cloddio a dechrau trawsnewid gerddi er mwyn sicrhau haf ffrwythlon.

I’r rhai nad oes ganddynt y bysedd gwyrdd neu’r wybodaeth sylfaenol sydd eu hangen i wneud eu mannau awyr agored yn fwrlwm, mae digon o help wrth law yn rhad ac am ddim.

Bydd Tir Coed, yr elusen dysgu a lles awyr agored o Aberystwyth, yn cynnal dau gwrs garddio deg wythnos yn rhad ac am ddim – un yn canolbwyntio ar wella eich gardd ar gyfer bywyd gwyllt a’r llall yn canolbwyntio ar arddio organig.Bydd y cwrs garddio bywyd gwyllt yn cael ei gynnal bob dydd Mercher o Fawrth 16 yng Nghoed Tyllwyd, Llanfarian, tra bod y cwrs garddio organig i’w gynnal bob dydd Llun o Fawrth 28 ar dir y fila Sioraidd syfrdanol yn Llanerchaeron yn nyffryn Aeron.

Daw’r cyrsiau fel rhan o AnTir, prosiect uchelgeisiol chwe blynedd Tir Coed, sy’n ceisio lleihau anghydraddoldebau iechyd, cymdeithasol ac economaidd yng nghefn gwlad canolbarth a gorllewin Cymru drwy helpu pobl i ailgysylltu â byd natur.

Dywedodd Alice Read, cydlynydd Prosiect Dichonoldeb AnTir Tir Coed: “Mae garddio yn amser hamdden gwych i bawb – beth bynnag fo’u gallu neu brofiad – a dyfodiad y gwanwyn yw’r amser perffaith i gymryd rhan.

“Mae garddio yn ein rhoi mewn cysylltiad â byd natur ac mae’n cynnig manteision enfawr i’n hiechyd corfforol a’n lles meddyliol yn ogystal â helpu’r bywyd gwyllt o’n cwmpas. Gall hyd yn oed gwtogi ar filiau bwyd pan ddaw’r haf a’r hydref o gwmpas a ffrwyth ein llafur yn barod i’w gynaeafu.

“Mae ein cyrsiau garddio bywyd gwyllt a garddio organig yn gyfle delfrydol i ddysgu sgiliau newydd, gwneud ffrindiau a chael eich dwylo’n fudr o dan oruchwyliaeth ein tiwtoriaid arbenigol.”

I ddarganfod mwy am y rhain neu unrhyw gyrsiau Tir Coed eraill, cysylltwch ag Alice ar antir@tircoed.org.uk

Cefnogir y cyrsiau hyn gan Gronfa Adnewyddu Cymunedol Llywodraeth y DU.


Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle