Ffocws ar lesiant yn helpu grŵp eiriolaeth i ehangu yn ystod y pandemig 

0
292

Mae elusen eiriolaeth (advocacy charity) yng Ngorllewin Cymru wedi canmol y gwasanaethau a ddarperir gan gwmni budd cymdeithasol RCS gan ddweud mai dyma un o’r rhesymau iddynt lwyddo i gadw staff ac ehangu yn ystod y pandemig. 

Gwelodd Eiriolaeth Gorllewin Cymru (EGC) / Advocacy West Wales (AWW) gynnydd yn galw am eu cymorth oherwydd Covid-19. O ganlyniad i hyn, ac uniad arfaethedig, dyblodd maint y tîm o 12 i 24 dros y 2 flynedd diwethaf. 

Mae EGC/AWW yn cynnig cymorth eiriolaeth annibynnol yn siroedd Penfro, Caerfyrddin a Cheredigion i rai sydd angen help a gofal, er enghraifft am resymau iechyd meddwl. Parhaodd yr elusen i hyrwyddo diwylliant o iechyd a lles er gwaethaf holl heriau’r clo mawr. 

Er mwyn cefnogi ei staff oedd yn gweithio’n rhithiol o gartref, a staff newydd o ddau gwmni a gymerwyd drosodd, gofynnodd EGC/AWW am gymorth RCS i flaenoriaethu iechyd a lles eu tîm o staff. 

(L-R) Peggy Spooner development officer, Natasha Fox, chief officer and independent advocate and Kate Bailey, assistant manager and independent advocate.

Mae cwmni RCS yn rhedeg cynllun ‘Cymorth yn y Gwaith / Work Support’ i gefnogi busnesau sy’n cyflogi llai na 250 o bobl ym mhob rhan o Orllewin Cymru. Caiff y cynllun ei noddi’n rhannol gan Gronfa Gymdeithasol Ewrop trwy Lywodraeth Cymru. Lluniodd RCS gynllun a systemau penodol gyda’r ffocws ar lesiant (wellbeing) i’w gweithredu ar draws y cwmni. 

Meddai prif swyddog EGC/AWW, Natasha Fox: “Rydym yn ymfalchïo yn y ffaith fod ein gweithle yn fan cefnogol ac agored. Mae ein staff yn delio’n rheolaidd â materion heriol iawn a gall hyn effeithio ar eu hiechyd. 

“Os ydym am wneud gwahaniaeth i’n cleientiaid rhaid inni gefnogi ein eiriolwyr ni ein hunain hefyd. Gyda chymorth RCS, rydym wedi llwyddo i wneud hynny. 

“Roedd dulliau gweithredu RCS yn gweithio’n ardderchog er bod ein tîm wedi ei wasgaru ar draws Gorllewin Cymru. Trwy gynnal y sesiynau’n rhithiol roedd modd i bob aelod o staff gael y cyfle i gymryd rhan ac elwa ohonynt.” 

Fel rhan o gynllun RCS, cafwyd gweminarau (webinars) rheolaidd lle cyflwynwyd strategaethau ymdopi a rhaglen Hyrwyddwyr Llesiant / Wellbeing Champions RCS i staff EGC/AWW er mwyn sicrhau fod newidiadau tymor hir yn gwreiddio ym mhob rhan o’r cwmni. 

Anogwyd defnyddio cynlluniau lles personol manwl ar gyfer pob aelod o’r tîm fel y ffordd orau o gefnogi unigolion mewn cyfnodau o boen a phryder. 

Meddai Rheolwr Gweithredu RCS, Mandy Bowler: “Y staff yw un o ffactorau allweddol llwyddiant pob busnes a gall iechyd a lles gwael effeithio ar bresenoldeb a pherfformiad. 

“Trwy ganolbwyntio ar adeiladu system sy’n cefnogi iechyd a lles staff yn y gweithle mae modd dylanwadu’n fawr ar absenoldebau a’u lleihau’n sylweddol. 

“Mae Eiriolaeth Gorllewin Cymru / Advocacy West Wales yn enghraifft berffaith o sut y gall ein gwasanaeth ‘Cymorth yn y Gwaith / Work Support’ weithio ochr yn ochr â systemau traddodiadol i helpu busnesau i gyrraedd eu llawn botensial a chadw cynhyrchedd yn gryf hyd yn oed mewn cyfnodau heriol fel y pandemig Covid-19.” 

Mae rhagor o wybodaeth am RCS a’r gwasanaeth ‘Cymorth yn y Gwaith / Work Support’ ar y wefan www.rcs-wales.co.uk, ac am Eiriolaeth Gorllewin Cymru / Advocacy West Wales ar y wefan www.advocacywestwales.org.uk


Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle