Mae arweinwyr cynghorau a arweinir gan Blaid Cymru wedi ysgrifennu at bleidleiswyr Cymru cyn etholiadau lleol
O feddwl yn arloesol am dai, gweithredu’n gynnar yn ystod y pandemig, a chefnogi teuluoedd drwy’r argyfwng costau byw, mae cynghorau dan arweiniad Plaid Cymru wedi bod yn gwneud gwahaniaeth i fywydau miloedd o aelwydydd ledled Cymru.
Mewn llythyr ar y cyd at bleidleiswyr Cymru, mae arweinwyr y pedwar cyngor dan arweiniad Plaid Cymru yng Nghymru wedi nodi’n union sut y maent wedi diogelu’r pethau sydd wedi cadw cymunedau Cymru i symud.
Yn ystod y pandemig, adeiladodd Cyngor Sir Gaerfyrddin yr ‘ysbyty enfys’ cyntaf, datblygodd Cyngor Ceredigion un o’r systemau olrhain cysylltiadau cyntaf, sefydlodd Cyngor Gwynedd Dîm Cymorth Cofid traws-asiantaethol dros nos, a chyngor Ynys Môn oedd y cyntaf i sylweddoli’r angen am beiriannau monitro CO2 mewn ysgolion.
“Ein dull arloesol, ‘pobl yn gyntaf’ sy’n gwneud gwahaniaeth gwirioneddol i’n cymunedau” meddai arweinydd cyngor Ynys Môn, Llinos Medi Huws. Sylwodd Cyngor Ynys Môn yn gyflym ar yr angen i ysgolion aros ar agor fel canolfannau cymorth, gan groesawu plant agored i niwed, y rhai a oedd yn gymwys i gael prydau ysgol am ddim a phlant gweithwyr allweddol.
Eglura’r Cynghorydd Llinos Medi mai rhagwelediad cynghorau a arweinir gan Blaid Cymru sydd wedi arwain y ffordd wrth fynd i’r afael â’r ddwy her o gostau byw cynyddol ac argyfyngau hinsawdd:
“Yn wyneb llymder y Torïaid a chamreoli Llafur, mae ein cynghorau wedi cefnogi banciau bwyd lleol – yn ymarferol ac yn ariannol. Rydym wedi sefydlu cynlluniau rhannu bwyd, ac mae ein cynghorwyr wedi bod yn ymwneud â banciau bwyd, prosiectau gwastraff bwyd a chanolfannau dosbarthu bwyd ledled Cymru.
“Yn yr un modd, pan darodd y stormydd, yr oedd cynghorwyr Plaid yno. O Bont Fawr Llanrwst i Bontypridd a chymoedd y Rhondda, gwnaethom gefnogi trigolion a brwydro am fwy o fuddsoddiad mewn amddiffynfeydd rhag llifogydd pan nad oedd Llafur yn gwrando.”
Aeth y Cynghorydd Llinos Medi ymlaen i ddweud:
“Mae pleidlais i Blaid Cymru ar Fai 5ed yn bleidlais i’ch cymuned ac am ddiogelu’r pethau sy’n bwysig i chi – dyna pam rydym yn gofyn i chi ein barnu ar ein record o ymateb i’r pandemig, amddiffyn ein pobl ifanc a chefnogi’r economi leol.”
Help keep news FREE for our readers
Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle