Mae’r Etholiadau Lleol yn cael eu cynnal ar 5 Mai – ydych chi’n barod i bleidleisio?

0
336

DIM ond wythnos sydd ar ôl i gofrestru i bleidleisio yn yr Etholiadau Lleol ar 5 Mai.

Os ydych wedi cofrestru i bleidleisio o’r blaen, gallwch wirio eich bod wedi’ch cynnwys ar y gofrestr etholiadol. Fodd bynnag, efallai y bydd angen i chi gofrestru os yw eich manylion personol wedi newid yn ddiweddar, os ydych wedi symud tŷ yn ddiweddar, neu os ydych yn pleidleisio am y tro cyntaf.

Cofiwch, dyma’r tro cyntaf i bobl ifanc 16 ac 17 oed hefyd gael yr hawl i bleidleisio mewn Etholiadau Lleol yng Nghymru, felly os oes gennych bobl ifanc yn eich cartref, helpwch nhw i gofrestru.

Y dyddiad cau i gofrestru i bleidleisio yw hanner nos ar 14 Ebrill – gwnewch gais ar-lein ar gov.uk/register-to-vote– dim ond pum munud y mae’n ei gymryd.

Bydd pleidleiswyr yn Sir Gaerfyrddin yn pleidleisio i ddewis pwy y maent am iddynt eu cynrychioli yn eu hardal leol ar Gyngor Sir Caerfyrddin ac ar gynghorau tref a chymuned lleol.

Rhestrir yr ymgeiswyr sy’n sefyll yn yr etholiad ym mhob ardal ar www.sirgar.llyw.cymru/etholiadau.

Yn dilyn arolwg gan Gomisiwn Ffiniau Llywodraeth Leol i Gymru mae 51 o wardiau etholiadol yn Sir Gaerfyrddin erbyn hyn.  Gall olygu bod eich cyfeiriad mewn ward wahanol i Etholiadau Lleol blaenorol, ac efallai bod enw eich ward wedi newid – gallwch ddod o hyd i’ch ward ar-lein drwy nodi eich côd post.

Os ydych wedi cofrestru i bleidleisio, byddwch yn derbyn carden bleidleisio drwy’r post. Wedyn bydd gennych dri dewis ar sut yr hoffech bleidleisio:

  • Yn bersonol – ewch i’ch gorsaf bleidleisio ddynodedig rhwng 7am a 10pm ddydd Iau 5 Mai. Bydd yr orsaf bleidleisio wedi’i nodi ar eich carden bleidleisio.
  • Drwy’r post – gwnewch gais am bleidlais drwy’r post erbyn 5pm ddydd Mawrth, 19 Ebrill.  Rhaid dychwelyd eich pleidlais bost cyn diwedd y cyfnod pleidleisio am 10pm ddydd Iau, 5 Mai. Gallwch hefyd gyflwyno eich pleidlais bost mewn gorsaf bleidleisio rhwng 7am a 10pm ar y diwrnod. Os ydych chi’n gwneud camgymeriad neu’n colli eich pleidlais drwy’r post, gallwch chi gael un newydd cyn 5pm ar ddiwrnod yr etholiad – ffoniwch 01267 234567 os oes angen cymorth arnoch.
  • Drwy ddirprwy – gofynnwch i rywun rydych chi’n ymddiried ynddo bleidleisio ar eich rhan os na allwch bleidleisio’n bersonol naill ai am eich bod yn sâl, bod gennych ymrwymiadau gwaith annisgwyl neu eich bod allan o’r wlad ar adeg yr etholiad. Gwnewch gais am bleidlais drwy ddirprwy erbyn 5pm ddydd Mawrth 26 Ebrill. Bydd ceisiadau brys yn cael eu hystyried ar 5 Mai tan 5pm.

Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle