Ar ôl 37 mlynedd o wasanaeth ymroddedig, mae Chris Davies QFSM, ein Prif Swyddog Tân, yn ymddeol.
Yn ystod ei wythnosau olaf, cyn iddo drosglwyddo’r awenau i Roger Thomas, ein Prif Swyddog Tân newydd, eisteddodd Chris gyda’r Adran Cyfathrebu Corfforaethol a Datblygu Busnes i hel atgofion am yrfa ddisglair a wasanaethodd â balchder mawr.
“Ymunais â’r Gwasanaeth Tân ac Achub yn 1984, hanner ffordd trwy fy arholiadau safon Uwch, credwch neu beidio, ac yn groes i gyngor pawb o’m cwmpas ar y pryd. Roeddwn yn benderfynol o ymuno, ond allwn i byth fod wedi breuddwydio, bryd hynny, am yr yrfa a oedd o’m blaen.
“Dyna sydd mor wych am y Gwasanaeth Tân; gallwch ymuno heb lawer o gymwysterau na phrofiad, ac mae gennych y potensial i gyrraedd y brig, ac i fod yn Brif Swyddog Tân! Rwy’n meddwl y dylem ni yng Ngwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru, ac yn y sector, ymfalchïo yn hynny. Rwy’n credu y dylai pawb fod yn falch o’r hyn y maent yn ei wneud yn y Gwasanaeth, oherwydd, yn unol â’n natur, mae pob un ohonom yn mynd gam ymhellach i ddiogelu ein cymunedau.
Rydym yn uchel ein parch yn ein cymunedau. Rwy’n dweud wrth ein recriwtiaid pan fyddant yn cwblhau eu hyfforddiant, ac wrth griwiau wrth ymweld â gorsafoedd, fod yn rhaid i’n hymddygiad fod o’r safonau uchaf, am ein bod yn fodelau rôl, a, pha un a ydym yn y gwaith neu oddi ar ddyletswydd, mae pobl yn edrych arnom â’r parch mwyaf. Rwy’n hynod o falch o’r berthynas sydd gennym â’r cyhoedd ac, wrth edrych tua’r dyfodol, rwy’n meddwl ei bod yn bwysig i ni gynnal y lefel honno o falchder ac ymgysylltiad sydd gennym â’n cymunedau; dyna, yn fy marn i, sy’n ein gosod ar wahân i eraill.”
Yn ystod ei gyfnod yn Bennaeth, mae Chris wedi dyfarnu Cymeradwyaeth y Prif Swyddog Tân i nifer dethol o ddiffoddwyr tân sydd wedi gweithredu y tu hwnt i’w dyletswyddau er mwyn achub aelodau o’r cyhoedd. Ond a oeddech yn gwybod ei fod ef ei hun wedi cael Cymeradwyaeth y Prif Swyddog Tân?
“Dyfarnwyd Cymeradwyaeth y Prif Swyddog Tân am Ddewrder i mi ddiwedd yr 1980au pan oeddwn yn ddiffoddwr tân yng Nghaerdydd. Roeddwn yn rhan o ymateb dau griw i dân arbennig o heriol mewn tŷ, lle canfuwyd plentyn saith oed a’i achub o’r eiddo.
Mae hynny’n sicr yn rhywbeth sy’n arbennig iawn i mi, ac yn uchafbwynt personol; yn yr un modd a chael fy mhenodi’n Brif Swyddog Tân. Rwy’n credu ei bod yn bwysig ar hyn o bryd i mi gyfaddef fy mod yn perthyn i’r drydedd genhedlaeth i weithio yn y Gwasanaeth Tân. Roedd fy nhad-cu a’m tad yn ddiffoddwyr tân. Yn anfoddus, nid oedd fy nhad-cu yn fyw pan gefais fy mhenodi yn Brif Swyddog Tân, ond roedd fy nhad dal yn fyw, ac, fel y gallwch ddychmygu, roedd yn eithriadol o falch. Pan fyddwn yn cael fy nyrchafu, byddwn bob amser yn gwisgo nodau rheng fy nhad nes i mi gyrraedd yr hyn a oedd yn Swyddog Rhanbarthol, sef y Rheolwr Grŵp erbyn hyn, oherwydd dyna’r rheng a gyrhaeddodd cyn iddo ymddeol. Pan gefais fy nyrchafu yn Rheolwr Ardal, rwy’n cofio mynd ato a dangos nod y rheng iddo, a dywedodd wrthyf, ‘Rwyt ti ar dy ben dy hun ‘nawr, fachgen.’ Roeddwn yn fy 40au cynnar bryd hynny, ac roeddwn yn teimlo ar y pwynt hwnnw fy mod wedi cyrraedd.
Uchafbwynt nodedig arall oedd mynd i Balas Buckingham ar ran y Gwasanaeth. Roedd hynny’n achlysur mawr, ac mae’n dipyn o beth pan fyddwch yno.
Mae yna ddigwyddiadau heriol wedi bod yn ystod fy ngyrfa hefyd. Un ohonynt fyddai adeg yn ystod fy nghyfnod yn Brif Swyddog Tân pan fu CThEM ac Archwilio Cymru yn craffu arnaf, a oedd yn heriol tu hwnt ac yn llawn straen.
Yn anffodus, fodd bynnag, mae yna un digwyddiad rwyf yn ei gofio yn fwy nag unrhyw beth arall yn ystod fy nghyfnod yn Brif Swyddog Tân. Ar ddydd Mawrth, 17 Medi 2019, collasom y Diffoddwr Tân Josh Gardener. Mae ei farwolaeth yn golled fawr i’w deulu ac i dref Aberdaugleddau, ac mae wedi bod yn anodd iawn i nifer ohonom yn y Gwasanaeth ymgyfarwyddo â’i farwolaeth. Fe’m tarwyd yn fawr gan farwolaeth Josh, ac roedd hyn yn anodd iawn, iawn yn emosiynol.”
Yn ei rôl yn Brif Swyddog Tân, mae Chris wedi goruchwylio newid a datblygiad diwylliant yng Ngwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru, ac wedi gwella ei enw da yn y DU o fod yn wasanaeth arweiniol wrth dreialu a chroesawu technolegau newydd i wella diogelwch a galluogrwydd gweithredol Diffoddwyr Tân.
“Hoffwn gael fy nghofio am feithrin diwylliant o fod yn agored ac i bobl beidio ag ofni cwestiynu penderfyniad. Efallai na fyddwn bob amser yn hoffi’r ateb, ond dylem oll deimlo wedi ein grymuso i ofyn y cwestiynau heriol. Rwy’n hoffi cael fy herio, rwy’n hoffi’r ddadl ac rwy’n hoffi’r math hwnnw o feirniadaeth adeiladol, oherwydd dyna sut yr ydym i gyd yn dysgu.
Hoffwn feddwl hefyd fy mod wedi symud Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru i reng flaen Gwasanaethau Tân ac Achub y DU. Fy ngobaith ‘nawr yw bod pobl yn ymwybodol o’r hyn a wnawn. O ddefnyddio technoleg i dreialu a gweithredu arferion arloesol, i fod y Gwasanaeth Tân ac Achub cyntaf yn y byd i ennill Gwobr Platinwm Buddsoddwyr mewn Pobl.
Erbyn hyn, pan fydd pobl am ysgogi newid yn eu sefydliadau, rwy’n meddwl mai atom ni y mae gwasanaethau eraill yn troi gyntaf, oherwydd gallant weld yr hyn yr ydym wedi’i wneud a’r hyn yr ydym wedi’i gyflawni. Er mai fi yw’r cyntaf i ddweud nad ydym wedi gwneud popeth yn iawn, rwy’n credu’n gryf ein bod yn symud yn ein blaen trwy’r amser os ydym yn rhoi cynnig ar bethau. Rhaid i ni dderbyn y ffaith y bydd rhai pethau yn methu, ond rydym yn dysgu oddi wrthynt.”
Beth yw gobeithion Chris ar gyfer y Gwasanaeth ar ôl iddo adael?
“Rwy’n gobeithio y bydd y Gwasanaeth yn datblygu’n barhaus, ac rwy’n sicr y bydd yn gwneud hynny o dan arweiniad Roger ac Iwan. Mae’n hollol iawn y bydd gan Bennaeth newydd a’i Ddirprwy syniadau newydd a lleoedd newydd y byddant am fynd â’r Gwasanaeth iddynt, ac rwy’n edrych ymlaen at ddarllen a chlywed ar y newyddion am y gwaith cadarnhaol y mae Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru yn ei wneud gyda’i hyfforddiant, ei gyfarpar a’i staff.
Rhaid i mi dderbyn y bydd pethau’n wahanol, ond mae hynny’n iawn am fod newid yn dda, ac mae ar sefydliadau da angen wynebau a gwaed newydd i barhau i ddatblygu pethau.”
A oeddech yn gwybod fod gan Chris enw am fod yn dynnwr coes, a hynny o ddechrau ei yrfa!
“‘Nôl yn 1984, roeddwn yn ddiffoddwr tân 19 oed a oedd newydd adael yr ysgol, ac yn meddwl fy mod yn gwybod popeth.
Roeddwn i a’m criw yn ymateb i wrthdrawiad traffig ffyrdd yng nghanol Caerdydd, ac roedd ceir ar draws y ffordd a phobl yn gorwedd ar y ffordd. Felly, a minnau’n newydd yn y gwaith, cefais y dasg o roi cymorth cyntaf i unigolyn ar y llawr a oedd wedi’i anafu. Dechreuais trwy wneud y gwiriadau arferol, a phinsiais goes yr unigolyn i wneud yn siŵr nad oedd ganddo unrhyw anafiadau i’r asgwrn cefn.
Pan ofynnais i’r claf a oedd yn gallu teimlo fy mod yn ei binsio, atebodd ‘na allaf’. Dechreuais feddwl bod hyn yn ddifrifol a bod gan y claf anaf gwael i’w gefn. Nodiais ar gwpwl o’m cyd-weithwyr a daethant ataf yn gyflym. Sibrydais wrthynt fod yr unigolyn hwn wedi dioddef anaf gwael iawn i’w gefn am nad oedd yn gallu teimlo dim. Wrth brofi eto, gafaelais yng nghoes y claf a’i throi, ond doedd dal dim ymateb gan yr unigolyn. Erbyn hyn, roedd yna chwech o ddiffoddwyr tân o gwmpas y claf, ac felly galwyd ar staff yr ambiwlans. Wrth i ni ei roi yn ofalus ar stretsier, roeddwn yn dal fferau’r unigolyn, ac, yn sydyn, teimlais ei goes yn dod yn rhydd yn fy llaw!
Wrth i’r claf gael ei symud, edrychais ar fy nghyd-weithwyr a oedd hefyd yn ei gario, ac roeddent yn gofyn ‘Beth sy’n bod? Beth sy’n mynd ymlaen?’, a’r cyfan y gallwn ei ddweud oedd ‘Y, dim byd, dim byd’ gan geisio peidio â dychryn y claf, ond roeddwn yn gwneud arwyddion â’m llygaid ar i’r diffoddwyr tân edrych ar ei goesau. Roedd un goes yn hirach na’r llall. Roedd wedi dod yn rhydd!
Ar ôl i ni ei roi yn yr ambiwlans, roddwn yn ceisio prosesu’r ffaith bod coes dyn wedi dod yn rhydd yn fy llaw! Aeth ychydig funudau heibio, ac er mawr ryddhad i mi, daeth staff yr ambiwlans ataf a dweud, ‘O, dim ond i roi gwybod i ti, roedd gan y claf goes bren.’ Nid wyf wedi clywed ei diwedd hi o ran y digwyddiad hwnnw.”
Felly, beth yw cynlluniau nesaf Chris?
“Yn y byrdymor, rwy’n mynd ar fy ngwyliau a byddaf yn defnyddio’r amser hwnnw i ailwefru fy matris. Yr hyn yr wyf yn ei ddweud wrth bobl yw fy mod yn ymddeol o’r Gwasanaeth Tân, ond nid wyf yn barod i dyfu gwallt a barf hir eto. Byddaf yn gwneud rhywbeth newydd, ond nid wyf yn gwybod beth yn union ar hyn o bryd.
Gallaf ddweud â’m llaw ar fy nghalon fy mod wedi mwynhau pob munud o’m gyrfa. Bu’n fraint gwasanaethu yn rôl y Prif Swyddog Tân am wyth o’r blynyddoedd hynny ac, er i mi wneud ffrindiau a chysylltiadau yma a fydd yn aros gyda mi am weddill fy oes, byddaf yn colli teulu Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru yn fawr.
Diolch i bob aelod o’r staff am eich ymroddiad a’ch gwaith caled yn ystod fy nghyfnod o fod yn Brif Swyddog Tân, a chofion gorau i chi ar gyfer y dyfodol.
Diolch yn fawr a hwyl fawr,
Chris.”
Help keep news FREE for our readers
Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle