Bu busnesau Aberteifi, Llandysul a Thregaron yn dathlu Dydd Gŵyl Dewi eleni trwy gymryd rhan yng nghystadleuaeth Addurno Ffenestri Cered: Menter Iaith Ceredigion.
Dyma’r tro cyntaf i’r gystadleuaeth yma gael ei chynnal gan Cered a’r prif nod oedd i greu ychydig o fwrlwm adeg Gŵyl Dewi gan ddod a môr o liw, creadigrwydd a Chymreictod gweledol i ganol trefi Ceredigion.
Bu’r gystadleuaeth hefyd yn ffordd effeithiol o ymgysylltu gyda busnesau’r trefi yma er mwyn gallu hyrwyddo’r gefnogaeth mae Cered yn gallu darparu i fusnesau e.e. llinell gyswllt cyfieithu rhad ac am ddim Helo Blod.
Dywedodd Siriol Teifi, trefnydd y gystadleuaeth ar ran Cered “Roedd hi’n galonogol i weld cymaint o fusnesau ar draws y trefi wedi cymryd rhan yn y gystadleuaeth, ac mae’n rhywbeth rydym yn gobeithio gallu parhau i wneud yn y dyfodol.”
Cafodd y ffenestri ei beirniadu ar eu gwreiddioldeb a’u hadlewyrchiad o ysbryd yr ŵyl ac o ysbryd Cymreictod.
Dyma’r canlyniadau:
· Aberteifi: 1af – Yum Yums. A chanmoliaeth i Florist on the Farm, UMeltMe, Troi Dalen a Depo.
· Llandysul1af – Nyth Y Robin. Gan roi canmoliaeth uchel i Upholsterer a Cariad Glass.
· Tregaron 1af – Anrhegaron. A chanmoliaeth uchel i Rhiannon, Caron Stores ac Arwyna
Derbyniodd yr enillwyr darian her Cered i’w gadw am flwyddyn yn ogystal â hamper llawn cynnyrch Cymreig. Os hoffech weld y ffenestri wedi eu haddurno ewch draw i dudalennau Cered Menter Iaith Ceredigion ar Facebook – @ceredmenteriaith neu Instagram – menteriaithceredigion.
Help keep news FREE for our readers
Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle