Dathlu bydwragedd a nyrsys ym mis Ma

0
315

Bydd Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda (BIP) yn ymuno a theyrnged fyd-eang mis nesaf i fydwragedd a nyrsys. 

Mae Diwrnod Rhyngwladol y Fydwraig ar ddydd Iau 5 Mai a Diwrnod Rhyngwladol y Nyrs ar ddydd Iau 12 Mai, sydd hefyd yn ben-blwydd geni Florencee Nightingale. 

Yn ystod pob un o’r diwrnodau, bydd y bwrdd iechyd yn tynnu sylw at eu gwaith aruthrol. Bydd hefyd yn gyfle i godi proffil ehangder ac amrywiaeth rolau nyrsio a bydwreigiaeth, eu harbenigedd, a’r effaith a gânt ar gleifion a defnyddwyr gwasanaeth. 

Dywedodd Mandy Rayani, Cyfarwyddwr Nyrsio, Ansawdd a Phrofiad y Claf BIP Hywel Dda: “Mae ein nyrsys a bydwragedd gwych yn gweithio ar draws ar draws ein hysbytai, ysbytai cymunedol, mewn meddygfeydd, canolfannau iechyd a chlinigau. Yn aml gall fod diffyg ymwybyddiaeth a dealltwriaeth ymhlith y cyhoedd ynghylch pwy yw nyrsys a bydwragedd, a beth faent yn eu gwneud. Mae eu rolau yn amrywiol iawn ac mae’n bwysig cydnabod eu cyfraniad at iechyd a lles ein cymunedau ar draws y tair sir. 

“Mae hwn wedi bod yn gyfnod heriol iawn i fydwragedd, nyrsys a gweithwyr gofal iechyd proffesiynol eraill. Fel nyrs rwy’n hynod falch o fod yn rhan o broffesiwn sy’n rhoi anghenion pobl wrth galon yr hyn y maent yn ei wneud a sut, er gwaethaf heriau’r pandemig, y maent wedi parhau i weithio gyda thosturi, dewrder a phroffesiynoldeb.” 


Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle