Cymorth entrepreneuraidd ac adfywio busnes

0
206

Bydd cyfres o ddigwyddiadau yn cael eu cynnal yn ystod mis Mai mewn chwe thref wledig yng Ngheredigion i ddarparu cymorth adfywio busnesau a chymorth entrepreneuraidd.

Nod y digwyddiadau, a gynhelir gan Cynnal y Cardi, yw annog unigolion mentrus i gymryd camau i ddechrau neu dyfu eu busnesau yng Ngheredigion drwy hwyluso trafodaethau ar syniadau busnes, materion a’r cymorth sydd ar gael.

Yn ogystal â chynrychiolwyr o sefydliadau gan gynnwys Syniadau Mawr Cymru, Busnes Cymru a Sgiliau Newydd Dechrau Newydd, bydd Llysgenhadon Busnes Lleol yn bresennol i rannu eu profiad a’u harferion gorau.

Cynhelir y digwyddiadau rhwng 2yp-6yh yn y lleoliadau a’r dyddiadau canlynol:

·         9 Mai – Y Talbot, Tregaron

·         11 Mai – Gwesty’r Porth, Llandysul

·         13 Mai – Gwesty’r Marine, Aberystwyth

·         16 Mai – Gwesty’r Feathers, Aberaeron

·         18 Mai – Canolfan Creuddyn, Llambed

·         20 Mai – Neuadd y Dref, Aberteifi

Dywedodd Russell Hughes-Pickering, Swyddog Arweiniol Corfforaethol dros yr Economi ac Adfywio: “Un o flaenoriaethau allweddol Strategaeth Economaidd Ceredigion yw gweld y rhai sy’n dymuno aros a datblygu gyrfa yng Ngheredigion yn sylweddoli bod cyfleoedd i wneud hynny. Rydym am greu diwylliant sy’n canolbwyntio ar entrepreneuriaeth ar gyfer y sir. Gan weithio gydag asiantaethau eraill bydd y digwyddiadau hyn yn gyfle i chi drafod eich syniadau a chael gwybod am y cymorth sydd ar gael. Bydd gennych chi arbenigwyr a busnesau lleol wrth law i ateb unrhyw gwestiynau sydd gennych.”

Mae Cynnal y Cardi, cynllun LEADER Ceredigion, a weinyddir gan Gyngor Sir Ceredigion, yn cael ei gefnogi trwy Cymunedau Gwledig Llywodraeth Cymru – Rhaglen Datblygu Gwledig Cymru 2014-2020, a ariennir gan Lywodraeth Cymru a’r Gronfa Amaethyddol Ewrop ar gyfer Datblygu Gwledig.

Am ragor o wybodaeth neu os hoffech archebu slot i siarad â sefydliad penodol, e-bostiwch cynnalycardi@ceredigion.gov.uk


Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle