Drewdod baw cŵn yn effeithio ar gymdogion

0
975

Mae perchennog anifail anwes o Lanelli a anwybyddodd geisiadau dro ar ôl tro i glirio baw ei chŵn wedi cael gorchymyn i dalu bron i £1400.

Clywodd Ynadon Llanelli sut yr oedd gardd Samantha Davies o Stryd Bennett yn Llanelli yn llawn baw cŵn, eitemau gwastraff a budreddi a oedd yn achosi arogl ofnadwy ac yn effeithio ar gymdogion gerllaw.

Mewn erlyniad gan Gyngor Sir Caerfyrddin dywedwyd wrth y llys bod nifer o gwynion wedi dod i law gan gymdogion yn yr ardal a nifer o rybuddion wedi’u rhoi gan swyddogion y cyngor am gyflwr yr ardd.

Ym mis Ebrill 2021, roedd Cyngor Sir Caerfyrddin wedi rhoi Hysbysiad Atal i Davies o dan Adran 80 o Ddeddf Diogelu’r Amgylchedd yn ei gorchymyn i symud y gwastraff a glanhau’r ardal o fewn 28 diwrnod.

Bum wythnos yn ddiweddarach aeth swyddogion i’r eiddo a chanfod bod yr ardd gynddrwg ag erioed ac anfonwyd llythyr pellach at Davies yn ei hatgoffa o ofynion yr hysbysiad. Pan ddychwelodd y swyddog i’r eiddo ar 17 Mehefin roedd yr ardd yn lanach ac roedd llai o wastraff.

Fodd bynnag, derbyniodd y cyngor gwynion pellach bedair wythnos yn ddiweddarach ynghylch tua 20 i 30 o fagiau baw cŵn a oedd wedi’u pentyrru yn erbyn ffens cymydog a oedd yn achosi arogl ofnadwy. Aeth y swyddogion i ymweld â’r eiddo eto a chanfod bod llawer iawn o faw cŵn yn gorchuddio’r patio.

Ymwelodd swyddogion â’r eiddo eto ar 9 Medi a 16 Chwefror eleni a gwelwyd bod yr ardd dal yn anniben a bod slabiau patio wedi’u gorchuddio â baw cŵn ac roedd rhai yn ymddangos fel eu bod wedi bod yno am sawl mis.

Nid oedd Davies yn bresennol yn y llys ond cyfaddefodd ei bod wedi torri’r hysbysiad ddwywaith a chafodd ddirwy o £300 am bob achos. Cafodd orchymyn i dalu £701 o gostau a gordal dioddefwr o £60.

Mae’r hysbysiad yn parhau i fod yn weithredol.


Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle