Gall bod yn hapus hefyd eich gwneud yn iachach!

0
230
Iolo Williams

Yn ôl yr hen athronydd Groegaidd, Aristotle, “Hapusrwydd yw ystyr a phwrpas bywyd, holl nod a diwedd bodolaeth ddynol.” Mae’r dyfyniad hwn dros 2,000 o flynyddoedd oed, ond mae’r neges yn dal i fod yn wir heddiw!

Mewn holiadur diweddar a gynhaliwyd ar ran yr ymgyrch Helpwch Ni i’ch Helpu Chi, dywedodd 69% o drigolion Hywel Dda a holwyd eu bod yn bobl ‘gwydr hanner llawn’. I’r mwyafrif o’r rhai a holwyd, eu blaenoriaeth fwyaf ar gyfer 2022 oedd bod yn hapus a phan ofynnwyd iddynt beth sy’n eu gwneud yn hapus, dywedodd 67% o’r rhai sy’n byw yn ardal Hywel Dda mai’r pethau bach mewn bywyd sy’n eu gwneud yn hapus.

Mae ymchwil wedi profi nad yw bod yn hapusach yn gwneud i chi deimlo’n well yn unig, mae’n dod â llu o fanteision iechyd posibl. Mae pobl sy’n disgrifio eu hunain yn hapus yn dueddol o gael llai o broblemau iechyd, risg is o iselder, a byw bywydau hirach.

Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn awyddus i ledaenu’r gair fod bod yn egnïol yn dod â llawer o fanteision iechyd. Bydd yn eich helpu i gysgu’n well, cynnal pwysau iach, rheoli eich lefelau straen, a gwella eich lefelau egni – a gall hyn oll helpu i wella ansawdd cyffredinol eich bywyd. Mae bod yn actif yn arbennig o bwysig os ydych chi’n aros am driniaeth neu’n cael triniaeth. Bydd yn helpu i gryfhau eich calon a’ch ysgyfaint a fydd yn ei dro yn helpu eich corff i ymdopi ag unrhyw driniaethau presennol neu yn y dyfodol.

Dywedodd y Cyflwynydd teledu Iolo Williams, sydd wedi creu adnodd (https://naturalresources.wales/days-out/things-to-do/help-us-help-you-campaign/?lang=cy ) rhad ac am ddim i annog teuluoedd i fod yn actif trwy archwilio eu coetir lleol yng Nghymru fel rhan o’r ymgyrch, “Mae iechyd a hapusrwydd yn mynd law yn llaw, ac mae’n rhyfeddol sut y gall bod yn actif fod o fudd i’ch iechyd corfforol ond hefyd eich llesiant meddyliol. Y ffordd hawsaf i ddechrau yw canolbwyntio ar rywbeth yr ydych yn ei garu – boed yn daith natur, dosbarth dawns neu daith deuluol i’r parc.”

Mae’r prif bethau sy’n dod â hapusrwydd i drigolion ardal Hywel Dda yn cynnwys:

• Treulio amser gyda fy mhartner (69%)

• Treulio amser yn yr heulwen (68%)

• Mynd am dro ym myd natur (63%)

Roedd dros draean (37%) o’r rhai a holwyd yn meddwl y byddent yn teimlo’n hapusach pe baent yn gwneud mwy o ymarfer corff ac roedd 55% yn credu bod iechyd corfforol da yn helpu i wneud i chi deimlo’n hapusach.

Os ydych chi eisiau rhoi hwb i’ch taith i ffordd iachach o fyw, ond ddim yn gwybod ble i ddechrau ewch i’r tudalennau Byw a Theimlo’n Iach ar wefan GIG 111 Cymru am awgrymiadau a chyngor. Bydd pob newid a wnewch yn ein helpu ni i’ch helpu chi.

Mae gwybodaeth ddefnyddiol am gadw’n heini ar gael ar wefan Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda: https://hduhb.nhs.wales/healthcare/covid-19-information/preparing-for-treatment-advice-for-orthopaedic-patients/accordion-lifestyle-advice-for-ortho/being-active/


Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle