Cynhyrchwyr aroesol o Gymru yn rhan o brif arddangosfa fasnach bwyd a diod y DU

0
320

Mae deuddeg cwmni bwyd a diod o Gymru yn paratoi i fynychu arddangosfa fasnach bwyd a diod fwyaf ac uchaf ei pharch y DU. Bydd dros 1200 o arddangoswyr yn bresennol yn Food & Drink Expo yn Birmingham yr wythnos nesaf (25-27 Ebrill 2022), a phob un yn gobeithio dod o hyd i brynwyr a dosbarthwyr newydd.

Gyda chefnogaeth Llywodraeth Cymru, bydd stondin Cymru eleni yn cynnwys 12 o gwmnïau sydd eisiau arddangos eu cynnyrch blasus ac ymgorffori lle Cymru yn gadarn ar y map bwyd.

Mae’r digwyddiad tridiau o hyd, a gynhelir yn yr NEC yn Birmingham yn ddigwyddiad bob yn ail flwyddyn, ond oherwydd pandemig Covid roedd y digwyddiad diwethaf yn 2018.

Mae pob cwmni bwyd a diod o Gymru sy’n arddangos dan frand Cymru yn cael cymorth gan Lywodraeth Cymru, sy’n eu galluogi i fod yn bresennol mewn digwyddiadau masnach fel Food & Drink Expo.

Dywedodd Lesley Griffiths AS, y Gweinidog dros Faterion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd: “Mae ein cefnogaeth yn galluogi cynhyrchwyr i fynychu digwyddiadau fel Food & Drink Expo. Mae’n rhoi cyfle gwych iddyn nhw ryngweithio’n uniongyrchol â phrynwyr a dosbarthwyr ac arddangos y gorau o Gymru.”

“Trwy weledigaeth ac ymdrech hirdymor dros y ddegawd ddiwethaf rydym ni wedi cyflawni twf sylweddol, proffil diwydiant cynyddol, ac ysbryd tîm cryf yn seiliedig ar bartneriaeth sydd wedi rhoi sylfaen gadarn i ni adeiladu arni ar gyfer y dyfodol.”

Ymhlith y cynhyrchwyr Cymreig sy’n arddangos mae Distyllfa Aber Falls, Cradoc’s Savoury Biscuits, Daioni Organic, Dylan’s, Llaeth y Llan, Mario’s Ice Cream, Princes Gate Water Ltd, Terry’s Patisserie, Halen Môn, The Welsh Sausage Company Ltd., Tŷ Nant a Hufenfa De Arfon.

Bydd Princes Gate yn cyflwyno eu pecynnau sengl ac amlbecyn caead fflat 500ml sy’n 100% ailgylchadwy ac wedi’u hailgylchu 100%, yn ogystal â’u detholiad gwydr newydd wedi’i frandio mewn poteli 330ml a 750ml llonydd a phefriog.

Wrth sôn am fod yn rhan o ddirprwyaeth Bwyd a Diod Cymru, dywedodd Juliana Morgans o Princes Gate yn Sir Benfro, “Rydym ni’n gyffrous iawn i fod yn ôl yn arddangos eto ochr yn ochr â nifer o frandiau bwyd a diod gwych o Gymru. Edrychwn ymlaen at groesawu cwsmeriaid newydd a phresennol i’n stondin ac at y cyfle i arddangos ein detholiad gwydr newydd. Hefyd, ar ôl lansio ‘ein potel werddaf erioed’ yn 2021, wedi’i gwneud 100% o blastig wedi’i ailgylchu (ac eithrio’r caead a’r label), bydd yn wych dod â chynaliadwyedd yn ôl i flaen y gad a hyrwyddo pwysigrwydd defnyddio plastig wedi’i ailgylchu ac ailgylchadwy o fewn ein cynnyrch.”

Un arall o’r rhai fydd yn arddangos fydd Terry’s Patisserie Ltd o Gaerffili a fydd yn lansio eu brand i ddefnyddwyr. Yn y gorffennol dim ond arlwyo’n broffesiynol ar gyfer amrywiaeth o westai, bwytai a lleoliadau lletygarwch eraill o’r radd flaenaf roedden nhw’n ei wneud, a byddan nhw’n arddangos eu bariau gateaux moethus wedi’u lapio a’u patisseries te prynhawn.

Wrth siarad cyn y digwyddiad, dywedodd Rhys Williams, y Cyfarwyddwr Datblygu Busnes,

“Bydd Food & Drink Expo yn gyfle gwych i lansio ein dau focs dewis te prynhawn newydd. Bydd yn helpu i ailsefydlu cysylltiadau wyneb yn wyneb â’r diwydiant ac i ddangos bod Terry’s nid yn unig yn dal i fod o gwmpas ar ôl Covid ond ein bod yn ehangu gyda chynlluniau twf uchelgeisiol.”

Bydd Mario’s Ice Cream yn lansio detholiad o hufen iâ sgŵp 4.7 litr mewn amrywiaeth o flasau i gynnwys eu hufen iâ Cymreig newydd sbon sy’n cynnwys hufen iâ â blas rwm gyda darnau o fara brith a saws caramel moethus; Snickerone (hufen iâ blas menyn cnau daear gyda rhesi caramel llyfn a darnau o gnau daear a siocled); Cookie Dough (hufen iâ blas bisgedi gyda thoes cwci, darnau o sglodion siocled wedi’u troi â rhesi toes cwci hyfryd); Biscoffi (hufen iâ fanila arobryn, wedi’i fritho â saws biscoff a briwsion biscoff; Gingerbread (hufen iâ â blas sinsir gyda rhesi bara sinsir a chrymbl bisged ysgafn).

Dywedodd Mario Dalavalle, Rheolwr Gyfarwyddwr Mario’s Luxury Ice Cream, “Trwy fynychu Food & Drink Expo rydym ni’n gobeithio gallu dangos mai ni yw’r cwmni hufen iâ gorau yng Nghymru ac mai dim ond cynhwysion o’r ansawdd gorau rydym ni’n eu defnyddio. Hoffem ni ddenu busnes newydd o bob rhan o’r DU a gobeithio y bydd y digwyddiad hwn yn ein helpu i gyflawni hyn.”

Cynhelir Food & Drink Expo eleni rhwng 25 a 27 Ebrill 2022 yn NEC Birmingham, gan ddod â phrynwyr a gwneuthurwyr penderfyniadau ar draws y diwydiant cyfan ynghyd, o farchnadoedd groser, gwasanaeth bwyd, cyfanwerthu, gweithgynhyrchu a manwerthu arbenigol, gan gynnig llwybr ardderchog i’r farchnad i gyflenwyr yn y DU a thramor.

Bydd Food & Drink Expo yn rhedeg ochr yn ochr â phedair sioe ategol – Farm Shop & Deli Show, Food & Drink Expo, the National Convenience Show a the Forecourt Show.

Dewch i ymweld â stondinau Cymru L140, P140 a Q140 yn Food & Drink Expo am ddetholiad o gynhyrchion bwyd a diod newydd ac arloesol.


Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle