Dathlu Hanner Canmlwyddiant Argae Llys-y-frân

0
595
Dwr Cymru Welsh Water News

Dydd Llun, 9 Mai byddwn ni’n agor Oriel yr Hanner Canmlwyddiant i’r cyhoedd gan ddangos delweddau a dogfennau o gyfnod adeiladu’r argae. Bydd rhodfa’r wal ar agor rhwng 11am a 2pm a bydd yr argae’n ffrydio am 11.30am i bawb ei weld.

Dathlu Hanner Canmlwyddiant Argae Llys-y-frân

Dechreuodd y gwaith i godi argae Llys-y-frân yn Chwefror 1968, ac arllwyswyd y concrit cyntaf y mis Medi canlynol.  Yn ystod y gwaith adeiladu, bu angen gwyro afon Syfynwy. Erbyn Mehefin 1970 roedd y basn dŵr llonydd, is-strwythur yr adeilad rheoli a’r pibellwaith yn y twnnel cyflenwi wedi cael eu cwblhau, a chafodd yr afon ei gwyro trwy’r pibellwaith a’r basn dŵr llonydd o dipyn i beth.

Gosodwyd  concrit terfynol ar 19 Mai 1971 ac roedd cyfanswm o dros 500,000 tunnell wedi cael eu gosod ers i’r gwaith ddechrau ym Medi 1968. Erbyn mis Mai, roedd dyfnder y dŵr wedi cynyddu i 40 troedfedd, ond dim ond ar 5 Rhagfyr 1971, naw mis union ar ôl i’r gwaith powndio ddechrau, y gorlifodd y gronfa ddŵr am y tro cyntaf.

Mae’r argae yn gampwaith peirianegol, ond mae hi wedi cynnal y dirwedd fel hafan ar gyfer natur a bywyd gwyllt hefyd.

Gyda chymorth y cyhoedd, rydyn ni wedi creu oriel fendigedig. Cynhaliwyd dwy sesiwn hel atgofion ym mis Ebrill pan ddaeth trigolion lleol draw i’r ganolfan i rannu eu hatgofion, ffotograffau gwreiddiol a chreiriau o’r cyfnod yn gyfnewid am baned.

Cododd ein Sesiwn Hel Atgofion bob math o drysorau hanesyddol, ond nid oedd neb wedi disgwyl gweld gwahoddiad a llyfryn gwreiddiol o’r agoriad swyddogol pan ddaeth Ei Mawrhydi’r Dywysoges Margaret, Iarlles Eryri, i agor Cronfa Ddŵr Llys-y-frân. Cynhaliwyd yr achlysur agor a drefnwyd gan Fwrdd Dŵr Sir Benfro dydd Mawrth, 9 Mai 1972.

Dydd Llun, 9 Mai byddwn ni’n agor Oriel yr Hanner Canmlwyddiant i’r cyhoedd gan ddangos delweddau a dogfennau o gyfnod adeiladu’r argae. Bydd rhodfa’r wal ar agor rhwng 11am a 2pm a bydd yr argae’n ffrydio am 11.30am i bawb ei weld.

Mae Canolfan Ymwelwyr Llys-y-frân ar agor bob dydd 10am – 5pm. Bwciwch eich Antur Dŵr Cymru, ar dir sych neu ar y dŵr a chewch amser wrth eich bodd. Bwciwch ar lein: https://llys-y-fran.co.uk/cy/pethau-iw-gwneud/


Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle