Yn dilyn y cyhoeddiad diweddaraf gan Lywodraeth Cymru, sy’n cadarnhau y bydd gorchuddion wyneb yn parhau’n orfodol mewn lleoliadau iechyd a gofal, dywedodd llefarydd Plaid Cymru dros iechyd a gofal, Rhun ap Iorwerth AS,
“Mae’r newyddion bod yn rhaid parhau i wisgo gorchuddion wyneb mewn lleoliadau iechyd a gofal yn adlewyrchu’r ffaith nad yw coronafeirws wedi diflannu.
“Er bod lleoliadau iechyd a gofal yn parhau i fod o dan bwysau, rhaid inni barhau i fod yn wyliadwrus a phwysleisio’r angen i atal y feirws.
“Mae hyn yn bwysig i gynlluniau adfer y GIG, er mai’r hyn sydd ei angen arnom mewn gwirionedd yw ymdrech ar y cyd i fynd i’r afael â’r anghydraddoldebau iechyd sy’n parhau ledled Cymru. Dro ar ôl tro mae rhai cymunedau, rhai grwpiau a rhai unigolion yn dioddef mwy nag eraill – roedd hyn yn wir yn ystod y pandemig. Ond dydy hynny ddim yn anochel. Mae angen inni sicrhau bod y bwlch iechyd, sy’n rhy aml yn adlewyrchu’r bwlch cyfoeth yn ein cymdeithas, ar gau er daioni.”
Help keep news FREE for our readers
Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle