Yr heddlu’n gweithio gyda phartneriaid er mwyn atal pobl ifainc rhag ymgasglu a chreu trafferth

0
238

Mae Heddlu Dyfed-Powys yn paratoi ar gyfer ymgyrch i atal grwpiau mawr o bobl ifainc rhag ymgasglu ar hyd arfordir Sir Gaerfyrddin. 

Bydd timoedd plismona bro’r heddlu’n cynnal patrolau amlwg gyda phartneriaid, gan gynnwys yr Heddlu Trafnidiaeth Prydeinig a Chyngor Sir Gaerfyrddin er mwyn ceisio atal problem sydd wedi amharu’n fawr ar gymunedau yn y blynyddoedd diwethaf.

Mewn blynyddoedd diweddar, mae torfeydd o tua 100 o blant a phobl ifainc wedi heidio i drefi arfordirol bach.

Mae problemau wedi cynnwys yfed dan oed, rhedeg ar draws llinellau rheilffyrdd dan ddylanwad alcohol, ymddygiad gwrthgymdeithasol ac achosi niwsans yn lleol, a gadael llawer iawn o sbwriel ar ôl.

Mae’r Arolygydd Dawn Fencott-Price wedi apelio at rieni i wybod ble mae eu plant a beth maen nhw’n ei wneud.

“Mae hwn yn fater pwysig i’n cymunedau. Mae cynulliadau mawr ac aflonyddwch yn cael effaith negyddol ar fywydau pobl leol,” meddai.

“Y llynedd, roedd pobl ifainc yn teithio ar drên ac yn yfed alcohol, ac roedd rhai’n tresmasu ar linellau rheilffyrdd, a allai fod wedi arwain at ganlyniadau trychinebus.

“Y cyfan rydyn ni wir eisiau yw bod rhieni’n gwybod ble mae eu plant a beth maen nhw’n ei wneud.

“Y llynedd, atafaelwyd llawer iawn o alcohol, ac roedd peth ohono wedi’i gymryd o’r cyfeiriad cartref.

“Yr ydym eisiau i bobl ifainc fod yn ddiogel, a deall effaith eu hymddygiad ar y gymuned ehangach ar hyd arfordir Sir Gaerfyrddin.”

Y llynedd, rhoddwyd gorchmynion gwasgaru mewn grym ar draws Llanelli a Phorth Tywyn, yn ogystal ag un arall yng Nglan-y-fferi, gan roi pwerau i’r heddlu symud unrhyw un y credir ei fod yn achosi niwsans, aflonyddwch neu ofid yn yr ardal.

“Dechreuodd un bachgen a gafodd ei ddal ymddwyn yn gamdriniol tuag at swyddogion, ac nid oedd modd rhesymu ag ef,” ychwanegodd yr Arolygydd Fencott-Price.

“Doedd dim dewis gan swyddogion ond ei arestio er ei ddiogelwch ei hun ac er mwyn atal troseddau eraill rhag cael eu cyflawni.

“Mae ymddygiad o’r fath yn mynd tu hwnt i grwpiau o bobl ifainc yn cwrdd i gael amser da ac yn rhoi pobl mewn sefyllfaoedd peryglus dros ben.

“Byddwn yn parhau i roi ein cynlluniau ar waith dros yr haf er mwyn ymdrin ag ymddygiad gwrthgymdeithasol, gan ddefnyddio’r holl bwerau sydd ar gael inni a rhoi terfyn ar hynny.”


Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle