MAE Cyngor Sir Caerfyrddin yn dweud y bydd yn cynnig ystod lawn o gymorth i deuluoedd o Wcráin a phobl leol sy’n cynnig croesawu ffoaduriaid i’w cartrefi.
Mae swyddogion yn gweithio gyda Llywodraeth Cymru ac eisoes yn cael sgyrsiau gyda phartneriaid allanol allweddol, gan gynnwys landlordiaid preifat a chymdeithasau tai lleol, sefydliadau gwirfoddol ac elusennol a’r bobl sydd eisoes wedi cynnig i gynnig llety i deuluoedd neu roi cymorth mewn ffyrdd eraill.
Dywedwyd y bydd ffoaduriaid sy’n dianc rhag y gwrthdaro yn Wcráin yn cael cymorth i ddod o hyd i dai addas, cyflogaeth ac addysg, yn ogystal â chymorth emosiynol a diogelu.
Mae’r cyngor wedi lansio ffurflen ar-lein ar ei wefan i gasglu gwybodaeth gan bobl Sir Gaerfyrddin am y math o gymorth y gallant ei gynnig hefyd.
Er bod pobl yn cael eu hannog yn gyntaf i roi arian drwy’r Pwyllgor Argyfyngau i roi cymorth i ddinasyddion yn Wcráin a’r gwledydd cyfagos, mae’r cyngor wedi awgrymu ffyrdd ymarferol y gallai pobl helpu.
Mae hyn yn cynnwys croesawu teulu o Wcráin i’w cartref am ychydig wythnosau neu fisoedd, hyd nes y gellir dod o hyd i gartref parhaol, neu sicrhau bod cartref ar gael i’w rentu.
Gallai pobl wirfoddoli i helpu i baratoi cartrefi yn barod i deuluoedd symud iddynt, neu helpu gyda thrafnidiaeth ar gyfer teuluoedd sydd newydd gyrraedd.
Gofynnir i’r rhai sy’n gallu siarad Wcreineg neu Rwsieg gynorthwyo gyda chyfieithu a chyfieithu ar y pryd, helpu plant Wcráin gyda’u gwaith cartref a defnyddio sgiliau a gwybodaeth arbenigol eraill i helpu teuluoedd sy’n ffoaduriaid.
Dywedodd y cyngor y bydd yn defnyddio’r wybodaeth a gesglir yn lleol i drefnu cymorth wedi’i dargedu yn ôl yr angen, ond nad yw’n glir eto pryd na sut y gallai fod angen y cymorth – bydd rhagor o wybodaeth yn cael ei rhannu cyn gynted ag y bydd ar gael.
Mae Cymru wedi ymrwymo i gefnogi 1,000 o bobl i ddechrau yng ngham cyntaf y cynllun. Nid yw’r awdurdod yn gwybod eto faint o deuluoedd fydd yn ymgartrefu yn Sir Gaerfyrddin.
I gael rhagor o wybodaeth, neu i gofrestru eich diddordeb i gynnig cymorth, ewch i www.sirgar.llyw.cymru neu galw 01267 234567.
Help keep news FREE for our readers
Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle