Ysgol o Gaerfyrddin yn ennill Her Gyrfaoedd Blasus

0
315
(l-r) Kathryn Jones (Castell Howell), Neil Kedward (Seren) and Hywel Griffith (Seren) with the winning team

Mae ysgol o Gaerfyrddin wedi ennill yr Her Gyrfaoedd Blasus, sy’n anelu at gyfeirio unigolion at yrfaoedd yn y sector bwyd.

Llwyddodd Ysgol Uwchradd y Frenhines Elisabeth i ennill yr her yn erbyn wyth ysgol arall o Sir Gaerfyrddin, Castell-nedd Port Talbot ac Abertawe a gymerodd ran yn y rownd derfynol ym Mharc y Scarlets.

Gan weithio gyda chyflogwyr lleol, gan gynnwys perchnogion bwytai a chaffis, y dasg oedd creu cwrs cyntaf, prif gwrs neu bwdin gan ddefnyddio cymaint o gynhwysion Cymreig â phosibl am gost o ddim mwy na £7.

Menter gan Academi Sgiliau Genedlaethol ar gyfer Bwyd a Diod (Cymru) yw Gyrfaoedd Blasus sy’n helpu i gefnogi pobl ifanc i ddeall y gyrfaoedd a’r cyfleoedd gwaith yn y diwydiant bwyd a diod.

The winning team at Parc Y Scarlets

Mae’r her yn bartneriaeth rhwng Gyrfa Cymru, Bwydydd Castell Howell, Seren a’r Academi Sgiliau Genedlaethol ar gyfer Bwyd a Diod (Cymru). Nod y gystadleuaeth yw cyfeirio unigolion at yrfaoedd yn y sector bwyd, helpu i feithrin sgiliau busnes gwerthfawr a dangos yr ystod o gyfleoedd gyrfa sydd ar gael mewn diwydiant cyffrous a phrysur.

Meddai James Hicks, rheolwr datblygu strategol yn yr Academi Sgiliau Genedlaethol ar gyfer Bwyd a Diod (Cymru): “Mae ansawdd y cyflwyniadau a gafwyd gan bob tîm a’r brwdfrydedd a ddangoswyd ganddynt wedi gwneud argraff fawr arnaf.

“Mae’r fenter hon yn helpu i godi ymwybyddiaeth eang o’r holl wahanol fathau o swyddi o fewn y sector, gan gynnwys peirianwyr, marchnatwyr a thechnolegwyr bwyd.

“Mae’r digwyddiad hwn heddiw wedi bod mor llwyddiannus fel ein bod yn bwriadu cynnal rhagor o ddigwyddiadau tebyg ledled Cymru.”

Mae tîm Ysgol Uwchradd y Frenhines Elisabeth wedi ennill pryd o fwyd am ddim yn un o fwytai Seren, sydd wedi ennill Seren Michellin, a’r cyfle i’w pryd buddugol ymddangos ar un o’r bwydlenni.

The winning dish

Roedd gan y naw tîm uchafswm o 12 munud i gyflwyno eu pryd i’r panel o feirniaid nodedig, gan gynnwys y prif gogydd Hywel Griffith, sydd wedi ennill Seren Michelin a chynrychiolwyr o gwmni Seren, Bwydydd Castell Howell, Canolfan Bwyd Cymru, Hyfforddiant Cambrian a Rhaglenni Masnach Bwyd a Diod y DU yn Llywodraeth Cymru.

Meddai Rebecca Wilson-Flower, athrawes yn Ysgol Uwchradd y Frenhines Elisabeth: “Mae hwn wedi bod yn brofiad gwych i mi a’r disgyblion. Maen nhw wedi datblygu sgiliau y byddan nhw’n eu defnyddio am weddill eu bywydau. Mae’n brofiad amhrisiadwy i bawb.”

Meddai Aled Evans, cynghorydd cyswllt busnes gyda Gyrfa Cymru: “Rhoddodd y gystadleuaeth hon gipolwg gwerthfawr ar y cyfleoedd sydd ar gael ym maes gweithgynhyrchu bwyd a lletygarwch i bawb a gymerodd ran.

“Gwelsom lawer o dalent ifanc yn ystod y cyflwyniadau, a heb amheuaeth, bu’n fodd o danio brwdfrydedd llawer o’r disgyblion a gymerodd ran i fynd i weithio yn y diwydiant prysur hwn.

“Bydd y cipolwg a gawsant a’r sgiliau y maen nhw wedi’u meithrin drwy’r gystadleuaeth hon yn sicr yn aros gyda nhw am flynyddoedd i ddod.”


Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle