Wythnos Diogelwch Deall Peryglon Dŵr 2022

0
192
Bydd Ymgyrch Cyngor Cenedlaethol y Prif Swyddogion Tân, Deall Peryglon Dŵr, yn cael ei lansio yr wythnos hon.
Mae Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru yn cefnogi ymgyrch Cyngor Cenedlaethol y Penaethiaid Tân (NFCC), Deall Peryglon Dŵr. Cynhelir yr ymgyrch wythnos o hyd rhwng 25 Ebrill a 1 Mai 2022, ac mae’n ymgyrch genedlaethol sydd â’r nod o amlygu’r perygl o foddi damweiniol. Mae’r ymgyrch yn rhybuddio pobl am y perygl o foddi’n ddamweiniol pan fyddant yn y dŵr neu o’i amgylch. Nid oedd unrhyw fwriad gan bron 50% o’r bobl a foddodd yn 2020 i fynd i mewn i’r dŵr. Mae sawl un arall yn tanamcangyfrif y risg o neidio i mewn i ddŵr oer. Yn y ddau achos, gall effeithiau sioc dŵr oer a pheidio â gwybod sut i’ch achub eich hun achosi i hyd yn oed y nofiwr cryfaf foddi.Dywedodd Richard Davies, y Rheolwr Diogelwch Dŵr ar gyfer Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru:“Mae’n frawychus clywed nad oedd y bobl hynny a foddodd wedi bwriadu mynd i mewn i’r dŵr, ac nad oeddent ond yn cymryd rhan mewn gweithgareddau o ddydd i ddydd wrth ymyl dŵr, er enghraifft mynd am dro neu redeg. Mae’n bwysig bod yn ymwybodol o’r risgiau, a bod yn barod rhag ofn y byddwch yn mynd i’r dŵr yn ddamweiniol. Trwy amlygu’r mater a darparu negeseuon diogelwch syml, gobeithiwn leihau nifer y marwolaethau diangen hyn y gellir eu hatal.”Mae sioc dŵr oer yn berygl cyson sy’n gysylltiedig â nofio yn yr awyr agored gan y gall tymheredd dŵr agored, er enghraifft afonydd a llynnoedd, fod yn llawer is na’r disgwyl, yn enwedig yn y rhannu hynny sy’n llifo’n gyflym. Mae dŵr oer yn tynnu gwres o’r corff 32 gwaith yn gynt nag aer oer gan achosi sioc dŵr oer – mynd yn fyr o anadl, cramp, anadlu dŵr i mewn, trawiad ar y galon, strôc a boddi’n gyflym.Hyd yn oed ar ddiwrnod cynnes, gall y tymheredd mewn dŵr agored barhau yn oer iawn, gan achosi adwaith corfforol a all ei gwneud yn anodd rheoli eich anadlu, achosi panig, a’i gwneud yn anodd nofio. Os cewch eich hun mewn trafferth yn y dŵr, peidiwch â mynd i banig, brwydrwch eich greddf i gorddi â’ch breichiau a’ch coesau, pwyswch am yn ôl yn y dŵr ac arnofio ar eich cefn hyd nes y bydd effeithiau sioc dŵr oer yn diflannu. Yna, gallwch alw am help neu nofio i fan diogel.Yn 2020-21 daeth cyfanswm o 78 o alwadau i law mewn cysylltiad â digwyddiadau mewn dyfrffyrdd mewndirol neu afonydd, a arweiniodd at 42 o bobl yn cael eu hachub gan bersonél Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru.
Cyngor allweddol ar ddiogelwch dŵr
Os byddwch yn mynd am dro neu i redeg wrth ymyl dŵr, cadwch at y llwybrau priodol a chadwch yn glir o ymyl y dŵr.
Sicrhewch fod yr amodau’n ddiogel, peidiwch â cherdded na rhedeg yn ymyl dŵr yn y tywyllwch, pan fo’r ddaear yn llithrig neu mewn tywydd drwg.Os byddwch wedi yfed alcohol, peidiwch â mynd i’r dŵr, peidiwch â cherdded ar eich pen eich hun, a pheidiwch â defnyddio llwybrau sydd wrth ymyl dŵr.Peidiwch â mynd i mewn i’r dŵr i geisio achub person neu anifail – galwch 999 bob tro, a defnyddiwch unrhyw gyfarpar achub dŵr, os oes rhai wrth law.
Os byddwch yn treulio amser wrth ymyl dŵr – boed hynny gartref neu dramor – sicrhewch eich bod yn gyfarwydd â’r wybodaeth ddiogelwch leol a bod plant yn cael eu goruchwylio’n llawn.Mae’r Gwasanaeth Tân ac Achub wedi llwyddo i leihau nifer  y marwolaethau oherwydd tân trwy ganolbwyntio ar waith atal, a ‘nawr rhaid i ni gymhwyso’r un egwyddor i fynd i’r afael â boddi. Nid yw ymateb yn ddigon – mae’n rhaid i ni atal pobl rhag boddi.Os bydd rhywun mewn trafferth yn y dŵr, galwch 999. Wrth yr arfordir, gofynnwch am wylwyr y glannau. Os ydych mewn man  mewndirol, gofynnwch am y gwasanaeth tân. Ni ddylech fyth mynd i mewn i’r dŵr a cheisio achub rhywun.I gael rhagor o wybodaeth, negeseuon, arweiniad neu gyngor diogelwch yn ystod wythnos Diogelwch Dŵr, edrychwch ar sianeli ein Cyfryngau Cymdeithasol neu ewch i’n gwefan: http://www.mawwfire.gov.uk


Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle